Barnwr yn gwrthod her gyfreithiol i gau llyfrgelloedd Caerffili

LlyfrauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddwyd y cynlluniau i gau'r llyfrgelloedd ym mis Mai 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae deg o lyfrgelloedd cyngor Caerffili ar fin cau ar ôl i farnwr yn yr Uchel Lys wrthod her gyfreithiol gan ymgyrchwyr.

Mae'r cyngor, dan reolaeth y blaid Lafur, yn bwriadu canolbwyntio gwasanaethau llyfrgell mewn trefi mwy o faint, gan ddadlau y bydd llai o safleoedd yn gallu cynnig ystod ehangach o wasanaethau ym mhob un.

Byddai saith cangen sy'n weddill yn dod yn ganolfannau cymunedol aml-wasanaeth, lle gallai trigolion barhau i fenthyca llyfrau ochr yn ochr â chael mynediad at wasanaethau eraill y cyngor.

Gwrthododd y barnwr ymgais yr ymgyrchwyr i atal y newidiadau, er y gallent apelio yn erbyn y dyfarniad o hyd.

Bydd llyfrgelloedd yn Aberbargoed, Abercarn, Abertridwr, Bedwas, Deri, Llanbradach, Machen, Nelson, Oakdale a Pengam yn cau o dan y cynlluniau.

Cefnogodd cynghorwyr Caerffili yr ad-drefnu y llynedd, ar ôl i'r cyngor ddweud ei fod yn wynebu bwlch cyllidebol o £29m dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu'r toriadau mai cymunedau llai fyddai'n cael eu taro galetaf, gan rybuddio y byddai'n eu hanfon "yn ôl i gyfnod Fictoria".

Ni all y cyngor weithredu'r cynllun yn ystod ffenestr apeliadau, ond dywedodd y byddai'n siarad â grwpiau lleol sydd â diddordeb mewn cymryd drosodd rhai o'r adeiladau i'w defnyddio gan y gymuned.

'Siomedig iawn'

Dywedodd Lindsay Whittle, sy'n cynrychioli'r ardal yn y Senedd dros Blaid Cymru, "rwy'n siomedig iawn gyda'r dyfarniad ac yn annog arweinyddiaeth cyngor Caerffili, dan reolaeth y Blaid Lafur, i adolygu eu penderfyniad blaenorol ar lyfrgelloedd.

"Does gen i ddim problem ynglŷn â chymunedau, os ydyn nhw'n dymuno, yn cymryd drosodd eu llyfrgell leol. Pob lwc iddyn nhw.

"Ond mae llyfrgellydd yn rôl fedrus - nid yw'n ymwneud â stampio llyfrau yn unig, eu dosbarthu a'u casglu'n ôl.

"Mae rhedeg llyfrgell yn swydd fawr a chyfrifol."

Dywedodd cyngor Caerffili, mewn datganiad, ei fod wedi "amddiffyn adolygiad barnwrol yn llwyddiannus i'w strategaeth gwasanaeth llyfrgell newydd".

"Dyfarnodd barnwr Uchel Lys o blaid y cyngor a gwrthod caniatâd i'r adolygiad barnwrol fynd ymlaen," meddai'r awdurdod lleol.

"Mae gan yr hawlydd gyfnod o amser bellach i apelio yn erbyn y penderfyniad, felly bydd y cyngor yn aros am unrhyw ganlyniad cyn ystyried y camau nesaf."

Dywedodd y cyngor y byddai'n "parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned dros yr wythnosau nesaf".

Pynciau cysylltiedig