 Cymru
a'r Rhufeiniaid
 Rhufain: olion cyfnod y Rhufeiniaid
Y Dylanwad Rhufeinig Y mae Cymru’n rhan o’r Ymerodraeth Rufeinig am dros dri chan mlynedd.
Yn y cyfnod yna y mae arferion Rhufeinig yn cael eu derbyn yn rhannau
helaeth o’r wlad. Eto, yn wahanol i’r rhan fwyaf o orllewin Ewrop,
dyw Lladin y Rhufeiniaid ddim yn disodli’r iaith frodorol. Ond y mae,
serch hynny, yn gadael ei ôl, ac y mae’r Frythoneg yn derbyn geiriau
am bethau megis caer, ffenestri, ystafelloedd, llyfrau - geiriau sy’n
cael eu trosglwyddo i’r Gymraeg. Y mae celfyddyd Rufeinig yn gadael
ei farc hefyd, yn cymryd lle celfyddyd Celtaidd y Brythoniaid. Ymhlith
y dosbarth uchaf o leiaf, y mae yna barodrwydd i dderbyn eu bod nhw
yn Rhufeiniaid.
Faint o gysylltiad?
Eto,
dros rannau helaeth o’r wlad, bach iawn yw’r dylanwad Rhufeinig. Fyddai
pobl pentrefi mynyddig megis Tre’r Ceiri, yn ôl pob tebyg, ond yn
dod i gysylltiad â’r ymerodraeth ar ymweliadau prin a’r farchnad y
tu allan i furiau’r gaer yn Segontium (Caernarfon). Mewn mannau eraill
fe fyddai’r cysylltiad yn fwy clos. Tebyg y byddai’r Brythoniaid yn
gweithio ym mwyngloddiau aur Dolaucothi, yng ngwaith teils Holt a
gwaith haearn Arinconium.
Dyfodiad Cristnogaeth Roedd y byd naturiol i gyd yn gysegredig i’r Brythoniaid, ac fel
y Rhufeiniaid mae ganddynt lu o dduwiau. Gyda threigl y canrifoedd
y mae yna duedd i uniaethu duwiau’r Brythoniaid â rhai’r Rhufeiniaid.
Ond erbyn tua 300 OC, y mae crefydd newydd yn dechrau cael gafael
- Cristnogaeth. Erbyn 313 y mae Cristnogaeth wedi cydio ym mhob rhan
o’r Ymerodraeth. Nid yw’n hawdd darganfod i ba raddau y mae Cristnogaeth
yn lledu drwy Gymru yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Y mae yna esgobion
ym Mhrydain erbyn 313 - un efallai yng Nghaerwent - ond rhaid aros
am ymadawiad y Rhufeiniaid cyn i Gristnogaeth wir wreiddio ym mywyd
y bobl.
Uchelgais y cadfridogion
Daw
cwymp yr Ymerodraeth am nifer o resymau cymhleth. Nid lleiaf yw uchelgais
arweinwyr y fyddin i fod yn ymerawdwr. Yn 383 mae Macsen Wledig (Magnus
Maximus) yn ymadael â Phrydain gan fynd â’i filwyr gydag ef i ymgyrchu
am y teitl.
Cymru’n ffarwelio â’r ymerodraeth
Yr un mor bwysig yw her y bobl sy’n byw y tu hwnt i ffiniau’r ymerodraeth.
Yn 410 mae estroniaid yn meddiannu Rhufain, ac nid oes gan yr ymerawdwr
unrhyw ddewis ond annog gwyr Prydain i’w hamddiffyn eu hunain. Y mae
hynny’n gryn orchwyl. Y mae’r Pictiaid yn ymosod o’r gogledd, y Gwyddelod
o’r gorllewin a’r Sacsoniaid o’r dwyrain. Nid yw ymdrechion i sicrhau
annibyniaeth Brittania heb eu llwyddiannau, sy’n cynnwys anturiaethau
mytholegol bron y Brenin Arthur. Ond yn y diwedd, mae’r llanw’n troi,
a daw cenhedloedd y Cymry, y Saeson a’r Albanwyr i fodolaeth.
|
 |

|