 Diwylliant
a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
 Newidiadau crefyddol
Fel y gwelwyd, nid yw llwybr canol yr Anglicaniaid yn bodloni pawb
yng Nghymru. Y mae gan y Catholigion eu cadarnleoedd, yn enwedig yn
Sir Fynwy a Sir Fflint. Ond ar ôl i bobl gymryd yn erbyn y pab yn
1678-9, dilewyrch fu hanes yr Eglwys Gatholig nes i’r Gwyddelod ddechrau
mewnfudo yn y 19eg ganrif. Stori wahanol yw stori’r Protestaniaid.
Oherwydd dylanwad y Rhyfel Cartref a’r Weriniaeth, mae cynulleidfaoedd
mwy efengylaidd eu tuedd yn cynyddu o ddau i ddwsinau. Ond wedi adferiad
y Stiwartiaid mae yna erledigaeth, ond wedyn maent yn cael eu derbyn
yn anfoddog yn 1689. Araf yw’r symud at Anghydffurfiaeth. Erbyn 1676
rhyw un ym mhob ugain o drigolion Cymru, o bosib, sy’n mynychu gwasanaethau’r
Sentars, ac yn 1716 rhyw ugain o gapeli sydd yn y wlad o’i gymharu
a bron fil o eglwysi plwyf.
Y Diwygiad Methodistaidd
Y mae’r brwdfrydedd efengylaidd yn cael ei danio gan y Diwygiad Methodistaidd,
a lansiwyd gan Howel Harris ac eraill yn y 1730au. Yn wahanol i’r
Methodistiaid yn Lloegr yr un adeg, mae Methodistiaid Cymru yn Galfinaidd
o ran diwinyddiaeth ac yn datblygu strwythurau gweinyddol gwahanol.
Erbyn 1750 mae 428 o seiadau yng Nghymru. Y mae’r arweinwyr yn meddwl
yn nhermau mudiad sy’n adfywio’r Eglwys sefydledig, ac yn gwadu mai
eu bwriad yw creu enwad ar wahân. Yn ystod y 18fed ganrif maent yn
denu rhagor o ddilynwyr, ac mae eu sêl yn annog yr enwadau Anghydffurfiol,
yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr, i ymestyn cylch eu dylanwad. Ac wrth
ddilyn y trywydd yma fe ddaw Cymru erbyn y 19eg ganrif yn wlad lle
mae’r Anghydffurfwyr yn y mwyafrif.
|
 |

|