|
Sylfaenodd y gymdeithas MAMAA (Mothers Against Murder And Aggression) ar ôl llofruddiaeth erchyll James Bulger yn 1993.
Mae'r gymdeithas bellach wedi tyfu ac yn cefnogi dros 600 o deuluoedd sydd wedi colli rhywun annwyl drwy drais.
Maent bellach yn cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pwnc.
Mae MAMAA hefyd yn gwneud gwaith yn yr ysgolion i
godi ymwybyddiaeth ieuenctid o beryglon a chanlyniadau difrifol cario a defnyddio arfau treisgar.
Bu'r aelodau yn cynnal cyfarfodydd aml yn Ysgol Brynrefail.
Ddiwedd y flwyddyn hon bydd MAMAA Cymru yn cael ei lansio yn y Cynulliad yng Nghaerdydd ynghyd a sawl mudiad arall tebyg.
Hoffai Dee ddiolch i bobl Cwm am eu holl gymorth, yn enwedig am warchod y plant, yn aml ar fyr rybudd, tra roedd hi'n mynychu cyfarfodydd.
Yn olaf, llongyfarchiadau i Dee ar ddod yn nain i Harmony Rose, merch i'w mab arall, Steve. Pa well dechrau i flwyddyn ynte?
 |