'Cyfrifoldeb ar bawb i sicrhau gwaddol hirdymor yr Eisteddfod'

EisteddfodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn / Eisteddfod Genedlaethol Cymru
GanGarry Owen
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod cyfrifoldeb ar bawb i sicrhau fod gwaddol hirdymor Eisteddfodau Cenedlaethol yn parhau ar gyfer yr ardaloedd lleol.

Maen nhw'n addo "dod â phobl ynghyd i gydweithio â chymunedau lleol" er mwyn "cynllunio beth fydd gwaddol yr Eisteddfod".

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi fframwaith strategol sy'n cryfhau a chydlynu'r gwaith o sicrhau gwaddol parhaol.

Yn ôl cadeirydd y gronfa leol ar gyfer y brifwyl eleni, mae trafod wedi dechrau er mwyn troi gwaddol yr Eisteddfod yn "rhywbeth mwy tymor hir o dan frand y Garreg Las".

'Rhaid i'r gymuned berchnogi hyn'

Dywedodd y gweinidog diwylliant Heledd Fychan bod cyfrifoldeb ar yr holl bartneriaid, y gwirfoddolwyr, y cymunedau, y cynghorau sir a'r llywodraeth i sicrhau "fod yr holl weithgaredd yn parhau a bod mwy o gyfleon i bobl ddefnyddio a dysgu'r Gymraeg".

Ychwanegodd mai'r "hyn ry'n ni isie gweld yw ein bod ni fel llywodraeth yn cydweithio â phartneriaid a'r gymuned, oherwydd mae rhaid i'r gymuned berchnogi hyn.

"Be' maen nhw isie i'r gwaddol fod?

"Ry'n ni'n meddwl y gallwn ni fynd ymhellach ac yn fwy strategol i sicrhau fod effaith yr Eisteddfod yn fwy hirdymor."

Cris Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cris Tomos "am droi y pwyllgorau apêl yn fentrau cymdeithasol i barhau â'r gwaddol a'r egni fan yna"

Mae pob Eisteddfod yn ceisio adlewyrchu'r ardal leol, gan arddangos hunaniaeth unigryw'r gymuned honno.

Ond felly, bydd amcanion a gobeithion cymunedau o ran gwaddol yr Eisteddfod yn amrywio.

Dywedodd cadeirydd y gronfa leol ar bwyllgor gwaith y brifwyl eleni, Cris Tomos eu bod wedi sefydlu "pwyllgorau apêl a chodi arian" yn arwain at yr Eisteddfod.

"Ond nawr ar ôl hoe fach, ni yn meddwl o bosib am droi y pwyllgorau apêl yn fentrau cymdeithasol i barhau â'r gwaddol a'r egni fan yna, a'i droi yn rhywbeth mwy tymor hir o dan frand y Garreg Las".

Mae pobl yn edrych ymlaen at Eisteddfod 2027 yn barod ac mae'r elfen o hunaniaeth wedi dod i'r amlwg bron yn syth ar ôl i'r ardal gael gwybod fod yr Eisteddfod yn dod.

Ym Maldwyn a Meirionnydd, mae syniadau gwahanol eisoes ar waith o ran codi arian, a hynny yn adlewyrchu'r gymuned honno.

Dywedodd Peter Jones, cadeirydd y gronfa leol ar gyfer Eisteddfod 2027 fod y rhan fwyaf o ardaloedd ym mro'r Eisteddfod wedi mynd am un targed ariannol yn ei gyfanrwydd yn hytrach na thargedau unigol i gymunedau neu bentrefi.

"Hyd yma mae popeth yn mynd yn llwyddiannus," meddai.

"Mae e dal yn bwysig i godi y naws a hysbysebu a hybu yr Eisteddfod a dangos gymaint o les mae'r Eisteddfod yn gallu 'neud i ardaloedd.

"Dyw hynny ddim yn newid."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.