 Dyfodiad
y Normaniaid

Castell Caerffili
Newid cymdeithasol
Yr un pryd a goresgyniad y Normaniaid y mae yna adfywiad economaidd
yn Ewrop ac mae’r hinsawdd yn gwella. Y mae’r boblogaeth yn cynyddu
a bwrdeistrefi’n cael eu sefydlu. Yn y Mers y mae pobl y gall y Normaniaid
ddibynnu ar eu teyrngarwch yn ymgartrefu - yn fewnfudwyr o Loegr gan
fwyaf. O hyn y deillia’r syniad bod y trefi yn ddatblygiad estron
i Gymru; eto yn yr ardaloedd dan reolaeth y brodorion y mae yna ddatblygiadau
o natur drefol hefyd. Yn ychwanegol, y mae’r Normaniaid yn annog estroniaid
i ymsefydlu mewn rhannau o’r Gymru wledig - Gwyr, Penfro a Bro Morgannwg
yn fwyaf arbennig. Er mai Cymry, gan fwyaf sy’n byw yn arglwyddiaethau’r
Mers, y maent i gyd o fewn cyrraedd y mannau Seisnig, gyda’u cestyll
a’u mewnfudwyr.
Y rhanbarthau dan reolaeth Gymreig
Tra mae arglwyddi’r Mers yn tynhau eu gafael dros lawer o’r iseldir
a’r gororau, y mae’r arweinwyr Cymreig yn ceisio ymgryfhau. Madog
ap Maredudd (bu farw yn 1160) sydd ben ym Mhowys, Owain ap Gruffudd
(bu farw yn 1170) yng Ngwynedd a Rhys ap Gruffudd (Arglwydd Rhys a
fu farw yn 1197) yn y Deheubarth. Y mae Rhys hefyd yn gwarchod y breninliniau
Cymreig bychain yng ngogledd Morgannwg a’r ucheldir rhwng dyffrynnoedd
yr Hafren a’r Gwy. Maent yn ceisio efelychu’r Normaniaid. Maent yn
dechrau codi cestyll a defnyddio marchogion. Yn benodol maent yn gweld
rhinwedd yn y drefn fynachaidd newydd. Erbyn 1200 y mae gan bob un
o’r arweinwyr Cymreig fynachdy Urdd Cîteaux. Y mae yna fannau cyfarfod
a mynwentydd i’r arweinwyr yn abatai Sistersaidd Ystrad Fflur a Glyn
y Groes.
Swyddogaeth Brenin Lloegr
Y mae pob un o’r llywodraethwyr Cymreig yn gorfod cydnabod awdurdod
Brenin Lloegr. O ganlyniad y mae brenhinoedd megis Harri I a Harri
II i ymyrryd yn helaeth a gwleidyddiaeth Cymru. Hyn, ochr yn ochr
â hyder cynyddol y llywodraethwyr Cymreig, sy’n cyfrannu at dwf
pwer brenin Lloegr. Y mae Gerallt Gymro yn mynd i’r afael a’r ddwy
wedd hon, ac yntau o waed cymysg, Normanaidd a Chymreig. Yn ei Disgrifiad
o Gymru (1193) mae’n neilltuo un bennod i drafod sut y gall brenin
Lloegr goncro Cymru’n llwyr. Mewn pennod arall dywed sut y dylai’r
Cymry fynd ati i wrthsefyll hynny.
|
 |

|