 Cymdeithas
a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
Bedd Dafydd ap Gwilym (1320-1380)
Cymdeithas yn tyfu
Wrth i’r hinsawdd wella a’r economi ddatblygu mae poblogaeth Cymru,
yn ôl pob tebyg, yn dyblu rhwng 1050 a 1300. Oherwydd y cynnydd mae
yna fwy o ddefnydd yn cael ei wneud o’r tir, fforestydd yn cael eu
torri i lawr, pentrefi’n cael eu datblygu, melinau’n cael eu codi,
a strwythur cymdeithasol mwy soffistigedig yn cael ei ddatblygu.
Tro ar fyd
Ond mae’r hinsawdd yn newid ar ôl tua 1300. Hafau gwlyb, heintiau
yn effeithio ar anifeiliaid, a gor-ddefnydd o’r tir sy’n achosi problemau
cynyddol. Erbyn 1320 mae rhif y boblogaeth yn lleihau, ac ni fyddai’n
cyrraedd lefel 1300 am 250 o flynyddoedd.
Yna yn 1349, trychineb enfawr. Mae’r Pla Du yn lladd efallai traen
o’r boblogaeth, ac mae’n taro eto yn 1361 a thrachefn yn 1369. Y mae
colli cynifer o bobl yn cael effaith bellgyrhaeddol. Y
mae’r aflwydd yn arwain at obsesiynau morbid a gobeithion am y milflwydd.
Oherwydd marwolaeth cynifer o daeogion mae yna alw am weithwyr rhydd,
ac mae hynny’n tanseilio’r gwahaniaeth rhwng y rhydd a’r caeth. Y
mae marwolaethau ymhlith y boneddigion yn arafu ac atal yr arferiad
o rannu eiddo. Mae llawer yn ceisio dal gafael ar eu tir yn unol â
Chyfraith Lloegr, sy’n caniatáu iddynt adael y cyfan i’r mab hynaf,
proses sy’n arwain at greu stadau anferth. Yn lle’r hen ffordd o wahaniaethu
ar sail teulu daw ffordd newydd o wahaniaethu ar sail cyfoeth.
Adferiad
Ganrif ar ôl y Pla Du y mae yna arwyddion o adfywiad economaidd. Mae
patrwm o fasnach yn seiliedig ar wartheg a defaid yn dod i’r amlwg,
patrwm fyddai’n ganolog i’r economi tan y Chwyldro Diwydiannol. Mae
porthmyn yn gyrru gwartheg ar draws Cymru i’r ffeiriau mawr yn ninasoedd
Lloegr, a gwerthiant gwartheg fyddai’n dod ag arian i’r ardaloedd
gwledig. Mae mwy o felinau gwlân yn cael eu hagor, a gwlanen yn cael
ei werthu yn y marchnadoedd Seisnig ar y Gororau, Amwythig yn fwyaf
arbennig. Gyda’r adfywiad economaidd daw gwell tai - megis y tai hanner-pren
a godwyd ger y ffin. Yn gynnar yn yr 16eg ganrif yr oedd poblogaeth
Cymru tua 260,000 o’i gymharu â thua 300,000 yn 1300.
Diwylliant
Gwaith
Y Cynfeirdd yw’r llenyddiaeth gynharaf, sy’n cynnwys beirdd yr ardaloedd
Cymraeg eu hiaith yn ne’r Alban. Y mae’r Gogynfeirdd yn perthyn i’r
cyfnod 1100 i 1300, ac maen nhw’n cael nawdd y tywysogion Cymreig.
Marwnad Gruffudd ap Yr Ynad Goch i Llywelyn ap Gruffudd mae’n debyg
yw cerdd orau’r Gogynfeirdd. Diflannodd y tywysogion a daw’r uchelwyr
i gymryd eu lle fel noddwyr. Y mae eu beirdd hwy yn cynhyrchu gwaith
nodedig, yn enwedig felly Dafydd ap Gwilym (tua 1320-70). Ysgrifennu
yn y mesur caeth mewn cynghanedd mae’r beirdd. Mae
rhyddiaith y cyfnod yn cynnwys Y Mabinogi, cadwyn o storïau, a phrif
gyfraniad y Cymry i lenyddiaeth Ewrop ym marn llawer. Hefyd cawn weithiau
crefyddol, hanesyddol a mytholegol. O ran cerddoriaeth, dawn fwyaf
y Cymry yw canu mewn harmoni - dawn ddaliodd sylw Gerallt Gymro yn
y 1190au. Cynhyrchwyd gwaith pren o safon arbennig iawn, yn enwedig
croglenni’r 15fed ganrif. Mae yna gerfluniau safonol ar feddau, er
enghraifft, yn Eglwys Fair yn Y Fenni, ac mae’r mynachlogydd a’r cestyll
yn tystio i ddawn y seiri maen Cymreig. Y mae Gresffordd, eglwys y
plwyf mwyaf cain Cymru, yn adeilad hardd i’w ryfeddu.
|
 |

|