Crynodeb

  1. Enillydd cyntaf y Brifwyl wrth ei foddwedi ei gyhoeddi 13:21 GMT+1 23 Mai

    Eisteddfod yr Urdd

    Esa Hankin o Ysgol Bro Idris Meirionnydd yw'r enillydd cyntaf eleni.

    Fe enillodd e am adrodd 'Amser Gwely' yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol Bl. 2 ac iau i Ddysgwyr.

    Ac roedd e wrth ei fodd!

  2. Medal aur Pencampwriaeth y Byd ar lwyfan yr Urddwedi ei gyhoeddi 13:13 GMT+1 23 Mai

    Mae Lucy yn edrych ymlaen i wisgo medal aur Emma Finucane
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Lucy yn edrych ymlaen i wisgo medal aur Emma Finucane

    Un sy'n edrych ymlaen yn arw at gystadlu yn yr Eisteddfod eleni yw Lucy, disgybl ym mlwyddyn pedwar, Ysgol y Model, Caerfyrddin.

    Dywedodd ei bod yn "gwneud popeth! Y gân actol, Mistar Mostyn, y cerdd dant, heini a'r ymgom".

    Ar gyfer y gystadleuaeth llefaru unigol i ddysgwyr, mae Lucy am wisgo medal go arbennig o gwmpas ei gwddf – medal aur Pencampwriaeth y Byd a enillwyd gan un o gyn-ddisgyblion yr ysgol, Emma Finucane.

    Disgrifiad,

    Mae Lucy yn edrych ymlaen i wisgo medal go arbennig wrth gystadlu

  3. Teulu'n diolch ar ôl i'w mab gyda Syndrom Down allu cystadluwedi ei gyhoeddi 13:05 GMT+1 23 Mai

    Mae teulu dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin wedi diolch i'r Urdd am gynnig cystadleuaeth newydd yn yr Eisteddfod eleni i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

    Wedi bod yn rhan o Aelwyd Cynwyl Elfed ers yn 12 oed, dyma fydd y tro cyntaf y bydd Sion Davies yn medru cystadlu'n unigol mewn categori sy'n addas ar ei gyfer.

    Mae'r gystadleuaeth 'Perfformiad unigol dan 25 i ddisgyblion ysgolion/Unedau ag Anghenion Dysgu Ychwanegol' yn un o nifer o gystadlaethau newydd sydd yn rhan o'r ŵyl eleni.

    Daw hyn wrth i'r ŵyl ymestyn i saith diwrnod am y tro cyntaf.

    Sion
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Sion Davies, 20, wedi bod wrth ei fodd yn dawnsio a chystadlu gydag Aelwyd Cynwyl Elfed ers yn ifanc

    Bellach yn 20 oed mae Sion Davies wedi bod wrth ei fodd yn dawnsio a chystadlu gydag Aelwyd Cynwyl Elfed ers yn ifanc.

    Gyda chystadlaethau newydd yn rhan o'r Eisteddfod eleni, bydd y dyn ifanc yn medru cystadlu'n unigol am y tro cyntaf - profiad mae e'n edrych ymlaen yn arw ar ei gyfer.

    "Fi'n barod. Dim fi yn nerfus" meddai, "Fi'n barod!"

    Gyda'r gystadleuaeth yn rhoi rhyddid i'r unigolyn berfformio mewn unrhyw gyfrwng, mae Sion wedi penderfynu clocsio.

  4. Dim pawb sy'n gallu dawnsio disgo eleni...wedi ei gyhoeddi 13:04 GMT+1 23 Mai

    "Nes i ddisgyn oddi ar ffens dair wythnos yn ôl," meddai Isabelle, o Ysgol Creigiau, Caerdydd felly'n anffodus fydd hi methu â dawnsio disgo am sbel....ond yn lwcus iawn cystadlu yn y llefaru mae hi yn yr Eisteddfod eleni!

