 Twf
y Blaid Lafur

Keir Hardie yn sgwâr Trafalgar
Ffurfio’r Blaid Lafur
O ganlyniad i Ddeddf Diwygio’r Senedd 1884 mae gan fwyafrif oedolion
gwryw Cymru yr hawl i bleidleisio. Mae’r mwyafrif yn fodlon cefnogi’r
Blaid Ryddfrydol, rhai oherwydd eu cefndir Anghydffurfiol ac eraill
am eu bod yn credu y gall Rhyddfrydiaeth hybu amryw o achosion radical
- gan gynnwys lles y dosbarth gweithiol. Yn 1885 etholwyd Mabon yn
aelod seneddol y Rhondda; fel arweinydd undeb llafur sy’n derbyn chwip
y Rhyddfrydwyr, mae’n gynrychiolydd amlwg y traddodiad Lib-Lab. Ond
mae rhai yn dadlau mai buddiannau’r dosbarth gweithiol ddylai fod
yn brif nod gan fod mwyafrif y boblogaeth yn perthyn i’r dosbarth
hwn. Ffurfiwyd y Blaid Lafur Annibynnol yn 1893; mudiad â delfrydau
uchel sy’n sefydlu ambell gangen yng Nghymru ond heb apêl dorfol.
Yn 1890 sefydlwyd Y Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur; menter ar y cyd
rhwng undebwyr llafur ac aelodau y pwyllgorau sosialaidd, a dyma grud
y Blaid Lafur. Cafodd Keir Hardie, ymgeisydd y Pwyllgor yn etholaeth
Merthyr Tudful yn 1900, ei ethol. Roedd ei fuddugoliaeth yn drobwynt
arwyddocaol. Ond penderfyniad cyfreithiol yn ymwneud â Rheilffordd
Dyffryn Taf yn 1901 - yn gwahardd streicio i bob pwrpas - sy’n rhoi
terfyn ar y traddodiad Lib-Lab, ac mae hyd yn oed Mabon yn teimlo
bod rheidrwydd arno i ymuno â’r Blaid Lafur. Eto, hyd yn oed erbyn
1914, dim ond pump allan o’r tri deg pedwar aelod seneddol sydd gan
Gymru sy’n aelodau o’r blaid honno.
Anniddigrwydd y gweithwyr
Mae blynyddoedd cyntaf yr 20fed ganrif yn flynyddoedd o streiciau.
Ar ddechrau’r ganrif cafwyd yr anghydfod diwydiannol gyda’r hwyaf
yn hanes Prydain - y streic yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda, a barodd
am dair blynedd. Yn
dilyn terfysg Tonypandy yn 1910 mae pobl y Rhondda yn byw dan lygaid
milwyr. Terfysg wedyn yn Llanelli yn 1911 a chwech yn cael eu lladd.
Mae yna gryn gefnogaeth i syndicaliaeth, y gred y gallai gweithredu
diwydiannol wella byd y dosbarth gweithiol. Yn ystod y Rhyfel Byd
Cyntaf, maes glo de Cymru, lle bu streic fawr gan y glowyr yn 1915,
yw un o ardaloedd mwyaf milwriaethus Prydain. Ar ôl y rhyfel, chwalwyd
breuddwydion y dosbarth gweithiol gan fethiant Streic Gyffredinol
1926. O hynny ymlaen mae diweithdra enbyd yn amddifadu’r gweithwyr
o’u gallu i fargeinio, er mae’r glowyr yn llwyddo yn y 1930au i gael
gwared â’r undebau sy’n cael eu rheoli gan y cyflogwyr.
Llwyddiant y Blaid Lafur
Er yn blaid leiafrifol yn 1914 mae Llafur yn ennill hanner etholaethau
Cymru yn 1922. Y mae hyn yn rhannol o ganlyniad i ddiwygiadau seneddol
1918, sy’n rhoi i’r ardaloedd diwydiannol fwy o aelodau seneddol ac
yn rhoi’r bleidlais i wrywod ifanc nad ydynt yn berchen ty. Yn fwy
arwyddocaol, serch hynny, yw effaith y rhyfel ar y Blaid Ryddfrydol.
Tanseiliwyd hyder pobl mewn plaid oedd yn sefyll dros ryddid yr unigolyn,
a hefyd gan benderfyniad Lloyd George i dderbyn cefnogaeth y Ceidwadwyr
i fod yn brif weinidog yn 1915. Ond mae’r gefnogaeth i’r Rhyddfrydwyr
yn dal yn gryf yn yr ardaloedd gwledig yng Nghymru. Yn 1945 mae saith
allan o’r deuddeg aelod seneddol Rhyddfrydol drwy Brydain yn cynrychioli
etholaethau gwledig Cymreig. Ond mae’r bobl yn yr ardaloedd diwydiannol
yn cefnu ar y blaid. Er 1922 y Blaid Lafur fu ar y brig yng Nghymru.
Yn 1931 pan nad oedd gan y Blaid Lafur ond 52 o aelodau seneddol,
y mae un ar bymtheg o’r rheini yn cynrychioli seddau yng Nghymru.
Daw llwyddiant mwyaf y blaid yn etholiad cyffredinol 1966. Enillwyd
tri deg dwy allan o dri deg chwech etholaeth, a chafwyd 61% o’r bleidlais
boblogaidd.
|
 |

|