Beicio 3,000km o Sbaen yn ôl adref i Fôn

Griff RobertsFfynhonnell y llun, Griff Roberts
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Beth mae myfyrwyr ledled Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, a hithau'n wyliau haf?

Os ydyn nhw unrhywbeth fel Griff Roberts, yr ateb yw treulio mis yn beicio 3,000km drwy Sbaen ac yn ôl adref i Lanfairpwll...

Dyma Griff i ddweud hanes ei antur:

beicwyr yn SbaenFfynhonnell y llun, Griff Roberts

Beicio a champio

Pob haf, mae clwb triathlon Prifysgol Glasgow yn trefnu gwyliau i'r clwb. Eleni, Valencia oedd y dewis.

Awgrymodd ffrind y dylen ni bikepackio i gyfarfod ein ffrindiau o'r clwb yno; o Santander i Valencia, o'r arfordir gogleddol i arfordir dwyreiniol Sbaen.

Pobl ar feicFfynhonnell y llun, Griff Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Griff (dde) a rhai o'r criw o ffrindiau a feiciodd o Santander i Valencia

Doeddwn i erioed wedi beicio a gwersylla o'r blaen; roeddwn i wedi bod yn ddigon lwcus i feicio dramor ychydig o weithiau o'r blaen, ac roeddwn i'n gwybod fy mod i'n ei garu, ond roedd hyn yn wahanol.

GwersyllFfynhonnell y llun, Griff Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y criw yn gwersylla mewn lleoliadau diddorol yn ystod eu taith ar draws Sbaen

Roedd yr 800km cyntaf yn mynd o'r porthladd yn Santander i lawr at Valencia. Cymerodd hynny chwe diwrnod.

O guddio rhag pryfed mewn bagiau bivi a defnyddio stôfs nwy bob nos, i olchi ein hunain mewn afonydd a chysgu ar draethau, roedd hyn yn brofiad hollol newydd.

Beicwyr yn gorweddFfynhonnell y llun, Griff Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Beicwyr blinedig!

Roeddwn i'n hynod o lwcus i gyrraedd Valencia mewn un darn, ac yn fwy lwcus fyth mod i wedi gallu rhoi fy hun mewn sefyllfa i wneud y daith yn y lle cyntaf.

Roedd llawer o'r cymhelliant yn dod o'r gred bod o'n fraint arbennig cael trio pethau sy'n heriol.

Dim ond pan gyrhaeddon ni'r Mediterranean wnes i benderfynu beicio adra i Ynys Môn...

beic wrth y môrFfynhonnell y llun, Griff Roberts

Ar ôl gadael Valenica, pan trodd y lleill am adra, fe wnaeth Skye a finnau fynd o gwmpas y Pyreneau i weld ffrind o'r brifysgol.

Daeth Victor i'n cwrdd yn Sbaen a beicio o'n blaen ni am 40km yn ôl i'w dref arfordirol Ffrengig-Gatalanaidd ar y Côte Vermeille: Banyuls-sur-Mer.

Alla i'n hawdd alw'r dair noson yna'n baradwys go iawn. Snorclo am bysgod, bwyta croissants, tapas, gwylio Harry Potter, a nosweithiau allan dwi'n trio fy ngorau i gofio.

Dwi methu diolch digon i Victor a'i ffrindau am ei groeso. Doeddwn i ddim yn gwybod bryd hynny mai dyma oedd jest y cyntaf o'r gweithredoedd rhyfeddol o garedigrwydd fyddwn i'n eu profi.

Griff a ffrindiau ar feicsFfynhonnell y llun, Griff Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Wedi cael cwmni am ran helaeth o'r daith, roedd Griff am fod yn teithio o dde Ffrainc yn ôl adref i Fôn ar ei ben ei hun

Caredigrwydd dieithriaid

Efo dim ond tua 1,700km ar ôl, a Skye yn dal trên o Banyuls i Toulouse, ro'n i ar ben fy hun.

Beicio ar hyd y Canal du Midi o'r Med i arfordir yr Iwerydd, gan aros dros nos ger Carcassonne, Toulouse, Bazens a Bordeaux.

Roeddwn i'n delio ag unigrwydd a charedigrwydd eithafol bob un diwrnod. Doedd dim un diwrnod yr un fath, ond roedden nhw i gyd yn cynnwys llawer iawn o fwyta, yfed a phedlo.

Croissants ar y beicFfynhonnell y llun, Griff Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Croissants... rhan hanfodol o unrhyw daith feics drwy Ffrainc

Y ddwy noson olaf ar hyd y gamlas, ro'n i'n aros mewn tai oddi ar Warmshowers – gwefan i feicwyr aros efo beicwyr eraill – ac roedd y ddau brofiad yn hollol wahanol i'w gilydd.

Yn y bryniau diarffordd uwchben Port-Sainte-Marie, roedd fy ngwesteiwr, Myriam, wedi paratoi lle i mi cyn gadael ar drip teulu, er mod i ond wedi cysylltu efo hi'r noson cynt.

Mi ges i gawod, berwi pasta, a chysgu mewn gwely. Doedd dim clo ar y sied, felly ro'n i'n pwyso'r beic yn erbyn y drws o'r tu mewn.

cath a beicFfynhonnell y llun, Griff Roberts

Tua 7pm y noson wedyn, wrth i mi nesáu at Bordeaux, ges i neges gan westeiwr arall, Arnaud. Dywedodd y dylwn i drio'i gyrraedd o fewn 45 munud, gan ei fod o'n mynd allan am sbel. Edrychais ar Google Maps; ro'n i 50 munud i ffwrdd.

