Crynodeb

  1. Nid ar y llwyfan yn unig ma'r nerfauwedi ei gyhoeddi 15:18 GMT+1 23 Mai

    Yn ogystal â'r nerfusrwydd ar y llwyfan, mae'n bosib ffeindio ffyrdd eraill i gael y curiad calon i gyflymu ar y maes!

    maes
  2. Criw y ddawns flodau yn Eisteddfod yr Urdd 1976 yn ail-greu llunwedi ei gyhoeddi 15:14 GMT+1 23 Mai

    Y criw dawnsioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Y dawnswyr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd 1976

    Fis Mai 1976 cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

    Hanner canrif yn ddiweddarach, mae criw y ddawns flodau'r flwyddyn honno wedi dod at ei gilydd i ail-greu llun arbennig.

    Darllenwch yr hanes yma.

    Y criw dawnsio yn 2026Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Cefn (o'r chwith) Wayne Lock, Robin Williams, Gwyn Morgan, Arwel Roberts, Huw Gwilym, Alun Griffith, Robat Tomos, Michael Randal, Aled Davies, Keith Tomos. Canol (o'r chwith): Angharad Harris, Mair Stead, Gwen Davies, Rhian Hughes, Wendy Williams, Bethan Tomos, Eleri Jones, Nia Lloyd Jones. Blaen (o'r chwith): Marc Bronley, Magi Tomos

  3. Francesca Sciarrillo: 'Llysgenhadon arbennig i'r iaith Gymraeg'wedi ei gyhoeddi 15:13 GMT+1 23 Mai

    Dywedodd Francesca Sciarrillo, un o feirniaid Medal y Dysgwyr ac Medal Bobi Jones, ei bod yn "gwybod o brofiad faint mae'r cystadlaethau yma'n gallu newid bywydau siaradwyr newydd ifanc".

    "Mae'r cyfle i rannu ein straeon a chariad o ddysgu'r iaith Gymraeg ar lwyfan cenedlaethol fel hyn yn amhrisiadwy," meddai.

    "Mae wedi bod yn fraint wirioneddol i ddod i 'nabod y cystadleuwyr i gyd eleni: pob un yn llysgenhadon arbennig i'r iaith Gymraeg.

    "Mae wedi bod yn bleser i ddysgu mwy am sut mae'r Gymraeg yn chwarae rhan holl bwysig yn eu bywydau oherwydd eu hymdrechion i'w dysgu. Llongyfarchiadau enfawr i bawb sydd wedi cystadlu eleni."

    Francesca Sciarrillo
    Disgrifiad o’r llun,

    Francesca Sciarrillo, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019

  4. Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled yn cael ei gyflwyno i wirfoddolwr lleolwedi ei gyhoeddi 15:04 GMT+1 23 Mai

    Urdd Gobaith Cymru

    Derek Evans o Lannerch-y-medd, Ynys Môn, ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni.

    Cafodd y wobr ei rhoi iddo yn Eisteddfod Sir Ynys Môn, oedd yn cael ei chynnal yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

    Derbyniodd Derek y wobr am wirfoddoli'n gyson gyda'r Urdd ar Ynys Môn a thu hwnt ers bron i 50 mlynedd.

    DerekFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Derek Evans wedi gwirfoddoli'n gyson gyda'r Urdd yn Ynys Môn a thu hwnt ers bron i 50 mlynedd

    Eleni hefyd mae e'n aelod o'r pwyllgor gwaith.

    Caiff y tlws ei roi gan yr Urdd yn flynyddol i wirfoddolwyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

    Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ddydd Mercher ar Lwyfan y Canlyniadau am 10:00.

    Gallwch ddarllen mwy am hanes Derek Evans yma.

  5. Be' well nag ymarfer dawnsio stryd gyda mynyddoedd Eryri yn y cefndir?wedi ei gyhoeddi 15:02 GMT+1 23 Mai

    Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi dod o hyd i fan ar y maes ble mae digon o le iddyn nhw ymarfer y ddawns stryd - ac am le!

    Yr haul yn tywynnu a mynyddoedd Eryri yn y cefndir.

    Dawnswyr
  6. 🤔 Beth sy'n digwydd pryd eleni?wedi ei gyhoeddi 14:54 GMT+1 23 Mai

    Urdd Gobaith Cymru

    • Dydd Sadwrn: Dysgwyr, Dawnsio Disgo, ADY
    • Dydd Sul: Aelwydydd
    • Dydd Llun: Uwchradd bl10 a dan 19
    • Dydd Mawrth: Uwchradd bl7,8,9 ac offerynnol bl10 a dan 25
    • Dydd Mercher: Adrannau, Uwchradd offerynnol bl7,8,9
    • Dydd Iau: Cynradd (Cân actol a Pherfformiad theatrig i ysgolion ac Adrannau)
    • Dydd Gwener: Cynradd
  7. Perchennog siop: 'Breuddwydio coch, gwyn a gwyrdd'wedi ei gyhoeddi 14:49 GMT+1 23 Mai

    Mae Rhian Sinnott yn berchennog siop yn Llangefni ac wedi bod yn gwerthu baneri a nwyddau i gasglu arian at yr Eisteddfod.

