Crynodeb

  1. 'Mae'n cymryd byddin' i gynnal yr Eisteddfod a 'bydd yn un i'w chofio!'wedi ei gyhoeddi 11:49 GMT+1 23 Mai

    "Mae dwy flynedd ar hugain ers y cynhaliwyd yr Eisteddfod ar Ynys Môn ddiwethaf ac mae 'na hen edrych ymlaen i'w chroesawu wedi bod unwaith eto eleni," meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Manon Wyn Williams

    "Ond nid mater bach yw cynnal gŵyl genedlaethol fel hon, mae'n cymryd byddin!"

    Fe aeth ymlaen i restru nifer o garfannau o bobl sydd wedi cyfrannu'n helaeth at gynnal yr eisteddfod gan ddweud yr hoffai "ddiolch yn ddiffuant i bob un ohonynt am eu cyfraniad".

    Roedd yn falch i ddweud eu bod wedi cyrraedd y targed ariannol gan godi £380,000 cyn pwysleisio mai'r "gwirfoddolwyr yma ydi conglfeini'r Eisteddfod a'r mudiad".

    "Er cymaint yr edrych ymlaen, mae hi'n chwithig meddwl o fewn yr wythnos y bydd popeth ar ben, ond eto nid dyma'r diwedd.

    "Oherwydd mae gwaddol unrhyw eisteddfod cyn bwysiced â'r eisteddfod ei hun...dwi'n gwybod bydd Eisteddfod Ynys Môn 2026 yn un i'w chofio!"

    Manon Wyn Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Manon Wyn Williams yn y gynhadledd i'r wasg fore Sadwrn

  2. Nain a Mr Urdd yn edrych ar ôl y plantwedi ei gyhoeddi 11:49 GMT+1 23 Mai

    Teulu
  3. Pedwar llysgennad newydd i ysbrydoli mwy o bobl i ddysgu, defnyddio a mwynhau'r Gymraegwedi ei gyhoeddi 11:45 GMT+1 23 Mai

    Aleighcia Scott
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Aleighcia Scott yn un o'r llysgenhadon newydd

    Wrth i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddathlu’r nifer uchaf o ddysgwyr erioed – dros 20,000 yn 2024-2025 – maen nhw wedi cyhoeddi cynllun llysgenhadon newydd, gyda’r nod o ysbrydoli mwy o bobl, hyd yn oed, i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.

    Mae'r cynllun Llysgenhadon Dysgu Cymraeg yn cael ei lansio heddiw ar Faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn - fel rhan o ddathliadau ‘Diwrnod y Dysgwyr’ yr Eisteddfod.

    Mae pedwar llysgennad blaenllaw wedi’u penodi fel rhan o’r cynllun newydd:

    • Aleighcia Scott – y gantores a’r DJ, ac un o hyfforddwyr sioe S4C, Y Llais, sy’n cael ei hanrhydeddu â’r wisg Werdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026
    • Tori James – yr anturiaethwr a’r Gymraes gyntaf i ddringo Everest
    • Katie Owen – y DJ a’r dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol
    • Ian Gwyn Hughes – Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

    Dona Lewis, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyhoeddi'r cynllun

    Bydd y pedwar yn cynrychioli’r Ganolfan, gan rannu eu profiadau personol o’r Gymraeg, a thynnu sylw at waith y sector Dysgu Cymraeg. Byddant hefyd yn cefnogi ymgyrchoedd recriwtio, gan annog pobl o bob cefndir i ddechrau dysgu Cymraeg, neu i barhau â’u taith iaith.

    Mae’r cynllun yn rhan o weledigaeth y Ganolfan i ddenu a chefnogi cynulleidfaoedd eang i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, gan gynnwys gweithluoedd, cymunedau, sectorau allweddol fel Iechyd a Gofal, y Gweithlu Addysg a Chwaraeon, pobl ifanc a theuluoedd.

  4. Y cystadlu wedi dechrau!wedi ei gyhoeddi 11:33 GMT+1 23 Mai

    Mae ciwiau'n ffurfio y tu allan i'r Pafiliwn Gwyrdd wrth i'r cystadlu ddechrau ar y maes!

    Ciwio
  5. Cyngor Môn: 'Ddim yn hawdd codi pres ond yr hyn sydd wedi'i gyflawni yn rhyfeddol'wedi ei gyhoeddi 11:31 GMT+1 23 Mai

    Cyngor Ynys Môn

    Wrth siarad yn y gynhadledd i'r wasg, dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Ynys Môn, Dylan J Williams:

    "Ga'i groesawu pawb i Ynys Môn... mae'n bleser ac yn anrhydedd.

