Mam a laddodd ei mab, 5, yn gobeithio am adolygiad o'i hachos

Llun Angharad Williamson o ddalfa'r heddluFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Angharad Williamson dreulio o leiaf 28 mlynedd yn y carchar am ei rhan yn llofruddiaeth ei mab

  • Cyhoeddwyd

Mae mam a lofruddiodd ei mab pum mlwydd oed yn gobeithio sicrhau adolygiad gan y corff sy'n ymchwilio i achosion posib o gamweinyddu cyfiawnder.

Cafodd Angharad Williamson ddedfryd o garchar am oes ym Mehefin 2022 am ladd Logan Mwangi, ynghyd â llys-tad y bachgen, John Cole a bachgen yn ei arddegau, Craig Mulligan, oedd yn 14 oed ar y pryd.

Fe gafodd yr wybodaeth ynghylch apêl bosib ei ddatgelu yn ystod adolygiad cyn-cwest yn Llys Crwner Pontypridd, a nododd y bydd cwest yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2027 - dros chwe blynedd wedi marwolaeth Logan yng Ngorffennaf 2021.

Mae disgwyl i'r cwest bara am bedair wythnos, gan edrych ar ddatblygiadau rhwng Awst 2020, pan gafodd Logan ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau 11 mis cyn ei farwolaeth.

Cafodd Williamson ei gweld am gyfnod byr ar sgrin wrth wrando ar y gwrandawiad o garchar Downview yn Surrey, gyda gweithiwr iechyd meddwl wrth ei hochr.

Logan MwangiFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr, ger ei gartref ym mhentref Sarn, - roedd ganddo 56 o anafiadau allanol, ac fe ddaeth i'r amlwg ei fod hefyd wedi cael niwed mewnol difrifol i'w abdomen

Yn y llys siaradodd Tony Thompson, cyn-uwcharolygydd gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain, a ofynnodd am gael ei ystyried yn gynrychiolydd lleyg Williamson, wedi iddi gysylltu ag ef ddiwedd y llynedd.

"Rwy'n cynnal adolygiad i'w heuogfarn, yn ddi-dâl," dywedodd. "Does dim cymorth cyfreithiol 'da hi."

Y bwriad, meddai, "yw gweld a oes sail i fynd i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol", ac yna i'r Llys Apêl, ond fe fyddai hynny "gryn amser i ffwrdd".

Awgrymodd bod "cysylltiad agos" rhwng y cwest a'i ymchwiliad, ac y dylai gael ei ystyried yn "berson â diddordeb" yn y cwest, sef rhywun all gymryd rhan weithedol yn y broses.

Ni siaradodd Williamson yn y gwrandawiad - dywedodd y Crwner David Regan ei fod ar ddeall ei bod "yn dymuno arsylwi".

Lluniau o John Cole a Craig Mulligan yn y ddalfaFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Cole ei garcharu am o leiaf 29 mlynedd, tra bod Craig Mulligan, a gafodd ei fagu gan Cole ers yn fabi, er nad oedd yn fab biolegol iddo, wedi cael o leiaf 15 mlynedd dan glo

Ymunodd cynrychiolwyr cyfreithiol Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr â'r gwrandawiad hefyd trwy gysylltiad fideo.

Daeth adolygiad ym mis Tachwedd 2022 i'r casgliad bod meddygon ysbyty heb rannu rhestr o anafiadau "sylweddol" i Logan 11 mis cyn ei farwolaeth gyda gwasanaethau diogelu plant.

Yn 2023 datgelodd adolygiad o wasanaethau cymdeithasol y cyngor sir bryderon dros wasanethau plant yr awdurdod, wedi i arolygon dilynol awgrymu bod angen gwelliannau pellach.

Yn dilyn gwrandawiad ddydd Mercher, dywedodd Tony Thompson wrth BBC Cymru bod Williamson wedi cysylltu yn sgil cyhoeddusrwydd o sicrhau adolygiad gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn achos Clive Freeman, dyn yn ei 80au sydd dan glo ers 1989 am lofruddio dyn arall ac yn mynnu ei fod yn ddieuog.

"Mae Angharad yn falch bod rhywun yn cymryd diddordeb ynddi," meddai. "Does dim arian 'da hi ar gyfer cyfreithwyr. Does dim cymorth cyfreithiol 'da hi, a dyna pan ddywedes i 'mi edrycha'i iddo'.

"Plediodd Angharad yn ddieuog yn y llys, ac fe ddywedodd barnwr yr achos wrth ddedfrydu na welodd dystiolaeth ei bod wedi ymosod ar Logan ond ei bod yn anorfod ei bod yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen ac yn rhan o'r cynllun i gael gwared ar gorff Logan druan.

"Rwy'n edrych i'r holl amgylchiadau ond mae'n rhy gynnar i benderfynu a oes sail digonol i mi barhau."

Ychwangodd: "Mae hawl gan bobl sy'n teimlo eu bod wedi eu collfarnu ar gam i gael rhywun sy'n fodlon edrych i'w hachos ond rwy'n deall sensitifrwydd yr achos yma, ac ac roeddwn yn gwybod hynny wrth gytuno i edrych iddo."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.