    Isabelle
  5. Ysgol Bae Baglan wedi gorfod teithio'n bellach eleniwedi ei gyhoeddi 12:54 GMT+1 23 Mai

    Mae disgyblion Ysgol Bae Baglan, Port Talbot, wedi gorfod teithio dipyn pellach eleni o'i gymharu efo 'Steddfod Margam y llynedd - oedd ar eu stepen drws. Maen nhw yma i gystadlu yn y grŵp llefaru.

    baglan
  6. Ydy'r ardal syrcas ar y maes yn denu perfformwyr y dyfodol?wedi ei gyhoeddi 12:47 GMT+1 23 Mai

    Dyma Mimi ac Evie o'r Fenni wrth eu boddau yn yr ardal syrcas ar y maes! Pwy a ŵyr - a welwn ni nhw'n meistroli sgiliau newydd?

    Ardal syrcas
  7. Dawnswyr Blaenau'n barodwedi ei gyhoeddi 12:43 GMT+1 23 Mai

    Aria a Non o Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, yn barod i gystadlu yn y dawnsio disgo pâr.

    blaenau
  8. Croesawu bod mwy o bwyslais ar ddysgwyr eleniwedi ei gyhoeddi 12:40 GMT+1 23 Mai

    I un ysgol cyfrwng Saesneg o Gaerfyrddin, sydd wedi bod yn cystadlu ers dros ugain mlynedd, mae'r newid agwedd at ddysgwyr sydd wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'w groesawu.

    Mae Ysgol y Model wedi bod yn cefnogi Eisteddfod yr Urdd ers ugain mlynedd a rhagor.

    Mae'r ysgol yn un cyfrwng Saesneg a dywed y pennaeth cynorthwyol, Mrs Debi Deacon, fod yr Eisteddfod yn llwyfan anhygoel i ddangos i'w disgyblion fod y Gymraeg yn "iaith fyw".

    "'Da ni'n teimlo'n gryf iawn i roi pob cyfle 'da ni'n gallu i'r plant a ma' Steddfod yr Urdd wedi bod yn rhan huge o'n hysgol ni ers blynyddoedd bellach."

    Debi Deacon
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae pennaeth cynorthwyol Ysgol y Model, Debi Deacon, yn credu bod yr Eisteddfod yn llwyfan anhygoel i ddysgwyr

    "Dwi'n teimlo bod y plant yn cael y cyfle i weld yr iaith Gymraeg fel rhywbeth byw, rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio nid yn unig mewn dosbarth, ond mae'n cael ei ddefnyddio mewn lle hwyliog, cystadleuol.

    "Mae'n fwy na chyfle i siarad yr iaith, a dwi wedi cael llawer iawn o blant yn diolch am y cyfle ac maen nhw wedi cofio am y profiad gydol eu bywyd," ychwanegodd.

    Disgrifiad,

    Mae disgyblion Ysgol y Model yn edrych ymlaen i gystadlu yn yr Eisteddfod

  9. Plant sir Benfro wedi gwisgo'n addas ac yn llawn cyffrowedi ei gyhoeddi 12:38 GMT+1 23 Mai

    Mae criw Ysgol Prendergast, Hwlffordd yn eu hetiau arbennig yn barod i gystadlu yn y parti unsain pnawn 'ma.

    hwlffordd
    hwlffordd
  10. Awydd trio gwisgoedd y ffilm ddiweddar Madfabulous...?wedi ei gyhoeddi 12:32 GMT+1 23 Mai

    Dyma Olivia, sy'n 9 oed o Gaernarfon yn mwynhau gwisgoedd y ffilm Madfabulous ar stondin Into Film Cymru

    Stondin
  11. Pa seremoni pryd o dan y drefn newydd?wedi ei gyhoeddi 12:32 GMT+1 23 Mai

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae’r prif seremonïau fel a ganlyn:

    Dydd Sadwrn, Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones;

    Dydd Llun, Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a’r Fedal Gelf;

    Dydd Mawrth, Y Fedal Gyfansoddi;

    Dydd Mercher, Y Fedal Ddrama;

    Dydd Iau, Y Gadair;

    Dydd Gwener, Y Goron.