    "'Da ni'n ynys fach iawn dydan, ond mae ganddo ni galon enfawr, mae'n iaith a'n traddodiadau yn bwysig iawn i ni.

    "Ma' cael y digwyddiad yma yn dangos yr ynys ar ei gorau ac mae mor braf gweld y plant a'r bobl ifanc ar eu gorau - mae'r Eisteddfod yn gyfle i ni ddathlu plant a phobl ifanc Cymru a'n diwylliant.

    "'Da ni'n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau ar y maes a thu hwnt.

    "Dydi o ddim yn hawdd codi pres dyddia yma, mae'n galed i bawb. Ma' beth sydd wedi ei gyflawni yn wirioneddol rhyfeddol."

    Dylan
  6. O'r gynhadledd i'r wasg: Eisteddfod eleni yn 'destun balchder'wedi ei gyhoeddi 11:20 GMT+1 23 Mai

    "Croeso i Eisteddfod yr Urdd!," meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau yr Urdd, wrth agor y gynhadledd i'r wasg ar ddiwrnod cynta'r Eisteddfod.

    Dywedodd ei bod yn "destun balchder" gweld cymaint wedi cystadlu eleni - dros 118,000.

    Dywedodd fod 'na "ddarpariaeth o gystadlaethau newydd sy'n apelio at blant" gan gynnwys y "perfformiad unigol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol" sy'n digwydd heddiw.

    Wrth edrych ar y ffurflenni cystadlu dywedodd bod Ynys Môn wedi torri record - wrth i dros 14,000 o blant a phobl ifanc y sir gystadlu.

    Ychwanegodd fod hyn yn glod "i waith caled ein cefnogwyr a'r hyfforddwyr".

    Y gynhadledd i'r wasg fore Sadwrn
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gynhadledd i'r wasg fore Sadwrn

  7. Darlledu byw o’r maes gydol yr wythnoswedi ei gyhoeddi 11:12 GMT+1 23 Mai

    Eisteddfod yr Urdd

    Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu’n fyw o’r Maes drwy gydol yr wythnos, gan gychwyn gyda Ffion Emyr ac Aled Hughes brynhawn Sadwrn a nos Sul.

    Yna bydd Ifan Evans a Ffion Emyr yn darlledu’n fyw o’r Maes brynhawn Llun a Mawrth, cyn i Lisa Angharad ymuno ag Ifan brynhawn Mercher i Gwener.

    Ddydd Sul am 12:30 bydd oedfa'r Eisteddfod yn cael ei darlledu.

    Bydd BBC Cymru Fyw yn cyhoeddi straeon dyddiol o’r maes a BBC Radio Cymru 2 yn darlledu Noson Mawrion Môn Gŵyl Triban brynhawn Iau, 28 Mai.

    urddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

    Gall gwylwyr ddilyn yr holl gystadlu o’r pafiliwn Coch, Gwyn a Gwyrdd gydol yr wythnos ar ffrydiau S4C Clic a BBC iPlayer.

    Mae'r darlledu newydd ddechrau am 11.00, bydd yn dechrau fory hefyd am 11:00 ac yna o 09.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

    Mae modd ailwylio’r cystadlaethau o ffrydiau’r tri pafiliwn am hyd at dri diwrnod wedi’r cystadlu wrth fynd i adran ‘Ein Pigion’ ar dop tudalen gartref Clic, a symud yn ôl trwy’r ffrwd darlledu.

    Trystan Ellis-Morris, Heledd Cynwal ac Alun Williams fydd yn cyflwyno rhaglenni byw dyddiol o’r Eisteddfod, gyda’r arlwy yn cychwyn am 12.30 ddydd Sadwrn a dydd Sul (24 Mai).

    Mae’r rhaglenni byw yn parhau o ddydd Llun i ddydd Gwener gan ddechrau am 10.30.

    Bydd pob un o'r prif seremonïau yn fyw ar S4C drwy gydol yr wythnos.

    Bydd Pawb a’i Farn hefyd yn dod o faes yr Eisteddfod nos Iau, 28 Mai am 21.35.

    Yn ôl yr arfer, bydd S4C yn darlledu rhaglen uchafbwyntiau am 20:00 o nos Lun hyd at nos Wener, yng nghwmni’r cyflwynydd, Lloyd Lewis.

    Bydd y rhaglenni uchafbwyntiau hefyd ar gael ar Clic ac iPlayer, gydag is-deitlau Saesneg.

