 Tywysogaeth
Cymru
Y Tywysog Llywelyn
Y
dywysogaeth
Y mae tywysogaeth Cymru o dan frenhinlin Gymreig yn para am bymtheng
mlynedd, er erbyn y pum mlynedd olaf gyda llai o rym. Blynyddoedd
yn llawn addewid yw 1267 i 1277, yn awgrymu bod yna yn yr Oesoedd
Canol, yr holl elfennau angenrheidiol ar gyfer twf gwladwriaeth. Y
mae Llewelyn yn ben ar dros dri chwarter Cymru, ac mae ganddo efallai
ddau gan mil o ddinasyddion. Y mae peirianwaith gweinyddol y dywysogaeth
yn datblygu ac mae ei llys yn cynhyrchu dogfennau o safon uchel iawn.
Amser sydd ei angen i ymsefydlu, ond dyna’r union beth nad yw yn cael
ei ganiatáu.
Y peryglon sy’n wynebu’r dywysogaeth
Un o anawsterau Llywelyn yw’r ffaith nad ef yw etifedd diwrthwynebiad
Llywelyn Fawr. Y mae gan yr ail fab, Gruffudd, dri brawd, ac y mae
un ohonynt, Dafydd, yn deyrngar ac yn annheyrngar am yn ail. Y mae
rhai o’r mân arglwyddi, yn enwedig Gwenwynwyn o Bowys, yn anfodlon
bod gan y tywysog gymaint o bwerau. Y mae’r £20,000 sy’n rhaid eu
talu i goron Lloegr yn faich trwm. Gan ei fod yn dal arglwyddiaethau
megis Aberhonddu a Maelienydd, mae Llywelyn yn creu gelynion ymhlith
y rhai arferai fod yn ben, teuluoedd Bohun a Mortimer. Y mae’r gefnogaeth
iddo yng ngogledd Morgannwg yn poeni Gilbert de Clare, arglwydd pwerus
Morgannwg. Y mae e’n codi castell Caerffili i rwystro uchelgais y
tywysog. Y mae bwriad y tywysog i briodi Elinor, merch Simon de Montfort,
yn cythruddo’r brenin newydd. Yn 1274 mae Dafydd a Gwenwynwyn yn ochri
gyda Lloegr. Yn 1275 mae’r brenin yn cipio Elinor. Y mae’n galw Llywelyn
i dalu gwrogaeth iddo. Gwrthododd Llywelyn ar y sail bod y brenin
wedi rhoi noddfa i’w elynion ac wedi cipio ei ddarpar wraig.
Rhyfel 1277 a Chytundeb Aberconwy
Yn 1276 y mae Edward yn cyhoeddi bod Llywelyn yn wrthryfelwr. Y mae’r
brenin yn casglu ynghyd y fyddin fwyaf a welwyd ym Mhrydain ers 1066.
Erbyn 1277 mae ei luoedd yng Ngwynedd. Ar Ynys Môn, maent yn casglu’r
cynhaeaf gan amddifadu’r tywysog a’i filwyr o fwyd, ac y mae Llywelyn
yn gorfod ildio. Y mae Cytundeb Aberconwy yn cyfyngu ei awdurdod i’r
ardal ar ochr orllewinol Afon Conwy. Dafydd sy’n cael y rhan fwyaf
o’r tir i’r dwyrain. Nid yw Llywelyn yn colli’i deitl Tywysog Cymru
ond nid yw mwyafrif y mân arweinwyr yn ei gydnabod yn ben. Y mae’r
brenin, sydd eisoes â chestyll yn Aberteifi. Caerfyrddin a Threfaldwyn,
yn codi caerau yn Aberystwyth, Llanfair ym Muallt, Fflint a Rhuddlan.
Ond nid yw’r cyfan ar ben. Y mae gan Llywelyn ei gadarnle yn Eryri
a chryn gefnogaeth yng ngweddill Cymru.
|
 |

|