    Dywedodd: "Mae o wedi bod yn grêt, 'da ni gyd wedi edrych ymlaen at yr Eisteddfod ac i weld pawb yn dod i Ynys Môn.

    "Mae pobl wedi bod yn addurno a dod i nôl eu pethau o'r siop - y bunting ac ati. Mae 'na gyffro yn bendant."

    Mae Rhian Sinnott wedi bod yn gwerthu nwyddau'r Urdd yn ei siop
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Rhian Sinnott wedi bod yn gwerthu nwyddau'r Urdd yn ei siop

    Ychwanegodd: "Mae 'na alw mawr wedi bod amdanyn nhw, 'dw i'n siŵr mod i'n breuddwydio coch gwyn a gwyrdd.

    "Mae o fatha cymuned, pawb yn dod at ei gilydd a phawb yn croesawu'r Urdd i'r ynys, mae'n grêt."

  8. Enillydd y llefaru unigol i ddysgwyr wrth ei foddwedi ei gyhoeddi 14:48 GMT+1 23 Mai

    Mae Esa, 7 oed, o Ysgol Bro Idris, Dinas Mawddwy, yn dathlu ar ôl ennill cystadleuaeth y llefaru unigol i ddysgwyr - ddwy flynedd yn unig ers iddo ddechrau siarad Cymraeg!

    Llongyfarchiadau Esa.

    Esa
  9. Sefydlu adran newydd yn sgil ymweliad y Brifwyl â Mônwedi ei gyhoeddi 14:46 GMT+1 23 Mai

    Mae Adran yr Urdd newydd sbon wedi cael ei sefydlu ym Môn yn sgil ymweliad yr Eisteddfod â'r ynys - Adran Lligwy.

    Elfed Morgan Morris yw un o'r rhai sydd wedi bod yn hyfforddi'r aelwyd.

    "Mae'r Eisteddfod yma o'r diwedd, a 'da ni wedi bod yn edrych ymlaen drwy'r flwyddyn gron am y diwrnod mawr o agor," meddai.

    "Fel ysgol - Ffederasiwn Gwel y Glannau - 'da ni wedi bod yn andros o weithgar, nid yn unig yn cystadlu fel ysgol, ond hefyd yn sefydlu adran newydd, sef adran Lligwy."

    Mae Elfed Morgan Morris wedi bod yn hyffroddi plant yr adran newydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Elfed Morgan Morris wedi bod yn hyffroddi plant yr adran newydd

    "Bwriad yr adran newydd yw rhoi cyfle y tu allan i oriau ysgol i fwynhau cerddoriaeth, drama a dawns yn sŵn y Gymraeg," ychwanegodd.

    "Mae o wedi bod yn hwb i ni fel ysgol, i feddwl am gyfleoedd newydd i'n disgyblion ni, ac oherwydd y niferoedd sydd wedi dangos diddordeb eleni, mi fyddwn ni'n parhau y flwyddyn nesaf."

  10. Wedi sbotio Rhys Meirion...ac mae gitâr yn ei ddwylo!wedi ei gyhoeddi 14:45 GMT+1 23 Mai

    Wrth grwydro'r maes mae Cymru Fyw wedi dod o hyd i Rhys Meirion ac mae wrthi'n perfformio un o'i ganeuon sydd wedi cael ei hysbrydoli gan ei daith i Batagonia.

    Rhys Meirion
  11. Edrych ymlaen yn fawr at y Sioe 'Dilyn Sgwarnog' nos Lunwedi ei gyhoeddi 14:38 GMT+1 23 Mai

    Mae dros 150 o blant oed cynradd, o bob cwr o'r ynys, wedi bod yn ymarfer yn brysur i lwyfannu'r sioe arbennig hon a fydd i'w gweld yn y Pafiliwn Gwyn, nos Lun.

    Mae Dilyn Sgwarnog yn sioe sy'n ailddychmygu stori Gwen, merch Ifan Gruffydd, ac yn plethu gwahanol chwedlau o Ynys Môn.

    Ynddi mae negeseuon oesol am obaith a pherthyn, a hynny yn wyneb profiadau anodd fel galar a cholled.

    Mae cyfeiriadau hefyd at heriau ein byd cyfoes - fel rhaniadau cymdeithasol, erledigaeth a senoffobia.