  8. Mwyaf erioed o gofrestriadau ar gyfer 'Steddfod yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 11:09 GMT+1 23 Mai

    Eisteddfod yr Urdd

    Am y tro cyntaf erioed, mae’r Urdd wedi ehangu’r brifwyl o chwech i saith diwrnod eleni, a hynny mewn ymateb i’r ceisiadau am gystadlaethau newydd.

    Roedd y nifer a wnaeth gystadlu yn 118,089 sef y nifer mwyaf erioed ar gyfer Eisteddfod a gynhaliwyd yn y gogledd.

    Mae’r mudiad hefyd yn falch o weld cynnydd yn y nifer o gystadleuwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd rhan, yn dilyn cyflwyno cystadlaethau ADY newydd.

    Yn ogystal, gwelwyd mwy nag erioed o blant a phobl ifanc Ynys Môn yn cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl - 14,060.

    Gyda dros 400 o gystadlaethau yn cael eu cynnal, yn amrywio o lefaru, canu a dawnsio i gelf, crefft, trin gwallt a choginio, mae'r cystadlu wedi cychwyn fore Sadwrn ac yn para trwy gydol yr wythnos tan ddydd Gwener 29 Mai.

    maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Emilia ac Olivia o Gaernarfon, aelodau o stiwdio dawnsio AMP, yn cystadlu ddiwedd y prynhawn

  9. Arfon Wyn yn edrych ymlaen i ddiddanuwedi ei gyhoeddi 11:01 GMT+1 23 Mai

    Mae'r Moniar Arfon Wyn wedi cyrraedd y Maes.

    Fe fydd yn perfformio gyda ffoaduriaid o Bolifia ac Afghanistan ddydd Gwener ym Mhabell Cyngor Môn.

    arfon
  10. Disgwyl mwy o gynnwrf nag arfer ar stondin Plaid Cymruwedi ei gyhoeddi 10:59 GMT+1 23 Mai

    Mae disgwyl cynnwrf mwy na'r arfer yn stondin Plaid Cymru yn ystod yr eisteddfod eleni.

    Y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yw llywydd y dydd, ddydd Mawrth.

    Ddydd Gwener bu'n siarad ar raglen Dros Ginio - rhaglen olaf Dewi Llwyd.

    Dyw'r brifwyl eleni ddim yn bell o gartref Rhun ap Iorwerth ym Môn.

    Ddydd Sul bydd ei dad Edward Morus Jones yn rhan o seremoni sy'n anrhydeddu'r llywyddion anrhydeddus.

    rhun
  11. ❤️🤍💚Ardaloedd, ysgolion, busnesau a thai wedi bod yn harddu'r frowedi ei gyhoeddi 10:50 GMT+1 23 Mai

    Wedi croesi afon Menai i Ynys Môn, mae'n amlwg bod y croeso i eisteddfodwyr yn fawr wrth i ardaloedd, ysgolion, busnesau ac unigolion harddu'r fro.

    A do mi gafwyd cystadleuaeth!

    Llongyfarchiadau a diolch am y croeso.

    Harddu broFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn
  12. Ymwelwyr o'r Wladfa: 'Caru'r eisteddfod' ac yn cystadlu heddiwwedi ei gyhoeddi 10:46 GMT+1 23 Mai

    Mae criw o Batagonia wedi cyrraedd maes yr Eisteddfod y bore 'ma.

    Meddai Ariela Gibbon (ar y chwith): “'Nathon ni gyrraedd maes awyr Heathrow, teithio i Ferthyr, ac wedyn bore ddoe teithio i fan hyn."

    Dywed Ariela ei bod yn edrych ymlaen, gan ddweud: “Dwi’n caru’r eisteddfod!"

    Bydd pedwar o blant o'r Wladfa'n cystadlu heddiw hefyd.“Dwi eisiau gweld nhw yn perfformio."

    “'Dan ni’n trio dod blwyddyn nesaf gyda 25 o blant, dim ond pedwar eleni, ond blwyddyn nesaf amdani!”

    Ymwelwyr o'r WladfaFfynhonnell y llun, bbc
    pataognia
  13. Dod o hyd i Mr Urdd ar y maes!wedi ei gyhoeddi 10:42 GMT+1 23 Mai

    Mae Isobel o Borthaethwy yn ffan mawr o Mr Urdd!

    Isobel
  14. Croeso Cyngor Môn i 'wythnos fythgofiadwy ar y Fam Ynys'wedi ei gyhoeddi 10:38 GMT+1 23 Mai

    Cyngor Ynys Môn

    Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard: “Fel Môn Mam Cymru, mae Ynys Môn yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, ac rydym yn hynod o falch cael croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yma. Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddathliad pwerus o’n hiaith, ein diwylliant ac, yn anad dim, o’n pobl ifanc.

