Yr ymladdwr, Brett Johns, yn ymddeol o MMA

Mae Brett Johns yn ymddeol ar ôl gyrfa o dros 13 o flynyddoedd fel ymladdwr
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymladdwr Brett Johns wedi cyhoeddi y byddai'n ymddeol o'r gamp MMA ar ôl gyrfa o dros 13 o flynyddoedd.
Fe ddaeth y cyhoeddiad ar ôl i'r Cymro Cymraeg o Bontarddulais golli ei ornest nos Sadwrn, yn erbyn Nikolay "Slick Nick" Grozdev o Moldova, am deitl Pwysau Plu'r Byd Way of the Warrior (WOW) ym Madrid.
Yn ystod ei yrfa mae Johns wedi ennill dau deitl byd ac fe oedd y Cymro cyntaf erioed i ymladd yn yr UFC.
Disgrifiodd Johns y penderfyniad fel un "nad oedd yn hawdd" gan fod ymladd wedi bod yn "rhan o'i hunaniaeth am 13 o flynyddoedd," ond mai dyma oedd y "penderfyniad iawn".
"Dwi 'di gweld y straen ar deulu fi, gweld fy ngwraig yn gweithio gyda'r plant bach, a'r rhan fwyaf o'r amser dwi mas o'r tŷ yn gweithio ac yn ymarfer," meddai Johns.
Rhoddodd ddiolch i'w wraig Carys a gweddill ei deulu am eu cefnogaeth nhw dros ei yrfa gan ychwanegu: "Nawr yw'r amser i wario mwy o amser gyda Carys, gyda Beti, gyda Giuseppe y ci. A dwi jyst ishe dweud diolch am yr atgofion. Gweld chi yn y dyfodol."
'Enghraifft o sut i lwyddo'
Dywedodd Richard Shore, sydd wedi hyfforddi Johns am sawl blwyddyn, ei fod yn "ymladdwr gwych ond yn ddyn hyd yn oed yn well".
Yn yr ornest nos Sadwrn roedd Johns yn ceisio ennill trydydd teitl byd ar ôl ennill pencampwriaethau blaenorol Cage Warriors a Titan FC.
Mae Mr Shore wedi dweud "os mai dyna ei ornest olaf, mae'n cael fy mendith i, ond 'never say never'".
Ychwanegodd ei fod e'n credu mai Johns yw un o'r ymladdwyr gorau y mae Cymru erioed wedi ei weld.
"Rwy'n credu mai ei gyflawniad mwyaf trawiadol oedd cael dwy ornest mewn un noson, gan ymladd wyth rownd lawn i ddod yn bencampwr y byd Cage Warriors.
"Dim llawer o ddynion ar y blaned yma all hyd yn oed breuddwydio gwneud hynny."
Ychwanegodd y dylai unrhyw ymladdwr ifanc edrych ar Johns "yn y gawell ac y tu allan" fel enghraifft o sut i lwyddo.
Brett Johns yn colli yn yr UFC
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2018
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.