Cofeb Goffa Rhagfyr 2009 Ar ddydd y Cofio 2009 bu Fred Owen, Cynghorydd Cymuned o Lanberis, a'i wraig, Beth, mewn gwasanaeth coffa arbennig yn Kyrenia yng Nghyprus.
Bwriad y gwasanaeth oedd nodi hanner can mlynedd ers diwedd yr argyfwng milwrol ar yr ynys.
Dadorchuddiwyd Cofeb ac arni enwau 371 o filwyr o wledydd Prydain a laddwyd ar wasanaeth ar yr ynys rhwng 1955 a 1959.
Dechreuodd Mr Owen ei wasanaeth milwrol gyda lluoedd NATO yn yr Almaen, cyn gwasanaethu yng Nghyprus (1957-58) a chyfnod byr yn cadw'r ffin yn Tripoli.