 Cymdeithas
a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar

Oliver Cromwell
Cymru a’r Senedd
Y mae aelodau seneddol o Gymru yn mynychu’r Senedd am y tro cyntaf
yn 1542. Ar y dechrau maent yn gymharol dawedog, ond erbyn diwedd
yr 16fed ganrif maent yn ddeheuig iawn yn gwarchod buddiannau Cymru.
Ychydig sydd â’u bryd ar yrfa wleidyddol; yn hytrach maent yn ystyried
bod aelodaeth o Dy’r Cyffredin yn adlewyrchu eu statws yn eu cymdeithas
leol. Y mae’r mwyafrif yn cefnogi’r goron, fel yn 1642 pan gododd
Charles I fyddin i herio’r Senedd.
Y Rhyfeloedd Cartref
Yn ystod y gwrthdaro y mae yna rhywfaint o gefnogaeth i’r Senedd yng
Nghymru, yn enwedig yn ne Sir Benfro ac yn ardal Wrecsam. Ond nid
yw’r disgrifiad o Gymru fel meithrinfa milwyr troed y brenin yn gwbl
ddi-sail. Y mae’r ymgyrchoedd yng Nghymru yn ymwneud yn fwyaf arbennig
â rheoli arfordiroedd y gogledd a’r de. Daw’r Rhyfel Cartref cyntaf
i ben pan gipiwyd Castell Harlech ym mis Mawrth 1647. Y mae’r ail
(Ebrill i Awst 1648) yn dechrau yn Sir Benfro gyda gwrthryfel y Seneddwyr.
Y mae parodrwydd y brenin i fynd i ryfel eto yn selio’i dynged. Cafodd
ei ddienyddio ym mis Ionawr 1649. Ac mae dau aelod seneddol Cymreig
ymhlith y rhai sy’n arwyddo’r warant i’w ladd. Yn ystod y Werinlywodraeth
(1649-60) mae yna ddatblygiadau ym myd crefydd ac addysg yng Nghymru.
Ond ymhlith yr uchelwyr mae teyrnasiad Oliver Cromwell yn cadarnhau
mai gwell ganddynt fyw o dan lywodraeth brenin.
Gwleidyddiaeth ôl-Adferiad
Adferwyd y Stiwardiaid yn 1660 pan esgynnodd Charles II i’r orsedd.
Ond er yr Adferiad, y mae’r Senedd wedi cael ei ffordd, ac am ganrif
a rhagor, y mae’r grym yng Nghymru yn nwylo dim mwy nag ugain o deuluoedd,
sy’n rheoli cynrychiolaeth y wlad yn y Senedd. Y mae etholiadau’n
cael eu trefnu gan y tirfeddianwyr sy'n llunio cytundebau preifat
ymhlith eu gilydd; rhwng 1660 a 1714 mae yna fwrw pleidlais mewn llai
na 10% o etholaethau Cymru. Agwedd unigolion tuag at Y Stiwardiaid
sy’n llywio teyrngarwch gwleidyddol. Y mae’r Chwigiaid yn cefnogi
diorseddu James II yn 1688 a gorseddu llinach frenhinol Hanofer yn
1714, a’r Torïaid yn derbyn y newidiadau hynny yn anfoddog. Erbyn
canol y 18fed ganrif y mae methiant y Iacobitiaid i adfer y Stiwardiaid
alltud yn golygu nad oes fawr o sail i’r gwahaniaethau rhwng y pleidiau,
er mae’r tirfeddianwyr yn dal i weld eu hunain fel naill ai Chwigiad
neu Dorïaid.
|
 |

|