 Dyfodiad
y Tuduriaid
a'r Ddeddf Uno

Portread o Elizabeth I gan Van der Meulen
Yr Iaith a Deddf 1536
Y mae tua 7,500 o eiriau yn neddf 1536, ac mae tua 150 yn ymwneud
â’r iaith Gymraeg. Cafodd y canran bychan yna, dim ond 2% cant o’r
holl statud, fwy o sylw na’r gweddill. Saesneg fydd unig iaith y llysoedd
yng Nghymru, ac nid yw’r rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg i gael swydd
gyhoeddus yn nhiriogaethau brenin Lloegr. Ag eithrio de Sir Benfro,
de Gwyr, rhannau o Fro Morgannwg a rhai ardaloedd ger y ffin, y Gymraeg
yw unig iaith mwyafrif y Cymry. Felly, mae’n amhosib gwahardd y Gymraeg
o’r llysoedd, ac mae'n rhaid gwneud defnydd helaeth o gyfieithwyr.
Nid yw’n debygol mai lladd yr iaith oedd bwriad yr awdurdodau Seisnig.
Gweinyddiaeth unffurf yw eu nod, ac ymhlyg yn hynny, y mae creu gweinyddwyr
Cymreig sy’n siarad Saesneg. Yn 1536 mae nifer arwyddocaol o uchelwyr
Cymreig eisoes yn medru’r iaith. Mae’r cyfartaledd yn cynyddu’n gyflym
ar ôl hynny, ond fe gymer ddwy ganrif cyn i Saesneg gymryd lle’r Gymraeg
ar aelwydydd y sgweieriaid.
Deddf 1543
Y mae diffyg manylder yn neddf 1536. Unionir y cam mewn deddf arall
yn 1543. Mae’n sefydlu’r Sesiwn Mawr, trefn gweinyddu barn yng Nghymru
yn seiliedig ar bedair cylchdaith o dair sir: Ynys Môn, Caernarfon a
Meirionydd; Fflint, Dinbych a Threfaldwyn; Maesyfed, Brycheiniog a
Morgannwg; Aberteifi, Caerfyrddin a Penfro. Gan nad yw Mynwy yn rhan
o’r patrwm, cyfyd y syniad nad yw’r sir yn rhan o Gymru. Ond mae hynny’n
ddi-sail, ac yn ddiystyr hefyd pan ddiddymir y Sesiwn Mawr yn 1830. O
ran y deddfau penodol Cymreig sy’n cael eu pasio rhwng 1536 a 1830
mae’r sir, fel rheol, yn cael ei ystyried yn rhan o Gymru. Y mae deddf
1536 hefyd yn cydnabod Cyngor Llwydlo, corff sydd â chryn bwerau gweinyddol
a chyfreithiol nes ei ddiddymu yn 1689. Yn ychwanegol, mae’r ddeddf
yn cynyddu nifer yr aelodau seneddol Cymreig i dri deg saith drwy
ganiatáu aelod i fwrdeistref Hwlffordd.
Y drefn newydd yn gwreiddio
Erbyn teyrnasiad Elisabeth mae trefn y Tuduriaid, yn gyffredinol,
wedi ennill ei phlwyf yng Nghymru. Y mae ynadon heddwch yn cael eu
dewis o blith rhengoedd yr uchelwyr. Fe roddodd y Tuduriaid i’r Cymry,
meddai sylwedydd yn y cyfnod, George Owen o’r Henllys (Sir Benfro)
ynadon o blith eu cenedl eu hunain. A chan eu bod wedi’u penodi i
weinyddu’r gyfraith, y mae’n rhaid iddynt hwythau newid eu ffyrdd.
Mae deddfau 1536 a 1543 yn ychwanegu at eu hawliau dros y dosbarthiadau
cymdeithasol oddi tanynt. O dan Gyfraith Lloegr mae ystâdau’n cael
eu trosglwyddo’n gyfan i’r mab hynaf, gan roi mwy a mwy o’r tir yn
nwylo llai a llai o bobl. Am y 250 mlynedd nesaf o leiaf, y mae hanes
Cymru’n ymwneud yn bennaf â’r tirfeddianwyr. Maent yn clodfori’r mesurau
Tuduriaid sy’n dileu’r amwysedd ynglyn â statws y Gymraeg. Saeson
yw’r Cymry yng ngolwg y gyfraith. Eto, gellir dadlau bod pawb sy’n
byw yng Nghymru o hyn allan yn Gymro - ac fe fydd cenedlaethau i ddod
yn adeiladu ar yr egwyddor yna.
|
 |

|