|
Wedi gwasanaeth ffrwythlon a llwyddiannus mae Marc Lloyd Williams wedi ei ryddhau.
Ar ddechrau'r tymor nesaf bydd David Wyn Chapman o Ddeiniolen yn ymuno a'r clwb, wedi iddo dderbyn ysgoloriaeth dwy flynedd yn y clwb proffesiynol amser llawn.
Amser cyffrous fydd hwn, gan fod y clwb yn symud i stadiwm a chyfleusterau hyfforddi newydd yn ardal Croesoswallt.
Dechreuodd gyrfa David yn wyth oed pan gynhyrchiolodd dim -9 Deiniolen. Enillodd y tlws am 'Chwaraewr mwyaf addawol', ac yna symud ymlaen i ennill y gynghrair -11 gyda Deiniolen, a chipio Tlws Eco'r Wyddfa.
Braf nodi fod ennill yr hen dlws yma yn dal i olygu rhywbeth i ieuenctid yr ardal.
Symudodd David wedyn i chwarae i'r feithrinfa lewyrchus yn ardal Bangor, sef Maes y Bryn. Yma cipiodd dlws ei oedran fel 'Chwaraewr y Flwyddyn', a Thlws y Rheolwr.
Tra yn Maes y Bryn cafodd dreialon gyda'r ddau brif dîm ym Manceinion - City ac United.
Pan ddaeth clwb Maes y Bryn i ben, symudodd David i chwarae i dim -15 Bethel, dan hyfforddiant Alwynne Jones. Ail yn y gynghrair y tro hwn ac ennill Cwpan Chwarae Teg.
Erbyn hyn mae David yn chwarae yn yr oedran -17. Wedi pum gêm gyda thîm Llanberis, cafodd gyfnod o 6 wythnos yn ymarfer gyda thîm Dinas Caer.
Yn anffodus, yn ystod y cyfnod yma torrodd ligaments yn ei ffêr ac o'r herwydd cafodd ei ryddhau.
Yn ffodus iddo cafodd wahoddiad i glwb Crewe Alexander, clwb a record dda mewn meithrin ambell un aeth yn eu blaen i chwarae ar y lefel uchaf.
Rwan mae David ar gychwyn ei gyfnod dan yr Ysgoloriaeth, wedi ei leoli yng nghlwb y Saint ac yn yr Amwythig.
Dymunwn yn dda i David, a gobeithio y caiff ei wobrwyo am ei ddyfalbarhad.
 |