 Diwedd
annibyniaeth Cymru
Castell y Bere
Cadarnhau’r goresgyniad
Ar ôl rhyfel 1277 yr oedd Edward wedi comisiynu adeiladu pedwar castell
sylweddol. Erbyn 1283 mae ei gynlluniau’n fwy uchelgeisiol. Caernarfon,
Conwy, Harlech a Biwmares yw’r amddiffynfeydd mwyaf cymhleth i’w codi
yn unman yn Ewrop yn y 13eg ganrif. Maent yn deyrnged i sgiliau gweinyddol
Edward a dawn ei bensaer James of St George. Maent hefyd yn arwydd
o’r oll oedd yn rhaid i’w wneud i dorri gafael y Cymry ar eu gorffennol.
Yn gysylltiedig â phob castell y mae bwrdeistref - a rhai fel yng
Nghonwy a Chaernarfon oddi mewn i furiau gwych. Y mae masnach yn y
tir oddi amgylch yn cael ei reoli gan estroniaid, ac mae hynny’n creu
cryn densiwn.
Gwneud y gorau o’r sefyllfa
Y mae drwgdeimlad yn amlwg yng Nghymru yn y ganrif wedi 1282. Mae
i’w weld yn llenyddiaeth y cyfnod, yn enwedig yn y canu brud sy’n
sôn am un a ddaw yn waredwr. Mae’n mynegi ei hunan yng ngwrthryfel
Rhys ap Maredudd yn 1287, Madog ap Llywelyn yn 1294 a Llywelyn Bren
yn 1316. Mae’r anniddigrwydd yn lled gyffredin yn y 1340au ac eto
yn y 1370au pan fo Owain Lawgoch, wyr Rhodri, brawd Llywelyn, yn ceisio
cymorth y Ffrancod i adennill ei hawliau teuluol yng Nghymru. Eto,
roedd y Cymry’n ymwybodol bod rhaid iddynt wneud y gorau o’u byd fel
ag yr oedd. Gan fod ganddynt gryn brofiad o ryfela maent yn cael digon
o gyfle proffidiol i wasanaethu yn lluoedd brenin Lloegr, neu, fel
yn achos Owain Lawgoch ac eraill, yn lluoedd brenin Ffrainc. Er mai
aristocratiaid Eingl-Normanaidd yw’r prif swyddogion yng Nghymru ar
y cyfan, o rengoedd yr uchelwyr Cymreig y daw llawer o’u dirprwyon,
yn awyddus i fanteisio ar bob cyfle i ychwanegu at eu pwer a’u cyfoeth.
Plygu i’r drefn felly, weithiau’n daeogaidd, weithiau’n surbwchaidd,
yw prif nodwedd Cymru’r 14eg ganrif. Ond yna, ar ddechrau’r ganrif
nesaf, gwrthryfel arall wrth i Owain Glyndwr gamu i’r llwyfan.
|
 |

|