 Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol

Coleg Prifysgol Caerdydd
Y gwahaniaethau’n cael eu cydnabod
Mae hyn yn digwydd yn bennaf oherwydd natur ddemocrataidd cynyddol
y gymdeithas Gymreig. Mae’r bonheddwyr Anglicanaidd, a fu mor ddylanwadol
am ganrifoedd, yn gweld eu hunain yn yr un dosbarth a gwyr mawr Prydain.
Er bod ganddynt rywfaint o gydymdeimlad tuag at Gymru, maent yn tueddu
i glosio at ei gilydd pan fo Cymreictod yn amlygu ei hunan a hynny
yng ngwisg Anghydffurfiaeth radical. Hawliau’r Cymry fel Anghydffurfwyr
sy’n cael eu tanlinellu gan Henry Richard, aelod seneddol Merthyr
Tudful o 1868 i 1888. Mae daliadau gwleidyddion ifancach, megis Thomas
Edward Ellis, aelod seneddol Meirionydd o 1886 i 1899, yn llai sectyddol.
O dan ddylanwad y mudiad hunan lywodraeth yn Iwerddon mae Ellis ac
eraill yn pwyso am fesur o hunan lywodraeth i Gymru, sustem addysg
Gymreig, a deddfwriaeth i ryddhau tenantiaid Cymru o afael eu landlordiaid.
Mae eraill am fynd ymhellach: galw am annibyniaeth lwyr i Gymru wnaeth
Michael D Jones, a oedd wedi cefnogi’r ymgais i ffurfio Cymru newydd
ym Mhatagonia. Roedd Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) am i’r Gymraeg
gael statws swyddogol llawn er mwyn sicrhau urddas pobl Cymru. Erbyn
dechrau’r Rhyfel Byd cyntaf mae hunaniaeth Cymru yn fwy amlwg. Y mae’r
newidiadau pennaf ym myd addysg a diwylliant. Rhoddir rhywfaint o
statws i’r Gymraeg yn yr ysgolion yn 1889. Sefydlwyd Coleg Prifysgol
Cymru yn Aberystwyth yn 1872, a cholegau Caerdydd a Bangor yn 1880au,
gan arwain at ffurfio Prifysgol Cymru yn 1893. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol
a’r Amgueddfa Genedlaethol yn derbyn siartr frenhinol yn 1907. Mae
ysgolheictod Cymreig hefyd yn ennill bri, diolch i lyfrau hanes J
E Lloyd yn 1911 a gwaith John Morris-Jones ar yr iaith Gymraeg yn
1913.
Cymru Fydd
Sefydlwyd
y mudiad yn 1886. Roedd iddo fwy nag un amcan, rhai efallai yn croes
ddweud eu gilydd. Mae’n ceisio hyrwyddo amcanion y Rhyddfrydwyr, hybu
ymwybyddiaeth o genedlaetholdeb, cefnogi achos datganoli i Gymru.
Yn y 1890au mae’n gyfrwng i hybu uchelgais Lloyd George, sy’n ceisio
rhoi mwy o stamp Cymreig ar bolisïau’r Rhyddfrydwyr yng Nghymru. Ond
mewn cyfarfod yng Nghasnewydd yn 1896 dangosodd canran helaeth o gefnogwyr
y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru bod hyn yn annerbyniol, ac erbyn diwedd
y ganrif mae’r mudiad wedi peidio â bod. Atgyfodwyd cwestiwn hunan
lywodraeth yn 1910 gan E T John, yn benodol yng nghyd-destun Iwerddon
a’r tebygrwydd y byddai’r Gwyddelod yn cael llywodraethu eu hunain.
Mae’r pwnc yn cael ei drafod yn helaeth yn y blynyddoedd yn syth wedi’r
rhyfel, ac er bod Cymru’n sicrhau mesur o ddatganoli gweinyddol, nid
oes unrhyw newid sylweddol. Yn 1925 ffurfiwyd Plaid Cymru, ond plaid
ar ymylon gwleidyddiaeth Cymru yw hi tan o leiaf y 1950au.
Cenedl yn newid
Mae Thomas Edward Ellis a’r addysgwr o fri, Owen M Edwards, yn portreadu
Cymru fel gwlad o bobl ddarbodus, yn ofni Duw, yn siarad Cymraeg ac
yn byw yn y wlad. Ond erbyn dechrau’r 20fed ganrif nid dyna fel mae
pethau mewn gwirionedd. Mae dwy ran o dair o’r boblogaeth yn byw yn
siroedd Morgannwg a Mynwy. Mae’r mwyafrif felly yn byw yn yr ardaloedd
trefol a diwydiannol. Er yr adfywiad crefyddol yn niwygiad 1904-05,
mae secwlariaeth ar gynydd. Yn 1901 mae hanner poblogaeth Cymru yn
siarad Cymraeg. Mae’r ganran yn gostwng i 43% erbyn 1911 - y flwyddyn
pan fo naw allan o bob deg yn honni eu bod yn deall rhywfaint o Saesneg.
Mae’r newidiadau hyn yn codi cwestiynau ynglyn â natur Cymreictod
- pwnc a fyddai’n achos gwewyr a dadlau mewn blynyddoedd i ddod.
|
 |

|