Gobaith cadw dwy orsaf Radio Cymru - dirprwy gyfarwyddwr y BBC

Rhodri Talfan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhodri Talfan Davies ei benodi fel dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol y BBC ym mis Mehefin

  • Cyhoeddwyd

Mae dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol newydd y BBC yn dweud ei fod yn gobeithio na fydd Radio Cymru 2 yn diflannu fel rhan o doriadau i wasanaethau'r gorfforaeth.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, a gafodd ei benodi i'r rôl ym mis Mehefin, fod yr orsaf yn cynnig "dewis ychwanegol pwysig" a'r gobaith ydy "bod yna ffordd y medrwn ni weithio'r arian fyddai'n cynnal yr orsaf".

Mae adroddiad blynyddol y gorfforaeth a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher yn dweud bod dwy filiwn yn llai o bobl wedi talu ffi'r drwydded y llynedd o gymharu â phum mlynedd ynghynt.

Ar hyn o bryd mae'r BBC yn wynebu cyfnod o doriadau sylweddol - mae disgwyl i un o bob 10 swydd ddiflannu wrth i'r gorfforaeth geisio arbed £500m yn y ddwy flynedd nesaf ac mae disgwyl i raglenni ac o bosib gwasanaethau cyfan ddiflannu.

Disgrifiad,

Rhodri Talfan Davies yw dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol newydd y BBC

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Mr Talfan Davies, sydd wedi treulio cyfnodau fel cyfarwyddwr cyffredinol dros dro, cyfarwyddwr y cenhedloedd a chyfarwyddwr BBC Cymru, bod y darlun ariannol yn "ddifrifol".

"Ni yn wynebu toriadau o ryw 500 miliwn o bunnau dros y ddwy flynedd nesaf, ac yn bennaf mae hwn oherwydd y pwysau ar incwm y ffi drwydded," meddai.

"Mae strwythur y ffi drwydded yn seiliedig ar ddarlledu byw, ac mae'n amlwg i bawb fod arferion gwylio a defnydd cyfryngol yn newid, ac mae angen i strwythur ffi'r drwydded newid hefyd.

"Ry' ni ynghanol trafodaethau dwys gyda'r llywodraeth Brydeinig. Ry' ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â natur yr her, ac ry' ni o'r farn bod y BBC yn gyd-fuddsoddiad mewn democratiaeth, mewn diwylliant, mewn cymunedau ac mae'n bwysig ei fod o'n cael ei gynnal.

"Ac ry ni'n sicr yn glir nad yw'r strwythur presennol, lle mae talu'r drwydded yn seiliedig ar ddarlledu byw, nad yw hynny yn gynaliadwy."

'Gobeithio bod yna ffordd trwy hyn sy'n cynnal y ddwy orsaf'

Dywedodd bod y toriadau "sy'n oddeutu deg y cant o arian y BBC" yn mynd i effeithio ar holl wasanaethau'r gorfforaeth.

"Mae toriadau yn Radio 4 wedi ei gyhoeddi, mae yna doriadau eisoes wedi cael eu cyhoeddi yn BBC News ac ar draws y cenhedloedd," meddai.

"Does yna ddim gwasanaeth yn y BBC sydd ddim yn cael ei effeithio gyda'r heriau."

Pan ofynnwyd iddo am ddyfodol Radio Cymru 2, dywedodd "bod buddsoddiad y BBC a chefnogaeth y BBC i'r iaith Gymraeg boed ar Radio Cymru, ar Radio Cymru 2 neu trwy S4C... yn bwysig ofnadwy".

"Ond mae'n rhaid i mi fod yn onest does yna ddim model dros y deunaw mis nesaf sydd ddim yn effeithio ar ein holl wasanaethau ni," meddai.

"Mae tîm BBC Cymru eisoes wedi argyhoeddi bod yna ryw doriad o naw miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, mae yna doriad o ryw 50 swydd... wrth gwrs byddwn ni'n amddiffyn pethau sydd yn greiddiol i'n perthynas ni gyda'r gynulleidfa.

"Ro' ni'n rhan o'r drafodaeth wrth greu Radio Cymru 2 a dwi yn credu bod yna ddewis ychwanegol pwysig y mae Radio Cymru 2 yn ei gynnig, felly mi fyddwn i'n gobeithio bod yna ffordd y medrwn ni weithio'r arian fyddai'n cynnal yr orsaf."

Ychwanegodd: "Byddwn ni'n gobeithio bod yna ffordd trwy hyn sydd yn cynnal y ddwy orsaf mewn ffordd sydd yn apelio at y gynulleidfa ac sy'n cynnal y gefnogaeth y mae'r BBC yn ei dderbyn gan y defnyddwyr Cymraeg."

O ran effaith gostyngiad y nifer o bobl sy'n talu ffi'r drwydded ar S4C, dywedodd fod y sianel yn annibynnol a bod y "dewis ynglŷn â sut maen nhw'n ymdopi a'r newid digidol yn fater iddyn nhw".

"Beth sydd yn greiddiol i bawb ei ddeall ydi mai incwm o ffi'r drwydded sy'n cynnal ein holl wasanaethau Cymraeg," meddai.

"Os ydy'r incwm yn gostwng mae hynny'n cael effaith ar gynaliadwyaeth ein gwasanaethau.

"Felly mae o fudd i bawb, gan gynnwys S4C, bod yna newid i'r system ariannu, ac os nad oes yna, mi fyddwn ni'n gweld newidiadau a gostyngiadau graddol o flwyddyn i flwyddyn ar draws y gwasanaethau sy'n cael eu cynnal gan y ffi drwydded."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.