Rhai trenau rhwng Caerdydd a Chasnewydd ddim yn rhedeg yn sgil tân

Roedd tân wrth ymyl y traciau rhwng Casnewydd a Chaerdydd (uchod) ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Dydi rhai trenau yn dal ddim yn rhedeg ddydd Sul, yn dilyn tân wrth ymyl y traciau rhwng Casnewydd a Chaerdydd ddydd Sadwrn.
Dywedodd National Rail fod y tân wedi effeithio ar signal ac ar y cyflenwad trydan uwchben.
Y rheswm nad ydy rhai trenau yn rhedeg, yn ôl y sefydliad, ydy am "resymau diogelwch", gan olygu bod gwasanaeth "wedi'i leihau'n sylweddol" yn gweithredu rhwng y gorsafoedd.
"Mae disgwyl aflonyddwch sylweddol tan ddiwedd y dydd (dydd Sul) o leiaf.
"Os ydych chi'n teithio ar CrossCountry, Great Western Railway neu Trafnidiaeth Cymru rhwng y gorsafoedd yma, fe allai eich trên gael ei ganslo."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.