
Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i fachgen 10 oed a oedd ar goll dros nos.
Cafodd Roman Webb, o Gasnewydd, ei weld ddiwethaf yn ei gartref ddydd Sadwrn am tua 16:45.
Ond cadarnhaodd Heddlu Gwent ei fod wedi'i ganfod yn saff fore Sul yn dilyn apêl.