Ro'n i hefyd yn llwglyd ac yn sychedig, felly rhoddais i'r ffôn yn fflat yn y bag ar y tiwb top a rhoi cyfeiriad Arnaud i mewn. Ro'n i'n gwybod y gallwn i dynnu pum munud oddi ar yr amser os oeddwn i'n 'locio mewn'. A hefyd, mae goleuadau coch mond ar gyfer ceir, reit?

Syrthiodd y ffôn allan ar y ffordd wrth i mi wibio drwy ganol y ddinas; yn ffodus, dangosodd y ffôn fwy o wydnwch na fi ac roedd o dal i weithio. Cyrhaeddais dŷ Arnaud heb funud i'w sbario.

Bwyteais i swper yn nhŷ ei ffrind y noson yna - fflan a salad o fresych coch - yn hawdd y bwyd gorau ro'n i wedi'i gael ers gadael Banyuls.

Y bore wedyn, roedd o wedi bod i'w hoff fecws cyn i fi godi i ôl ei hoff pâtisseries!

Arnaud a GriffFfynhonnell y llun, Griff Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Griff gydag Arnaud, a roddodd gymaint o groeso iddo yn Bordeaux

Gadewais letygarwch Arnaud i seiclo tuag at La Rochelle ac ar y ffordd i Nantes y diwrnod ar ôl hynny, ges i fy nal mewn mellt a tharannau, trysor yng nghanol y gwres!

Roedd hi dros 40°C ac ro'n i wedi bod yn beicio drwy be' oedd Arnaud yn ei alw'n 'unprecendeted heatwave', hyd yn oed i Ffrainc.

Ar ôl i ysgolion gau ar draws y rhanbarth, ges i fy mherswadio i ddal trên o Nantes i Rennes, i gael gwared ar 100km, ac wedyn beicio'r 80km i borthladd St Malo ar arfordir gogleddol Ffrainc.

Beics ar y fferiFfynhonnell y llun, Griff Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Degau ar ddegau o feics ar y fferi yn ôl o Ffrainc, a channoedd o straeon gan y beicwyr

Roedd yr amser ar y fferi'n braf iawn am fod cymaint o feicwyr yno; welais i tua 40 o feics wedi'u cloi dan y dec.

Ro'n i'n meddwl wrtha fy hun tybed sut 'nes i feicio cymaint heb ddod ar draws yr un ohonyn nhw, ac eto roedden ni i gyd wedi cyrraedd yr un lle efo straeon oedd yr un mor ysbrydoledig. Mae'n dweud lot am y byd bikepackio.

P'un ai oedden nhw'n reidio e-feics, beics mynydd, beics lôn, treisicl neu rywbeth yn y canol, roedd pob seiclwr ar y fferi yn dangos bod o'n beth da teithio ar feic, os oes digon o ewyllys.

Mae'r straeon rwyt ti'n eu rhannu yn anrhegion bendigedig.

Teg edrych tuag adref

Yng Nghaerdydd, arhosais i gyda theulu cefnder fy nhad; Emyr a Sioned a'r plant: Dewi, Gwyn a Carys. Y teulu cyntaf a'r pobl cyntaf oedd ddim yn ddiarth i mi.

Wrth i'r ton o wres fy nilyn i o Ffrainc, diolch iddyn nhw am roi fi mewn bath rhew – achubwyr bywyd!

Carys, Griff, Gwyn ac Emyr a beic GriffFfynhonnell y llun, Griff Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Carys, Griff, Gwyn ac Emyr - O wres Ffrainc i wres Cymru, roedd Griff yn ddiolchgar iawn am gael bath rhew yng Nghaerdydd!

Anfonais i neges fideo at fy nheulu wrth i mi groesi Pont Menai; ro'n i bum munud o fod adra. Yn ôl pob sôn, rhedon nhw allan i aros amdana i ar waelod y stryd.

Dwi'n siŵr eu bod nhw'n poeni pan nad oeddwn i wedi troi fyny 15 munud yn ddiweddarach... o'n i wedi disgyn i ffwrdd?

Yn ôl yn Borth, roedd Nain a Taid wedi cael eu cyfarch gan deithiwr chwyslyd.

Roeddwn i'n lwcus iawn i allu siarad efo nhw ar sawl noson tra ro'n i'n teithio, fel ro'n i'n gwneud efo Mam a Dad a fy nau frawd, Seth ac Ifan.

Griff ar ei feicFfynhonnell y llun, Griff Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Adref o'r diwedd

Wrth i mi edrych yn ôl ac ail-fyw'r daith, dwi'n sylweddoli'n fwy nag erioed: hyd yn oed pan ro'n i filoedd o filltiroedd i ffwrdd, efo dim ond pain au chocolat fel cwmni, roedd eu cariad werth y pellter.

Fel myfyriwr, ro'n i'n hynod o lwcus i allu defnyddio'r bwlch bach yma o ddiweithdra i grwydro Gorllewin Ewrop ar fy meic, a dwi'n wirioneddol yn trio peidio cymryd y daith yma yn ganiataol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.