Beirniaid yr Eisteddfod yn 'sarhaus' drwy ddisgrifio nofel awdur fel un gan AI

Dywedodd Romy Wood fod "pobl yn chwerthin am fy mhen" yn seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
- Cyhoeddwyd
Mae awdur sydd wedi dysgu Cymraeg wedi dweud fod beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn "sarhaus" tuag at ei nofel.
Daw wedi iddyn nhw ddweud yn y seremoni ddydd Mawrth eu bod yn credu i un o'r ymgeiswyr ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn eu gwaith.
Fe gysylltodd awdur y nofel, Romy Wood o Gaerdydd, gyda BBC Cymru yn dweud nad oedd hi wedi defnyddio AI i ysgrifennu'r nofel.
Yn ôl y beirniaid, sy'n gweithredu'n annibynnol i'r Eisteddfod Genedlaethol, maen nhw'n "llwyr dderbyn canllawiau parch yr Eisteddfod".
Rebecca Thomas o Gaerdydd gipiodd Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Ynys Gwales.

Mae Romy Wood yn dweud bod ei hyder fel siaradwr Cymraeg wedi ei "chwalu"
Yn ôl y beirniaid Meinir Wyn Edwards, Llwyd Owen a Lleucu Roberts, roedd hi'n "gywilyddus" bod un o'r naw ymgeisydd wedi penderfynu defnyddio AI mewn "cystadleuaeth mor bwysig â hon".
Enw'r darn dan sylw oedd Y Dderwen gan Lithedora, ac fe gafodd y nofel ei gosod "ar waelod y pentwr" yn ôl y beirniaid.
Mae Romy Wood wedi dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn, ac yn teimlo fod y beirniaid wedi bod yn "sarhaus" tuag at ei "nofel bersonol".
"Oedd e'n stori bersonol am fy nheulu felly oeddwn i eisiau ysgrifennu'r llyfr, ond gan fy mod wedi dysgu roeddwn i eisiau trio ysgrifennu rhywbeth yn y Gymraeg.
"O'n i jest isio trio, o'n i'n licio'r nofel felly wnes i ddewis Gwobr Daniel Owen fel rhywbeth i anelu at."
'Chwerthin am fy mhen'
Ychwanegodd bod ei hyder fel siaradwr Cymraeg "wedi'i chwalu".
"O'n i'n disgwyl dod yn olaf ond o'n i ddim yn meddwl bod hi'n gywilyddus.
"Roedd y seremoni yn ofnadwy, roedd pobl yn chwerthin am fy mhen.
"Oeddwn i'n devastated. O'n i'n meddwl thank god doeddwn i ddim yn y babell gyda 'mhlant, gyda'n rhieni yn llefain y glaw."
Roedd Meinir Wyn Edwards wedi dweud ei bod yn "gywilyddus" gweld rhywun yn anfon y fath nofel i gystadleuaeth mor bwysig
Mae BBC Cymru wedi gweld cadarnhad fod Romy Wood wedi cystadlu yn y gystadleuaeth.
Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol: "Os bydd beirniad yn gofyn i waith gael ei wirio, mae gennym broses yn ei le sy'n cynnwys cyngor cyfreithiol.
"Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid oes proses awtomatig na system sy'n ein galluogi i wirio am ddefnydd o AI a llên-ladrad."
Ychwanegon nhw gan nad oedd gwaith Lithedora yn y categori uwch "ni ofynnwyd iddo gael ei wirio yn y modd hwn".
Anfonodd Romy Wood lythyr at yr Eisteddfod yn dweud: "I fod yn glir, dwi ddim am gwestiynu eich penderfyniad i fy rhoi ar y gwaelod a dwi'n falch iawn gweld bod Rebecca Thomas yn fuddugol.
"Beth dwi am agor yma ydy trafodaeth ynghylch a ydy hi'n dderbyniol chwerthin a gwawdio ein gilydd, yn enwedig mewn lleoliad cyhoeddus ac mewn cyd-destun sy'n cael ei ddarlledu ar ein sianel annwyl S4C, yn ogystal ag ar y BBC."
Dywedodd nad ydy hi wedi cael ymateb o'r Eisteddfod Genedlaethol i'w llythyr.

Gobaith Romy yw agor trafodaeth ynghylch "a ydy hi'n dderbyniol chwerthin a gwawdio ein gilydd" wrth roi adborth
Dywedodd Meinir Wyn Edwards yn y feirniadaeth: "Does dim cynllun na bwa storïol yn y nofel yma, ac mae'r mynegiant carbwl a gwallus yn gwneud y cyfan bron yn amhosib ei ddarllen.
"Cymaint felly nes ein bod ni yn amau mai peiriant deallusrwydd artiffisial sydd wedi creu'r nofel a bod yr awdur ddim wedi trafferthu darllen dros y gwaith chwaith.
"Yn ôl Llwyd Owen, yr unig gysur yw hyn - os mai dyma'r gorau sydd gan ein darpar uwch-arglwyddi i'w gynnig, mae dyfodol llenyddiaeth Cymru yn ddiogel."
Mewn ymateb i sylwadau Romy Wood fe ddywedodd y beirniaid, Lleucu Roberts, Meinir Wyn Edwards a Llwyd Owen eu bod nhw'n "llwyr dderbyn canllawiau parch yr Eisteddfod".
"Mae'n ddrwg calon gennym ein bod wedi peri gofid, ond roedd y tri ohonom yn unfarn mai rhyw fath o ddeallusrwydd artiffisial oedd wedi creu'r gwaith.
"Braf gweld dysgwyr yn hogi eu crefft ar gystadlaethau'r Eisteddfod. Rhyw ddydd, diau y gwelwn yr awdures newydd hon i'n hiaith yn gwisgo'r Fedal.
"Llongyfarchiadau gwresog iawn i Rebecca Thomas ar greu nofel wirioneddol arbennig."
'Cywilyddus' defnyddio AI i ysgrifennu nofel yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Rebecca Thomas yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae beirniaid yr Eisteddfod yn gwbl annibynnol, mae'n bwysig i ni fel sefydliad barchu'r annibyniaeth honno.
"Ar yr un pryd, rydym am weld adborth yn cael ei gyflwyno mewn ffordd barchus, ac adeiladol, ac ni fyddwn byth am i unrhyw gystadleuydd deimlo bod y profiad wedi'i ddifetha gan y ffordd y cafodd yr adborth ei roi.
"Mae annog dysgwyr i gymryd rhan yn llawn yn ein cystadlaethau hefyd yn egwyddor hollbwysig i ni, fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi twf y Gymraeg ac i groesawu siaradwyr newydd i'n cystadlaethau.
"Byddwn yn rhannu'r adborth â'r panel o feirniaid ac yn ei ystyried wrth barhau i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bawb sy'n cymryd rhan."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.