    Poster yn hysbysebu sioe y plant cynradd nos LunFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Poster yn hysbysebu sioe y plant cynradd nos Lun

    Pwy yw'r criw y tu ol i'r sioe?

    Cyfarwyddwr - Lois Postle

    Cyfarwyddwr Cerdd - Nia Efans

    Sgript - Gareth Evans-Jones

    Cyfansoddi caneuon - Nia Efans a Rhydian Meilyr

  12. 🔴⚪🟢 Croeso twymgalon yn Llangefni i eisteddfodwyrwedi ei gyhoeddi 14:31 GMT+1 23 Mai

    ysgol
    siop
    siop
    llangefni
    croeso
    croeso
  13. Tybed a fydd seren fel Ruby eleni?wedi ei gyhoeddi 14:29 GMT+1 23 Mai

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae sawl cyfweliad gydag enillwyr ifanc Eisteddfod yr Urdd ar hyd y blynyddoedd wedi denu cryn sylw.

    Yn 2024 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Maldwyn doedd Ruby o Lanelli ddim yn gallu cuddio ei hapusrwydd ar ôl ennill yn cystadlu yng nghategori llefaru unigol Blwyddyn 5 a 6 i ddysgwyr.

    Y gyflwynwraig Mari Lovgreen oedd y cyntaf i sgwrsio gyda Ruby ar ôl ei buddugoliaeth ac ydy mae Mari yn ôl eto eleni.

    Disgrifiad,

    Roedd Ruby mor hapus wedi iddi i ennill cystadleuaeth llefaru i ddysgwyr yn yr Eisteddfod yr Urdd 2024

  14. Cyfarwyddwr Celfyddydau'r Urdd: 'Cwbl ddibynnol ar y gwirfoddolwyr'wedi ei gyhoeddi 14:20 GMT+1 23 Mai

    Nos Fercher daeth Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn i'r maes am y tro cyntaf.

    "Dwi'n gobeithio bod y maes wedi eu plesio, ac roedd o'n hyfryd eu gweld nhw i gyd yn gwenu wrth grwydro'r safle," medd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau yr Urdd.

    "Mae ein gwirfoddolwyr yn Ynys Môn wedi bod yn anhygoel, o dan arweiniad y Cadeirydd, Manon Wyn Williams.

    "Maen nhw wedi bod yn gefn i ni fel staff ers dros dair blynedd, yn codi arian ac yn sicrhau fod pob plentyn ar yr ynys, ac yng Nghymru gyfan yn cael y cyfle i fwynhau'r Eisteddfod.

    "Mae'r Urdd yn gwbl ddibynnol ar ein gwirfoddolwyr, a fedra i ddim diolch digon i bob un sy'n ein helpu i gynnal yr ŵyl."

    gwirfoddolwyrFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwirfoddolwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn gyda staff yr Urdd

  15. Cyhoeddi enillydd Medal Bobi Jones 2026wedi ei gyhoeddi 13:59 GMT+1 23 Mai
    Newydd dorri

    Eisteddfod yr Urdd

    Katie Baddiley yn wreiddiol o Nottingham ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon sydd wedi ennill Medal Bobi Jones Eisteddfod Yr Urdd 2026

    Mewn cystadleuaeth o safon anhygoel, gyda 7 ymgeisydd a ‘phob un yn ysbrydoliaeth’ yn ôl y beirniad, Katie ddaeth i’r brig, o drwch blewyn.

    Dechreuodd Katie ddysgu Cymraeg yn 2023 pan symudodd i Fangor i astudio yn y Brifysgol. Mae'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Nantlle.

    Mae hi wedi newid cyfrwng iaith ei bywyd yn llwyr mewn amser byr, ac yn awyddus i helpu dysgwyr eraill ar eu taith.

    Dywedodd: “Dwi’n teimlo’n gryf y dylai unrhyw un sy’n gweithio mewn ardal Gymraeg efo’r cyhoedd ddangos parch drwy ymdrechu i siarad Cymraeg gyda nhw.

    “Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu cwrs yn Nant Gwrtheyrn ac i ddysgu Cymraeg drwy fy ngwaith. Dwi’n mwynhau canu yn y Gymraeg gyda Chôr Heddlu Gogledd Cymru. Hoffwn fagu plant sy'n rhugl yn y Gymraeg un diwrnod ac efallai ysgrifennu colofn yn y Gymraeg yn fy mhapur bro lleol.”

    Dyfarnwyd Caitlin Brunt o’r Drenewydd yn ail a Georgia Jones o Wrecsam yn drydydd.

