Oes safle posibl ar gyfer pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd?

Tair ysgol uwchradd Cymraeg sydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd - Glantaf, Plasmawr a Bro Edern
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n galw am sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd wedi croesawu'r newyddion bod cyn-arweinydd y cyngor wedi gwneud cais i lywodraeth flaenorol Cymru ddarparu tir yng nghanol y ddinas fel safle posibl ar gyfer yr ysgol newydd.
Dywedodd Huw Thomas - cyn arweinydd Cyngor Caerdydd sydd bellach yn aelod Llafur yn y Senedd - ei fod wedi "gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu'r tir sydd yn ei heiddo ar Sgwâr Callaghan i Gyngor Caerdydd fel safle posibl ar gyfer yr ysgol newydd hon".
Roedd hynny cyn yr etholiad fis Mai, a dywedodd Mr Thomas ei fod wedi cael "ymateb cadarnhaol" i'w gais gan y gweinidog cyllid ar y pryd, Mark Drakeford.
Mae Ymgyrch Ysgol De Caerdydd wedi rhoi croeso gwresog i'r newyddion, gan ei alw'n "ddatblygiad tyngedfennol" i'r ymgyrch.
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod "yn y camau cynnar o ddatblygu opsiynau strategol, hirdymor ar gyfer darpariaeth ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg".

Mae Sgwâr Callaghan i'r de-ddwyrain o orsaf Caerdydd Canolog
Wrth ofyn cwestiwn i'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, yn y siambr ddydd Mawrth, dywedodd Huw Thomas, AS Caerdydd Penarth, mai "mater o falchder i mi yn ystod fy nghyfnod fel arweinydd Cyngor Caerdydd, fu cyflawni twf sylweddol mewn darpariaeth addysg Gymraeg yn y brif ddinas".
"Bellach, mae'r ddinas yn ystyried sut y gellid agor pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yma.
"Yn gynharach eleni, derbyniais i ymateb cadarnhaol gan y gweinidog cyllid ar y pryd, Mark Drakeford, i fy nghais yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu'r tir sydd yn ei heiddo ar Sgwâr Callaghan i Gyngor Caerdydd fel safle posibl ar gyfer yr ysgol newydd hon.
"A gaf i gadarnhad heddiw gennych chi fod y cynnig hwnnw'n dal i sefyll o dan y llywodraeth newydd?"
'Gofalus iawn o ran gwneud datganiadau'
Mae'r gweinidog Anna Brychan wedi byw yn ne Caerdydd ers dros 25 mlynedd ac wedi cefnogi ymgyrch Ysgol De Caerdydd yn y gorffennol.
Atebodd: "Rwy'n ymwybodol fy mod i i fod yn ofalus iawn o ran gwneud datganiadau ar faterion sydd yn ymwneud â dyrannu llefydd ysgol, rhag ofn bydd y rheini'n rhai wedyn bydd yn rhaid i weinidogion wneud sylw arnyn nhw yn y man.
"Rhag tramgwyddo yn fy natganiad llafar cyntaf erioed, gaf i, os gwelwch yn dda, ofyn amynedd ganddo fe i fi gael gwirio i ba raddau mae e'n addas i fi fynd i fanylder ar y cwestiwn a gododd e ynglŷn â phedwaredd ysgol uwchradd yng Nghaerdydd?"

Dechreuodd gwaith ddydd Llun yn Sgwâr Callaghan ar gynllun tram newydd fel cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd, a fydd yn cysylltu gorsaf ganolog y ddinas â'r Bae erbyn dechrau 2029
Pan ofynnwyd iddi gan y BBC fore Mercher am y potensial i glustnodi'r safle, eglurodd Anna Brychan mai'r "anhawster rwy'n ei wynebu yw fy mod i hefyd yn aelod lleol Caerdydd Penarth".
"Mae hwn yn amlwg yn faes sydd o ddiddordeb i mi, ond fel gweinidog rydw i hefyd yn ymwybodol, os oes unrhyw faterion sy'n ymwneud ag ysgolion, sydd wrth gwrs yn benderfyniad i awdurdodau lleol, y gallen nhw fod yn destun dyfarniad gan weinidogion Cymru, ac mae honno'n broses nad ydw i'n awyddus i'w thorri yn fy wythnosau cyntaf yn y swydd.
"Ond mae gen i ddiddordeb, yn amlwg yn natblygiad yr iaith Gymraeg."
Ychwanegodd: "Mae gennym darged uchelgeisiol y bydd 50% o'n dysgwyr yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050.
"Mae hynny'n gofyn am ehangu ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a byddaf yn dilyn cynnydd tuag at hynny gyda diddordeb a gofal sylweddol."

