Carreg filltir arall yn ei gyrfa a hithau eisoes wedi profi sawl llwyddiant yn y byd eisteddfodol a cherddorol.
Mae'n aelod o Gôr Cenedlaethol Cymru ac o Gôr Seiriol, ac yn unawdydd gyda nifer o gorau'r ardal - yn eu plith, Côr Meibion Caernarfon a Chôr y Traeth.
Hefyd mae wedi llwyddo i fod yn aelod o Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru eleni ac ar fin dechrau ymarfer ar gyfer opera newydd sbon, a fydd i'w gweld yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, fis Gorffennaf.
Does dim syndod felly iddi benderfynu cymryd dwy flynedd o seibiant cyn mynd i'r coleg!
Ond mae Elin cyn brysured ag erioed. Ers y Nadolig bu'n weithwraig gefnogol gyda chwmni Anheddau, sy'n galluogi pobl ag anghenion gofal i fyw yn y gymuned.
"Dwi'n mwynhau'r gwaith yn fawr," meddai Elin, "ac yn ddiolchgar iawn am y profiadau gwahanol a newydd 'dwi'n eu cael o ddydd i ddydd.
"Dwi'n gobeithio mynd i goleg y Guildhall yn Llundain y flwyddyn nesa ac mae cymryd dwy flynedd o seibiant yn gyfle i mi baratoi at hynny a chanolbwyntio ar fy nghanu."
Casgliad o ffefrynnau Elin yw'r caneuon ar y CD - yn cynnwys clasuron fel 'Gwahoddiad' a 'Cartref'.
Meddai Elin, "Roedd recordio'r gryno ddisg yn brofiad hollol newydd imi. 'Dwi ddim wedi arfer efo pobol yn dweud wrtha i sut i ganu a rheoli fy llais, ond mi ddes i arfer efo hynny'n ddigon buan!
"Mi wnes i fwynhau'r recordio'n fawr iawn yn stiwdio gartrefol Gwynfryn a 'dwi'n hapus iawn efo'r CD."
Ydi, mae'r dyfodol yn un disglair iawn ond mae traed Elin Mai yn gadarn ar y ddaear,
"Mi faswn i wrth fy modd yn dilyn gyrfa yn canu'n broffesiynol, meddai, 'ond anghofia i byth mai hogan o Lanber ydw i yn y bôn."
 |