    Mae Medal Bobi Jones yn cael ei rhoi i unigolyn 19-25 oed, sy'n dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu'r iaith, yr effaith mae dysgu'r Gymraeg wedi cael ar eu bywyd, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

    KATIEFfynhonnell y llun, urdd Gobaith Cymru
  16. Cyhoeddi enw enillydd Medal y Dysgwyr 2026wedi ei gyhoeddi 13:58 GMT+1 23 Mai
    Newydd dorri

    Eisteddfod yr Urdd

    Caerwyn Saunders sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2026.

    Mae Caerwyn yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treorci ac yn aelod brwd o’r Urdd sy’n gwirfoddoli ac yn cystadlu yn aml mewn Eisteddfodau. Mae’n Gadeirydd y Criw Cymraeg yn yr ysgol, ac yn falch iawn o fod yn llysgennad ysgol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Dywedodd: “Mae’r Urdd wedi agor drws i fyd hollol newydd i fi a dwi wedi bod yn lwcus i gael fy ysbrydoli gan athrawon anhygoel bob dydd yn yr ysgol yn Nhreorci, yn enwedig Mrs James, sy’n rhoi popeth er mwyn codi statws y Gymraeg yn yr ysgol. Hoffwn fod yn athro Cymraeg yn y dyfodol – i ysbrydoli eraill i gadw’r iaith yn fyw.

    “Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb – a dyma’r neges dwi’n benderfynol o’i lledaenu.”

    Dyfarnwyd Jayden Reaney o Gaer yn ail ac Effie Capstick o Gaergybi yn drydydd.

    Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei rhoi i berson ifanc rhwng Blwyddyn 10 a dan 19 oed, sy'n gallu dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu'r gwaith ac yn gymdeithasol.

    Rhoddir Medal Bobi Jones gan Aelwyd / Capel Cildwrn a rhoddir Medal y Dysgwyr gan Bwyllgor Cronfa Eisteddfod Genedlaethol 1957.

    CaerwynFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  17. Perfformiadau byw yn stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaetholwedi ei gyhoeddi 13:37 GMT+1 23 Mai

    TewTewTennau sydd wrthi'n diddanu'r gynulleidfa

    TewTewTennau
  18. 🖌️ A oes paent coch, gwyn a gwyrdd ar ôl ym Môn?wedi ei gyhoeddi 13:33 GMT+1 23 Mai

    Ar draws yr ynys mae nifer o bentrefi a threfi wedi bod wrthi yn ddygn yn paentio'n goch, gwyn a gwyrdd.

    BryngwranFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Bryngwran

    Star a PhenmynyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Star a Phenmynydd

    Ardal BryngwranFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Ardal Bryngwran

    BodfforddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Bodffordd

  19. Prif seremoni'r dydd yw cyflwyno Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Joneswedi ei gyhoeddi 13:26 GMT+1 23 Mai

    Eisteddfod yr Urdd

    Prif seremoni'r dydd yw cyflwyno Medal y Dysgwyr ar gyfer pobl ifanc 10–19 oed, a Medal Bobi Jones ar gyfer dysgwyr rhwng 19 a 25 oed.

    Nod y ddwy gystadleuaeth yw gwobrwyo unigolyn sydd:

    • wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg
    • yn ymfalchïo yn ei G/Chymreictod
    • yn gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg

    Joe MorganFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Joe Morgan o Gaerdydd enillodd Fedal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd 2025

    Lloyd Wolfe o Gaerdydd oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn 2025Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Lloyd Wolfe o Gaerdydd oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn 2025

  20. Mistar Urdd yn edrych ymlaen ac yntau bellach yn 50!wedi ei gyhoeddi 13:22 GMT+1 23 Mai

    Mistar Urdd a'r dyn a'i greodd - Wynne Melville JonesFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mistar Urdd a'r dyn a'i greodd - Wynne Melville Jones

    Does yna'r un 'Steddfod yn gyflawn heb ymweliad gan Mistar Urdd.

    Eleni fe ddathlodd ei ben-blwydd yn 50 a bu cryn ddathlu ar draws Cymru.

    Mistar Urdd flynyddoedd yn ôl gyda phlant ifancFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
    Disgrifiad o’r llun,

    Mistar Urdd flynyddoedd yn ôl gyda phlant ifanc

    Ar 20 Chwefror, 1976, y daeth y cymeriad bach coch, gwyn a gwyrdd i fodolaeth, ac mae nawr wedi bod yn ffefryn gyda phlant Cymru ers hanner canrif.

    Mistar Urdd gyda Sage Todz yn Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mistar Urdd gyda Sage Todz yn Stadiwm Dinas Caerdydd

    Ac ydy mae e wedi cyrraedd Ynys Môn!

    Mr Urdd yng Ngae Sioe MônFfynhonnell y llun, Yr Urdd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mr Urdd yng nghae Sioe Môn, lleoliad yr eisteddfod eleni