Dechreuodd ymgyrch swyddogol dros sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd ym mis Gorffennaf 2024
Dywedodd Catrin Dafydd ar ran Ymgyrch Ysgol De Caerdydd bod y cyfathrebu a fu rhwng Huw Thomas a Mark Drakeford yn dangos bod "cytundeb dros yr angen am y bedwaredd ysgol uwchradd a bod rhaid ei lleoli wrth galon cymunedau mwyaf aml-ddiwylliannol y brifddinas a Chymru".
Ychwanegodd: "Mae safle Sgwâr Callaghan yn edrych fel dewis addawol iawn ar gyfer adeiladu ysgol Gymraeg bob oed.
"Bydd sefydlu Ysgol De Caerdydd wrth galon y gymuned yn symbol clir o'r Gymru newydd, gan sicrhau fod y Gymraeg ar gael yn hygyrch a chymunedol i ni i gyd.
"Cyhyd â bod digon o le ar gyfer adnoddau o bob math, mae'r datblygiad yn gwireddu gweledigaeth ddinesig gynhyrfus i'r Gymraeg, sy'n gwyrdroi'r ffaith mai Tre-biwt, un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y brifddinas, yw un o'r ardaloedd hefyd sydd â'r mynediad gwaethaf at addysg Gymraeg ar hyn o bryd."
Ychwanegodd Eshmael Palmer ar ran yr ymgyrch bod "lleoliad Sgwâr Callaghan yn cynnig potensial amlwg i blant a phobol ifanc yr ardal allu teithio'n iach drwy feicio a cherdded i'r ysgol.
"Mae'n hanfodol bod darpariaeth feithrin a chynradd Gymraeg yn rhan o'r datblygiad yma fel bod addysg gynradd Gymraeg ar gael i deuluoedd Tre-biwt ar garreg y drws.
"Mae'n hollbwysig hefyd bod y datblygiad yn rhan o gampws cymunedol fydd yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer y gymuned ehangach."

Mae Anna Brychan yn AS Caerdydd Penarth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu lleoedd mewn ysgolion, gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn unol â'u Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg statudol.
"Byddai angen i unrhyw gynnig ar gyfer ysgol newydd gael ei ddatblygu gan yr awdurdod lleol yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a byddai hynny'n cynnwys cynnal ymgynghoriad ffurfiol â chymunedau lleol.
"Nid oes modd i ni wneud unrhyw sylw ynghylch rhinweddau, neu fel arall, unrhyw gynnig yn ymwneud â threfniadaeth ysgolion y gellid ei gyfeirio at Weinidogion yn ddiweddarach am benderfyniad."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y ddinas ac rydym yn falch o'r cynnydd cryf a wnaed o ran cynyddu darpariaeth dros y degawd diwethaf a mwy."
Ychwanegodd, "Rhaid cynllunio unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol yn ofalus i sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn gynhwysol ac wedi'i halinio ag anghenion y gymuned.
"Mae cyllid ar gyfer ysgolion yn seiliedig ar niferoedd disgyblion, felly mae'n hanfodol bod twf yn parhau mewn ffordd strategol sy'n cefnogi ysgolion newydd a phresennol dros y tymor hir.
"Mae'r Cyngor yn y camau cynnar o ddatblygu opsiynau strategol, hirdymor ar gyfer darpariaeth ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.
"Mae'r awdurdod lleol yn ymgysylltu'n weithredol â rhieni, dysgwyr, staff a'r gymuned ehangach, a bydd gwrando ar yr adborth hwn yn helpu i lunio cynigion yn y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr

- Cyhoeddwyd13 Mai 2024

- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2024