  12. Rhai o wynebau y lle Celf, Dylunio a Thecholegwedi ei gyhoeddi 12:30 GMT+1 23 Mai

    Nid pobl yn unig sydd ar y Maes... mae ambell un arall hefyd wedi cyrraedd ac yn denu cryn sylw!

    pypedi
  13. Y gwaith celf buddugol yn denu cynulleidfawedi ei gyhoeddi 12:27 GMT+1 23 Mai

    Mae'r gwaith celf ar y maes wastad yn boblogaidd, gyda phobl yn gwerthfawrogi sgiliau ieuenctid plant a phobl ifanc.

    celf
    celf
  14. Sglodion ar y maes a chystadlu drwy'r wythnos!wedi ei gyhoeddi 12:25 GMT+1 23 Mai

    Mae Alaw (chwith), Rhian ac Ifan o Aberystwyth yn mwynhau eu cinio ar y maes ac maen nhw’n edrych ymlaen at ddod yn ôl i gystadlu ddydd Mawrth, Mercher ac Iau!

    Mae Sara a Sienna o Aberystwyth wedi bod yn cystadlu yn y ddawns Amlgyfrwng yn barod a nawr yn gallu ymlacio.

    Alaw (chwith), Rhian ac Ifan
    Disgrifiad o’r llun,

    Alaw (chwith), Rhian ac Ifan

    Sara a Sienna
    Disgrifiad o’r llun,

    Sara a Sienna

  15. George North: 'Braint bod yn llywydd y dydd heddiw'wedi ei gyhoeddi 12:24 GMT+1 23 Mai

    Cafodd y chwaraewr rygbi George North ei fagu ar Ynys Môn, ond mae bellach yn byw yn Ffrainc gyda Becky ei wraig, a’u dau fab bach, Jac a Tomi.

    Mae George wedi ennill 121 cap dros Gymru, ac wedi chwarae i dimau y Scarlets, y Gweilch ac Aix en Provence, heb anghofio am ei dîm cyntaf, Llangefni.

    Bu’n cystadlu ar y dawnsio gwerin yn yr Urdd pan oedd yn 10 oed ond mae’n cyfaddef nad yw wedi dawnsio ers hynny – er bod y profiad wedi ei helpu i ddawnsio ar y cae chwarae!

    Mae’n teimlo ei bod yn fraint ac yn anrhydedd cael bod yn Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod, a chael bod yn rhan o ddathlu popeth Cymraeg.

    George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Pa ffordd i'r maes? Wel y ffordd hyn!wedi ei gyhoeddi 12:20 GMT+1 23 Mai

    Disgrifiad,

    Y daith i'r maes

    Ein gohebydd Liam Evans wnaeth ffilmio'r wibdaith yma o'r tir mawr dros Bont Britannia i'r Maes

  17. Tipyn o waith i wneud colur a gwallt holl aelodau Clwb Dawns!wedi ei gyhoeddi 12:17 GMT+1 23 Mai

    Mi fydd Clwb Dawns Lowri yn cystadlu am 17:00 y prynhawn yma ond gydag 18 o aelodau yn gorfod cael eu colur a'u gwallt wedi'u sortio mae'r gwaith paratoi yn dechrau nawr!

    Colur
    Clwb Dawns
    Clwb Dawns
  18. Mae'r candi fflos yn boblogaidd - a dyw hi ddim yn amser cinio eto!wedi ei gyhoeddi 12:02 GMT+1 23 Mai

    Mae 'na fynd ar y candi fflos yn barod... dyma George o Sir Benfro yn nôl mwy i'r stondin losin.

    George
  19. Cefnogaeth o Ddyffryn Conwy ac fe fyddan nhw nôl ddydd Iauwedi ei gyhoeddi 11:58 GMT+1 23 Mai

    Llion a Siân o Lanrwst yma yn barod i wylio eu merch yn dawnsio pnawn 'ma - bydden nhw yn ôl ar y maes ddydd Iau hefyd!

    o lanrwst
  20. Ymarfer olaf i griw Rhosnesni!wedi ei gyhoeddi 11:52 GMT+1 23 Mai

    Mae criw o Ysgol Rhosnesni, Wrecsam yn cystadlu yn y gystadleuaeth llefaru i ddysgwyr blwyddyn 10 ac uwch heddiw ac maen nhw'n cael un ymarfer olaf ar y maes cyn mynd amdani

    Parti Llefaru