 Yr
Eglwys Geltaidd yng Nghymru
 Ty Ddewi, Sir Benfro
Dewi
Sant a Gwyl Ddewi
Yn y ganrif sy’n dilyn, 500 i 600, nid yw’r mynachod mor ddysgedig
ond maent yn fwy asgetig. Un enw sy’n sefyll allan yn y cyfnod hwn
yw Dewi. Y mae’n llwyr-ymwrthodwr, yn llysfwytäwr, ac yn gredwr cryf
mewn gwaith di-baid. Sefydlodd ei fynachdy ar benrhyn gorllewinol
yn ymestyn allan i’r môr, lleoliad delfrydol i fod yn un o brif ganolfannau
Cristnogaeth Geltaidd. Yn wir, y mae’n bosib ei fod yn ganolfan mwy
Gwyddelig na Chymreig. Bu farw Dewi ar Fawrth 1 tua’r flwyddyn 590.
Chwe chan mlynedd yn ddiweddarach fe fyddai o leiaf drigain o blwyfi
yn dwyn ei enw, yn ymestyn o Dy Ddewi i Sir Henffordd, o Fro Gwyr
i ben uchaf Dyffryn yr Hafren. Erbyn y cyfnod yna y mae’r ardal lle
mae eglwysi’n dwyn ei enw yn cynnwys esgobaeth Ty Ddewi a thros hanner
tirwedd Cymru. A chan fod dydd gwyl Dewi yn cael ei ddathlu mewn mwy
o blwyfi na’r un sant arall, y mae’n naturiol iddo gael ei fabwysiadu’n
Nawdd Sant Cymru. Abad yw Dewi’n bennaf. Y mae’n bosib ei fod hefyd
yn esgob, ond nid yw’n ymddangos bod yna unrhyw sail i’r honiadau
a wnaed yn ddiweddarach ei fod yn archesgob gydag awdurdod dros esgobion
eraill Cymru.
Y saint yn ‘Oes y Saint’
Y mae gan Dewi nifer o gyfoedion, yn eu plith Teilo, Cadog, Padarn,
Beuno a Tysilio. Yr oedd ganddynt hwy eu dilynwyr hefyd. Er enghraifft
cysegrwyd pump ar hugain o eglwysi yn enw Teilo erbyn y flwyddyn 1200.
At Landdewi gellir ychwanegu Llandeilo, Llangadog, Llanbadarn, Llanfeuno
a Llandysilio. Y mae tua mil o blwyfi yng Nghymru, ac y mae hyd at
hanner yr enwau yn dechrau gyda Llan. Ystyr gwreiddiol y gair oedd
tir wedi’i gysegru ar gyfer claddu Cristnogion, yn hytrach nag adeilad.
Er mor gyffredin yw enwau Dewi a’i gyfoedion, y mae llawer o’r llannau
wedi eu cysegru i gymeriadau canolog Cristnogaeth, megis Mair, Pedr
a Mihangel (Llanfair, Llanbedr, Llanfihangel.) Ond y mae hefyd enwau
llai amlwg, pobl nad oedd wedi chwennych bod yn saint, ac efallai
nad oeddent wedi gwneud mwy na rhoi’r tir i’w ddefnyddio fel mynwent.
Cymru a Christnogaeth Lloegr
Yr
oedd y Cymry yn ‘Oes y Saint’ mewn cysylltiad agos â’u cyd-Geltiaid.
Ond yn wahanol i’r cenhadon Gwyddelig nid ydynt yn ymdrechu’n galed
i ennill y Saeson paganaidd at Grist. Y mae Cristnogaeth Rufeinig
yn cyrraedd y Saeson yn 597 pan ddaeth Awstin Sant i Gaer-gaint. Yr
oedd wedi’i benodi gan y Pab, felly yr oedd yn disgwyl i esgobion
Cymru ufuddhau iddo. Ond maent yn gwrthod gwneud hynny, ac yn gwrthod
hefyd cydymffurfio ag arferion Rhufeinig, megis y drefn o bennu dyddiad
Y Pasg. Ond yn ystod y ganrif sy’n dilyn y mae mwyafrif yr eglwysi
Celtaidd yn derbyn Y Pasg Rhufeinig. Pan fo’r hanesydd Seisnig Beda
yn ysgrifennu hanes Eglwysig y Saeson yn 731, y mae Cymru’n dal i
wrthod cydymffurfio - a dyna’r rheswm, fwy na thebyg, pam ei fod mor
elyniaethus tuag at y Cymry.
Cymru a chanrifoedd diweddarach
yr Eglwys Geltaidd
Y mae’r Cymry’n derbyn Y Pasg Rhufeinig yn 768. Y mae'r Eglwys yn
creu gweithiau celfyddyd gain, megis llyfr Teilo a’r croesau ym Margam
a mannau eraill. A phan fo’r Brenin Alfred tua 880 yn chwilio am ddyn
dysgedig i godi safon ei lys, y mae’n troi at Asser o Dy Ddewi, a’i
alw i Wessex. Eto, bron ddau can mlynedd yn ddiweddarach, pan mae
Gwilym Goncwerwr yn cipio’r orsedd yn Lloegr, y mae’r Eglwys yng Nghymru
yn wahanol ac yn ynysig o hyd.
|
 |

|