    “Mae gŵyl eleni yn arbennig o arwyddocaol gan ei bod yn cael ei chynnal dros saith diwrnod am y tro cyntaf, gyda miloedd o blant a phobl ifanc yn cystadlu ac yn defnyddio’r Gymraeg yn naturiol mewn awyrgylch greadigol, gymdeithasol a chystadleuol.

    “Ar ran Cyngor Sir Ynys Môn a phobl ein hynys, hoffwn estyn croeso cynnes iawn i bawb sy’n ymweld, a dymuno pob lwc i’r holl gystadleuwyr yn ystod wythnos fythgofiadwy yma ar y Fam Ynys.”

    Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard
    Disgrifiad o’r llun,

    Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard yn croesawu'r Eisteddfod

  15. Help wrth law wrth chwilio am y rhagbrofionwedi ei gyhoeddi 10:31 GMT+1 23 Mai

    "Pa ffordd i'r rhagbrofion...?" - William a Grace, a'u tad Euros, o Aberystwyth, yn cyrraedd y Maes.

    Mae Grace yn cystadlu yn y perfformiad aml-gyfrwng heddiw

    maes
  16. Cadeirydd yr Urdd: 'Wedi mentro cynnal gŵyl saith niwrnod'wedi ei gyhoeddi 10:24 GMT+1 23 Mai

    Urdd Gobaith Cymru

    Nia Bennett yw Cadeirydd yr Urdd, a dyma oedd ganddi i'w ddweud wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod:

    "Mae'n fraint cynnal yr ŵyl ar yr ynys arbennig hon, sy'n adnabyddus am ei threftadaeth ieithyddol a diwylliannol.

    "Mae hi'n golygu llawer i mi yn bersonol eleni gan i mi gael fy magu ar Ynys Môn.

    "Eisteddfod yr Urdd Porthaethwy 1976 oedd y tro cyntaf i mi brofi hwyl a chyffro'r ŵyl genedlaethol. Dyna lle dechreuais fagu hyder a chariad at berfformio ynghyd â'r ymdeimlad o berthyn."

    Nia BennettFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Cadeirydd yr Urdd, Nia Bennett, wedi cael ei magu ar Ynys Môn

    Ychwanegodd: "Yn 2026 rydyn ni wedi mentro cynnal gwyl saith niwrnod am y tro cyntaf yn hanes y mudiad.

    "Mae'r newid hwn wedi'i wneud ar ôl gwrando - ar ein haelodau, ein cymunedau a'n partneriaid - gan geisio cydbwyso'r hyn sy'n draddodiad â'r hyn sy'n gyfoes heddiw."

  17. Y maes yn prysuro wrth y fynedfa ar ôl i'r gatiau agor y bore 'mawedi ei gyhoeddi 10:16 GMT+1 23 Mai

    torfeydd
    maes
    maes
  18. Pwy sylwodd ar rywbeth gwahanol wrth yrru drwy Landdeusant?wedi ei gyhoeddi 10:11 GMT+1 23 Mai

    Os yrrwch chi drwy Landdeusant yr wythnos yma fe wnewch chi sylwi fod rhywbeth yn edrych yn wahanol yno.

    Mae'n amlwg fod perchnogion Melin Llynon wedi mynd i ysbryd yr ŵyl, gan baentio'r strwythur gyda lliwiau eiconig gwyn, coch a gwyrdd yr Urdd.

    Cafodd Melin Llynon ei hadeiladu yn Llanddeusant yn 1775 er mwyn cynhyrchu blawd.

    Melin LlynonFfynhonnell y llun, Phil Hen
  19. Mynd ar y reids yn flaenoriaeth i rai!wedi ei gyhoeddi 10:08 GMT+1 23 Mai

    Mae Sian o Aberaeron yma drwy'r wythnos i helpu ei mam ar ei stondin Y Lein. "Dwi am helpu a mynd ar y reids."

    hufen ia
  20. Bwrlwm ym Mhabell Merched y Wawr a phaned ☕wedi ei gyhoeddi 10:02 GMT+1 23 Mai

    Merched y Wawr

    Eleni mae Merched y Wawr yn codi arian at ymchwil canser a 'Positifrwydd Pinc' yw'r thema.

    Mae nhw'n estyn croeso cynnes i eisteddfodwyr gydol yr wythnos.

    Ewch at y criw am baned a sgwrs!

    myw
    myw