 Gwrthryfel
Owain Glyndwr

Llythyr Owain Glyndwr at Frenin Ffrainc
Llwyddiant
Yn 1402 mae hen elyn Owain, yr Arglwydd Grey o Ruthun, yn cael ei
ddal. Mae’r unig ddyn yn nheulu Moritmer yn cael ei ddal hefyd. Yn
1404 mae’n cipio cestyll Aberystwyth a Harlech, yn arwyddo cytundeb
â’r Ffrancwyr, ac yn cynnal senedd ym Machynlleth, lle mae’n
bosibl y cafodd ei goroni’n Dywysog Cymru yng ngwydd cynrychiolwyr
Ffrainc, yr Alban a Castile. Daw cymorth o Ffrainc yn 1405, ac erbyn
hyn y mae’r rhan fwyaf o Gymru, ag eithrio’r cestyll brenhinol, yn
cydnabod awdurdod Owain Glyndwr.
Tro ar fyd
Y mae grym Owain yn cyrraedd uchafbwynt yn 1405, ond mae’n flwyddyn
o fethiannau hefyd. Mae cyfraniad y Ffrancwyr yn siomedig. Collwyd
brwydrau yng Nghastell Grosmont ac ym Mhwllmelyn ger Bryn Buga, ac
mae hynny’n tanseilio awdurdod Glyndwr yn y de-ddwyrain. Erbyn 1406
ei obaith pennaf yw y daw rhagor o gymorth o Ffrainc. Ym mis Mawrth
mae’n ysgrifennu at frenin Ffrainc yn dweud y byddai Cymru’n deyrngar
i’r Pab yn Avignon ac nid i’r Pab yn Rhufain, oedd yn cael ei gydnabod
gan Loegr.
Mae’r llythyr, a ysgrifennwyd ym Mhennal ger Machynlleth, yn gofyn
am gydnabod archesgobaeth Ty Ddewi gydag awdurdod dros esgobion eraill
Cymru ac amryw yn Lloegr hefyd, sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru,
a’r hawl i eglwysi Cymru gadw’u harian. Galwyd am esgymuno Henry IV
ac am bardwn llwyr am unrhyw bechodau fyddai’n cael eu cyflawni yn
y frwydr yn ei erbyn. Nid yw’r Ffrancwyr yn ymateb. Y mae mab Henry
IV - Henry V yn ddiweddarach - yn arweinydd milwrol effeithiol. Mae’n
adennill Castell Aberystwyth yn 1408 a Chastell Harlech yn 1409. O
hynny ymlaen, ffoadur yn y mynyddoedd yw Glyndwr. Bu farw, yn ôl pob
tebyg, tua 1416 yn Kentchurch ar y ffin â Sir Henffordd, cartref ei
ferch Alys. Bu cryn ddyfalu ynglyn â lleoliad ei fedd.
Canlyniad y gwrthryfel
Y mae canlyniad gwrthryfel Glyndwr yn drychinebus i Gymru. Adroddodd
y croniclwyr mai yn ofer y bu’r cyfan a chyhoeddodd brenin Lloegr
y byddai’n distrywio Cymru. Fe wnaed difrod helaeth, sy’n nodweddiadol
o wrthryfel y werin bobl, sef yr hyn ydoedd ar un olwg. Gellir cyfeirio
ato hefyd fel rhyfel cartref, oherwydd nid oedd pob Cymro’n barod
i fod yn annheyrngar i goron Lloegr. Fe gymer o leiaf ganrif cyn i’r
economi ddechrau adfywio. Y mae’r tyndra a arweiniodd at y gwrthryfel
yn dwysáu o’i blegid. Daeth yr uchelwyr Cymreig - ac yr oedd llawer
wedi cefnogi Glyndwr - i’r casgliad mai gwell fyddai cydweithio â’r
awdurdodau Seisnig yn y dyfodol. Dair canrif a hanner yn ddiweddarach
fe ddaw mwy a mwy i gydnabod arwyddocâd y gwrthryfel a gweld yng Nglyndwr
yr arwr mwyaf yn hanes Cymru. Mae ei safiad yn ganolog i dwf ymwybyddiaeth
o genedligrwydd Cymreig.
|
 |

|