Stopio yfed: 'Isio bod yr hogan hapus o'n i'

"Dwi bellach wedi bod heb alcohol am ddegawd ac yn ddiolchgar am hynny," medd Gwenllian Jones Palmer
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sydd wedi cael cymorth gan elusen iechyd meddwl a dibyniaeth Adferiad wedi dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl Wynford Ellis Owen, cwnselydd ym maes dibyniaeth, mae'r ffigyrau'n "gwbl frawychus, ond ddim yn syndod".
Yn y cyfamser mae dynes a roddodd y gorau i yfed 10 mlynedd yn ôl yn dweud mai dyna ei phenderfyniad gorau erioed, a'i bod hi'n hynod o falch o deimlo eto yr "hapusrwydd 'na pan o'n i'n hogan fach".
Mae Gwenllian Jones Palmer yn wreiddiol o Ynys Môn, ond bellach yn byw yn Sydney, Awstralia.
Wrth siarad ar rifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg, dywedodd bod y diwylliant yfed o'i chwmpas yn ei dyddiau cynnar yn y wlad yn drwm.
'Haws codi potel na chodi'r ffôn am help' gydag alcohol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2025
'Codi isafswm pris alcohol i achosi mwy o ddioddefaint i bobl sy'n gaeth'
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2025
"Roedd pobl yn dueddol o gynnig gwin neu gwrw a dim te pan o'n i'n galw - ac o'n i'n yfed dipyn," meddai Gwenllian.
"O'n i'n yfed yn y nos achos o'n i jyst yn meddwl 'o wel dwi 'di cael diwrnod caled - dwi'n haeddu fo a pam lai - ma' pawb arall yn g'neud a dyna fo'.
"Ac yn aml ar ôl dod adre' o rywle ro'n i'n agor potel arall - ro'dd y blas yna.
"Roedd bob wsos yn llawn yfed a phartïon, a dwi'n cofio sylwi ar y calendr cyn 'Dolig a gwaredu bod gen i barti bob nos a meddwl 'fedrwn i ddim 'neud hyn dim mwy'
"'Nes i feddwl am y cyfnod cyn i fi ddechrau yfed alcohol - ro'n i isio bod yr hogan hapus o'n i."
'Un dydd ar y tro'
Wedi iddi sylweddoli beth oedd yn digwydd iddi, fe wnaeth Gwenllian ymuno â grŵp Alcoholics Anonymous.
"Ro'n i wedi bod yn yfed yn gyson i bob pwrpas ers chwarter canrif, ac o'n i'n gwybod petawn i'n yfed am 25 mlynedd arall y buaswn yn cael chwip din gan yr alcohol a Duw a ŵyr be' fuasai diwedd y daith," meddai.
"Doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i'n alcoholig - doeddwn i ddim mewn cwter ac yn yfed o fag papur brown, ond ro'n i'n yfed lot yn gyson.
"Dwi'n cofio mynd allan ar noson braf o dan y sêr a meddwl 'dwi angen help'.
"Roeddwn i wedi cael llond bol a 'nes i sylweddoli bo fi'n gwenwyno y ferch fach oddi mewn i fi.
"Un dydd ar y tro yw hi wedi bod, ac yn aml dwi'n canu cân enwog Trebor Edwards - mae hi wedi bod yn anodd ar adegau ond dwi bellach wedi bod heb alcohol am ddegawd ac yn ddiolchgar am hynny."

Mae Adferiad wedi cefnogi mwy o bobl yn ddiweddar - ffigyrau brawychus, ond ddim yn syndod, medd Wynford Ellis Owen
Mae elusen Adferiad yn "darparu gwasanaethau i bobl sydd wedi'u heffeithio gan afiechyd meddwl, defnydd cyffuriau neu alcohol, niwed gamblo, ac amgylchiadau heriol eraill".
Yn 2024-2025 fe gynyddodd y nifer sy'n cael triniaeth o tua 17,000 i dros 35,000.
"Mae'r nifer yn frawychus ond mae'r marwolaethau hefyd wedi cynyddu yn sylweddol ers 2023," meddai Wynford Ellis Owen, ymgynghorydd cwnsela arbenigol gyda Stafell Fyw yng Nghaerdydd, a chyn-weithiwr i Adferiad.
"Dyw'r ffigyrau diweddara' 'ma ddim yn fy synnu.
"Dwi i fy hun, fel un sy'n adfer wedi cyfnod o alcoholiaeth, yn gweld cymdeithas yn mynd yn fwy a mwy dibynnol ar alcohol, er enghraifft.
"Mi fysan ni'n disgrifio fo fel alcoholic thinking.
"Mae 'Dolig yn 'neud petha'n waeth rywsut, lle ma' yfed alcohol yn cael ei ystyried yn normal.
"Mae'r normaleiddio wedi digwydd i'r fath radda' fel ei bod o'n abnormal i rywun fel fi beidio yfed.
"Os dwi'n d'eud 'dwi 'di rhoi'r gorau i smocio' neu 'dwi 'di colli pwysa' mae pobl yn deud 'grêt, grêt'.
"Ond os dwi'n deud 'dwi 'di stopio yfed' mae pobl yn gofyn 'be sy'n bod arnat ti?'"
'Wastio pres ar gyffuriau bob dydd trwy'r dydd' cyn cael help
- Cyhoeddwyd21 Mai 2025
'Gobaith i unrhyw un' sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2024
Mae Mr Ellis Owen yn pwysleisio bod cymorth cyfrinachol ar gael gan Adferiad, Stafell Fyw ac elusennau eraill.
"Mae'r canolfannau 'ma yn rhywle lle gall pobl fod yn agored a rhannu poen am y tro cynta'.
"Ma' bywyd, a dwi'n enghraifft ohono fo, yn gallu gwella.
"Dwi bellach yn medru byw bywyd rhydd heb unrhyw ddibyniaeth ac ma' hynna'n wyrth ynddo ei hun.
"Ond mae o'n bosib ac felly ma'n bwysig i bobl fel fi ddangos bod adferiad yn attractive - bod o'n gyraeddadwy, bod o ar gael i bawb sy' isio fo, ond ma' rhaid i chi fod isio fo."
Mae cyfweliadau Gwenllian Jones Palmer a Wynford Ellis Owen i'w clywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line, gan Adferiad, dolen allanol neu'r 'Stafell Fyw, dolen allanol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.