'Pwysig dweud bod modd byw bywyd iach gydag HIV wedi i fi fyw celwydd'

Dyma hunlun o Mark Lewis yn San Steffan, Llundain. Mae'n ddyn gwyn, yn ei 40au, ac yn gwisgo crys chwys llwyd gyda sbectol grwn dryloyw. Mae ganddo wallt tywyll a gwallt wyneb tywyll hefyd.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe benderfynodd Mark rannu ei ddiagnosis yn gyhoeddus wedi blynyddoedd o beidio â dweud

GanMegan DaviesGohebydd BBC Cymru a Carwyn JohnNewyddion Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Roedd pedair blynedd o fywyd Mark Lewis o Sir Gâr yn "gelwydd".

Roedd e'n byw gyda HIV ond ni wnaeth rannu'r ffaith honno gyda'i deulu er ei fod wedi gweithio yn y maes.

"Cyn 'na o'n i'n cadw list o bobl o'n i wedi dweud wrtho, nes i fi ddod mas i Mam a Dad," meddai.

Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol AIDS, mae'r dyn 43 yn gobeithio lledaenu'r neges bod modd byw bywyd llawn a iachus gydag HIV, heb stigma.

"Oherwydd fod pobl ddim yn marw gymaint yng Nghymru a Phrydain, does neb yn gwybod amdano fe," meddai Mr Lewis wrth gyfeirio at ei bryder bod diffyg ymwybyddiaeth o HIV.

Mae Mr Lewis yn cofio y foment y cafodd wybod bod ganddo'r firws.

"I fod yn onest, doeddwn i ddim yn poeni am HIV oherwydd roeddwn i'n meddwl ei fod wedi diflannu oherwydd nad oedd e gymaint yn y newyddion ac roeddwn i'n meddwl fy mod i'n berson addysgedig fy hun.

"O'n i ddim yn gwybod ffordd i ddweud wrth y teulu."

Mae Mr Lewis wedi profi rhagfarn o ganlyniad i'r firws, gan gynnwys deintydd yn gofyn iddo a oedd yn ddiogel i glinig roi triniaeth ddeintyddol iddo.

Er hynny, mae e hefyd wedi cael cefnogaeth enfawr wrth rannu ei ddiagnosis ac yn dweud ei fod e'n falch bod ei onestrwydd wedi sbarduno eraill i rannu eu hanes nhw.

Bob blwyddyn mae Mr Lewis yn gwisgo bathodyn Rhuban Coch i nodi Diwrnod AIDS y Byd, yn ogystal â phin sy'n darllen 'Methu Ei Drosglwyddo', gan gyfeirio at y ffaith na allwch drosglwyddo'r firws i rywun arall os ydych chi'n cael triniaeth effeithiol.

Mae'n cofio gweithiwr mewn bar yn Llundain yn gofyn iddo beth oedd ystyr y bathodyn.

"Roedd y dyn yn hoyw ei hun, a gofynnodd i mi beth oedd Diwrnod AIDS y Byd hefyd.

"Dyna'r broblem, dydy llawer o bobl ifanc ddim yn gwybod amdano oherwydd rydyn ni wedi dod mor bell yn y driniaeth ar atal a phopeth."

Beth yw HIV?

Mae firws diffyg imiwnedd dynol (HIV) yn firws sy'n gwanhau eich system imiwnedd ac yn cynyddu eich risg o salwch difrifol, yn ôl y Gwasanaeth Iechyd.

Mae'n cael ei ledaenu gan amlaf drwy gael rhyw gyda rhywun sydd â HIV, heb ddefnyddio condom.

AIDS yw'r enw ar gasgliad o afiechydon difrifol sy'n cael eu hachosi gan y firws HIV.

Gyda'r driniaeth gywir, nid yw'r rhan fwyaf o bobl â HIV yn datblygu AIDS ac maen nhw'n gallu byw bywyd hir ac iach.

Mae tua 2,800 o bobl yn byw gyda HIV yng Nghymru, yn ôl Fast Track Cymru, - elusen sy'n ceisio rhoi terfyn ar drosglwyddo HIV.

Yn y llun yma mae Russell T Davies yn gwisgo crys coch a glas gyda siaced ddu. Mae'n llun proffesiynol a dynnwyd ar set Dr Who. Gallwch weld y Tardis yn y cefndir. Mae ganddo wallt tywyll ac mae'n gwisgo sbectol ddu.Ffynhonnell y llun, Ray Burmiston
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sgriptiwr o Gymru wedi ysgrifennu am fywyd yn yr 80au pan nad oedd triniaeth ar gyfer HIV

Mae'r dramodydd o Abertawe, Russell T Davies, wedi rhybuddio "nad yw'r frwydr drosodd" o ran cael gwared ar HIV.

Dywedodd bod yn rhaid edrych yn ôl ar y gorffennol wrth wynebu'r dyfodol.

Daw rhybuddion Mr Davies wrth i UNAIDS, rhaglen atal AIDS ar y cyd â'r Cenhedloedd Unedig, rybuddio bod yr ymateb byd-eang i HIV wedi dioddef yr ergyd fwyaf sylweddol ers degawdau oherwydd toriadau mewn cyllid.

Rhybuddiodd y gallai methu â chyrraedd targedau HIV byd-eang 2030 arwain at 3.3 miliwn o heintiau HIV newydd yn y pum mlynedd nesaf.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ystyried HIV yn "fater iechyd cyhoeddus byd-eang mawr" ac maen nhw'n credu fod 44.1 miliwn wedi marw o ganlyniad i HIV.

Er nad oes modd cael gwared ar y feirws yn gyfan gwbl, mae meddyginiaeth gwrthfeirysol yn golygu y gall cleifion fyw bywydau hir ac iach.

Cofia Russell T Davies, 62, amser pan oedd ofnau mawr yn y gymdeithas am y firws.

"Rwy'n hollol siŵr nad yw'r frwydr drosodd ac weithiau rwy'n ofni bod y frwydr ar fin dechrau eto," ychwanegodd.

Yn y ffotograff hwn o'r 80au, mae Dr Olwen Williams i'w gweld wrth ei desg hi. Mae hi'n gwisgo cot wen gyda chrys melyn. Mae ganddi bob du.Ffynhonnell y llun, Dr Olwen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Olwen Williams wedi bod yn gweithio ym maes Iechyd Rhyw a HIV ers yr 80au

Mae Dr Olwen Williams, 65, yn cofio yr achosion cyntaf o HIV yn cael eu hadrodd yn y Deyrnas Unedig yn y 1980au, pan oedd hi'n gorffen ei gradd meddygaeth yn Lerpwl.

Mae hi'n cofio methu â dod o hyd i unrhyw wybodaeth am y cyflwr yn ei gwerslyfrau.

"Tan i'r feirws gael ei ffeindio yn 1984, o'dd e'n edrych yn druenus iawn," meddai.

Fel meddyg ifanc yn wreiddiol o ogledd Cymru, treuliodd amser yn gweithio ar ward HIV yn Llundain yn anterth yr epidemig.

"Dwi'n cofio gweld y wardiau lle oedd pobl yn marw.

"O'dd o'n effeithio ar bob agwedd o'n bywydau ni yn ystod yr adeg yna."

Dywed ei bod yn hynod o falch bod modd i bobl bellach fyw bywyd iach gyda'r firws - diolch i feddygaeth fodern.

Pynciau cysylltiedig