 Capel
ac Eglwys

Caewyd nifer o gapeli'n ystod ail hanner yr 20fed ganrif
Cryfder Anghydffurfiaeth
Y mae’r adfywiad Anglicanaidd yn sicrhau bod yn eglwys ar ddechrau’r
20fed ganrif mewn safle cryfach mewn perthynas ag Anghydffurfiaeth
nag oedd yn 1851. Serch hynny mae cryfder yr Anghydffurfwyr yn amlwg.
Er nad ydynt yn cynrychioli mwyafrif poblogaeth Cymru, mae eu gwerthoedd
o’r pwys mwyaf ac mae’r diwylliant Anghydffurfiol yn datblygu i fod
yn gyfystyr â’r diwylliant Cymreig. Yn hanner cyntaf y 19eg ganrif
fe agorwyd capel newydd yng Nghymru bob wyth diwrnod, a hynny cyn
cyfnod codi’r capeli mawrion yn yr ardaloedd diwydiannol. Y mae mwyafrif
y papurau Cymreig a’r cyfnodolion yn gysylltiedig â rhyw enwad neu
gilydd, ac mae’r gweinidogion amlycaf yn arwyr ymhlith y werin. Mae
gwrthwynebiad yr Anghydffurfwyr i’r ddiod gadarn yn rhoi hwb i’r mudiad
dirwest, ac yn arwain yn 1881 at y Ddeddf Cau’r Tafarnau ar y Sul.
Nodwedd Anghydffurfiaeth yw’r diwygiadau. Bu diwygiad o bwys yn 1859
ac un mwy rhyfeddol fyth yn 1904-05.
Arwyddocâd gwleidyddol Anghydffurfiaeth
Gan fod llawer mwy o gapelwyr nag oedd o eglwyswyr mae’r holl syniad
o’r Sefydliad dan fygythiad. Y mae hyn yn digwydd hefyd yn Lloegr,
ond gan fod Anghydffurfiaeth gymaint yn gryfach yng Nghymru mae datgysylltu
yn datblygu’n achos cenedlaethol Cymreig. Y
mae’r Ceidwadwyr, amddiffynwyr traddodiadol Eglwys Loegr, yn gwrthod
derbyn y gall Cymru lwyddo ar ei phen ei hun ar fater mor sensitif,
ac maent yn rhoi’r argraff eu bod yn blaid wrth-Gymreig - datblygiad
a fyddai’n milwrio yn eu herbyn am ganrif a rhagor. Y mae’r Blaid
Ryddfrydol, sy’n etifeddu amheuon y Chwigiad ynglyn â’r berthynas
rhwng yr orsedd a’r allor, yn apelio fwy fwy at yr etholwr Anghydffurfiol
Cymreig. O ganol y 19eg ganrif ymlaen mae’r Anglicaniaid yn colli
dylanwad. Daeth y Dreth Eglwysig i ben yn 1870 ac ad-drefnwyd y degwm
yn y 1880au. Mae’r Sefydliad yn raddol golli’i safle dylanwadol ym
myd addysg. Mae rheolaeth llywodraeth leol gan sgwiariaid Anglicanaidd
yn dod i ben gyda chynnal etholiadau cyngor sir yn 1889. Yn 1920,
ar ôl llawer i helynt, fe ddatgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng
Nghymru. Crëwyd talaith Gymreig o fewn y cymundeb Anglicanaidd, gyda’i
archesgob ei hunan, a chafodd yr hen waddolion eu secwlareiddio. Er
bod yr Eglwys yng Nghymru wedi cadw yr hen eglwysi cadeiriol a’r eglwysi
yn y plwyfi, mai ei safle o fewn y gyfraith yr un fath a safle’r enwadau
eraill.
Y dirywiad crefyddol
Y mae ysgolheictod y ganrif a hanner ddiwethaf yn herio’r hen ddaliadau
Cristnogol. Y mae ysgolheictod Beiblaidd yn tanseilio’r gred fod y
Beibl yn llythrennol wir. Y mae darganfyddiadau daearegol a’r syniadau
am esblygiad yn tanseilio’r gwirioneddau traddodiadol. Gan fod y capeli
yn ganolbwynt y bywyd cymunedol mae crefydd fel pe tai yn rhan o fywyd
diwylliannol pobl. Mae’r ymgyrch dros ddatgysylltu yn pwysleisio pwysigrwydd
maint yr enwadau, ac mae rhif aelodau fel pe tai’n bwysicach na gwir
deyrngarwch. Yr oedd rhif aelodau eglwysig ar ei uchaf yn 1907 pan
oedd yng Nghymru 750,000 o gymunwyr a llu o ‘wrandawyr’ achlysurol.
Wedi hynny, gostwng yn gyson wnaeth y rhif. Cyfrannodd nifer o ffactorau
at y gostyngiad - sinigiaeth wrth weld clerigwyr yn recriwtio adeg
y Rhyfel Byd Cyntaf, y chwalfa yn y cymunedau traddodiadol, y cynnydd
mewn diddordebau hamdden newydd, a’r cynnydd mewn pleseryddiaeth a
phrynwriaeth. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif dim ond un o bob wyth o
drigolion Cymru sy’n mynychu lle o addoliad yn gyson - mor wahanol
oedd y darlun ganrif ynghynt pan oedd pobl Cymru yn clodfori eu duwioldeb.
|
 |

|