 Cymdeithas
Newydd
 Mewn rhai ardaloedd o'r wlad mae mwy o wragedd nag
o ddynion mewn gwaith
Lle’r wraig
Mae un o’r newidiadau mwyaf yn y gymdeithas Gymreig yn ystod y ganrif
ddiwethaf yn ymwneud â lle’r wraig a’r effaith mae hynny wedi ei gael
ar y syniad traddodiadol am fywyd teulu. Yng Nghymru yn oes Victoria,
y gwragedd oedd ‘angylion yr aelwyd’, ac ar ddechrau’r 20fed ganrif
prin yw’r swffragetiaid tanbaid yma. Mae rhywfaint o newid yn y blynyddoedd
rhwng y ddau ryfel wrth i wragedd gael yr un hawliau pleidleisio a
dynion, a chydnabod bod ganddyn nhw’r un hawliau dros eu plant a’u
heiddo ag sydd gan eu gwyr. Eto, yn 1945 mae llai na chwarter y gweithlu
yn wragedd. Mae’r ganran yn codi’n gyflym yn y blynyddoedd sy’n dilyn,
yn rhannol oherwydd lleihad y diwydiannau trymion. Erbyn y 1990au
mae Treorci yng Nghwm Rhondda yn un o amryw o lefydd yng Nghymru lle
mae mwy o wragedd yn gweithio nag o ddynion. Ond nid yw’r gwragedd
yn ennill cymaint â’r dynion. Nid yw teuluoedd yn cael cymaint o blant
– tuedd a ddechreuodd yn 1920au, ac erbyn 2000 rhyw aros yn ei unfan
mae rhif y boblogaeth. O ran bywyd teuluol nid yw’r syniad o gyplau
yr hyn a fu ac mae mwy a mwy o famau sengl, yn enwedig yn yr ardaloedd
mwyaf difreintiedig. Mae gallu’r wraig i reoli ei ffrwythlondeb yn
wahanol iawn i’r hyn a fu yn y gorffennol, ac nid yw arwyddocâd llawn
hyn wedi amlygu’i hun eto.
Mynd a dod
Ar ddechrau’r 20fed ganrif mae maes glo de Cymru fel magned, yn
denu pobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, ac mae pobl yn heidio o’r
ardaloedd gwledig i chwilio am waith. Erbyn diwedd y ganrif, mae’r
darlun wedi newid. Yn
yr ardaloedd glofaol mae dros 80% o’r boblogaeth wedi eu geni yng
Nghymru, ond yn yr ardaloedd gwledig mae’r ganran yn llai 50%. Mae
nifer o resymau am y newid: mae tir a thai yng nghefn gwlad yn gymharol
rad, pobl yn hoffi’r bywyd hunan-gynhaliol, y datblygiadau ym maes
cyfathrebu electroneg - ffactorau sy’n gwneud byw yn bosibl hyd
yn oed yn y mannau mwyaf anghysbell. Mae’r mewnlifiad o bobl nad
ydynt yn Gymry a’r ffaith bod Cymry brodorol yn gadael eu cymunedau
yn creu tensiynau yng nghefn gwlad. Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed
ganrif, â Chaerdydd a phoblogaeth fwy cosmopolitan nag unrhyw borthladd
arall ym Mhrydain ag eithrio Llundain, ychydig iawn o bobl o’r tu
allan i Ewrop oedd i’w gweld yng ngweddill Cymru. Erbyn diwedd y
ganrif mae yn y trefi mawrion gymunedau sylweddol o bobl a’u gwreiddiau
yn y ‘Gymanwlad Newydd’ ac mae eu diwylliant wedi cyfoethogi bywyd
yng Nghymru.
Cymdeithas Secwlar
Ar ddechrau’r 20fed ganrif mae duwioldeb y Cymry yn destun balchder.
Mae’r mwyafrif yn arddel cysylltiad â chrefydd gyfundrefnol, ac
mae yna adfywiad crefyddol adeg diwygiad 1904-05. Erbyn diwedd yr
20fed ganrif mae Cymru yn un o wledydd mwyaf secwlar Ewrop; y mae
llai na 10% o’r boblogaeth yn arddel cysylltiad ffurfiol â lle o
addoliad. Yr oedd parchu’r Sul yn ganolog i fywyd y Cymry ganrif
yn ôl, ond fe gollodd y Sul ei le arbennig ym mywyd pobl – fel y
dengys y pleidleisio a fu droeon ynglyn ag agor tafarndai ar y Sul.
Mae’r bobl a dreuliodd gymaint o amser yn y capeli a’r eglwysi bellach
yn chwilio am bethau eraill i’w gwneud a’u hamser. Nid fod y dirywiad
crefyddol wedi gwneud pobl yn llai tosturiol, a gellir dweud bod
Cymru yn y flwyddyn 2000 yn llai gormesol ac yn fwy goddefgar nag
oedd yn y flwyddyn 1900.
|
 |

|