Cynllun URC i dorri rhanbarth yn 'anghywir' - Gweilch

Yn ôl yr ystadegau, y Gweilch yw'r tîm Cymreig mwyaf llwyddiannus ers sefydlu rygbi rhanbarthol yn 2003
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd y Gweilch wedi dweud wrth Undeb Rygbi Cymru (URC) bod eu cynlluniau i dorri rhanbarth proffesiynol yn benderfyniad anghywir.
Mae URC wedi amlinellu eu cynlluniau i gwtogi nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri erbyn 2028, gyda thîm Caerdydd - sy'n eiddo i'r undeb - a thîm y Dreigiau, sy'n cael cefnogaeth breifat, i dderbyn trwyddedau.
Mae'r cyhoeddiad wedi peryglu dyfodol y Scarlets a'r Gweilch, gan y byddai'r drwydded ar gyfer y gorllewin yn cael ei rhoi i'r naill neu'r llall.
Mae penaethiaid URC wedi dweud y bydd y broses o benderfynu ar y fframwaith ar gyfer y penderfyniad terfynol yn dechrau fis Rhagfyr ac yn gorffen cyn diwedd tymor 2026-27.
Mae rheolwr gyfarwyddwr y Scarlets, Jon Daniels, wedi mynnu nad oes unrhyw gynlluniau i gyfuno gyda'r Gweilch, gan alw am fwy o dryloywder gan yr undeb.
Dewis rhwng Scarlets a'r Gweilch yn 'gywilyddus' ac am 'strywo ein hardal'
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
Y Gweilch yn arwyddo cytundeb newydd gydag URC hyd at 2028
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Trafodaethau URC a pherchnogion y Gweilch i brynu Caerdydd wedi dymchwel
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
Mae'r Gweilch bellach wedi ymateb yn gyhoeddus am y tro cyntaf, gan ddweud eu bod yn credu mai pedwar tîm proffesiynol ydy'r ffordd orau ymlaen.
Dywedodd llefarydd ar ran bwrdd y clwb fod "angen diwygio a newid rygbi Cymru".
"Nid yw'r Gweilch erioed wedi anghytuno â hynny. Yr hyn rydyn ni'n anghytuno ag ef yw'r cyfeiriad.
"Byddai'r cynnig gan URC i symud i dri thîm proffesiynol i ddynion yn golygu mai dim ond un tîm fyddai'n cynrychioli gorllewin Cymru - un o'r rhanbarthau rygbi mwyaf brwdfrydig o fewn y gamp.
"Nid yw'r Gweilch yn derbyn bod y canlyniad hwnnw'n un anochel, nac yn un cywir."
'Cystadlu'n uniongyrchol am y drwydded'
Ychwanegodd y llefarydd bod "pedwar clwb proffesiynol cynaliadwy – sydd wedi'u seilio ar y cymunedau, y llwybrau a'r hanes y maen nhw'n eu cynrychioli – yn parhau i fod yn sylfaen gadarnach i'r gêm yng Nghymru".
Ychwanegodd y bydd y Gweilch yn "parhau i ddadlau o blaid hynny".
"Ar hyn o bryd, mae'r Gweilch a'r Scarlets yn cystadlu'n uniongyrchol am y drwydded ranbarthol ar gyfer gorllewin Cymru.
"Mae ein hymateb i'r gystadleuaeth honno'n syml: buddsoddi, adeiladu, cystadlu, ennill.
"Bydd [stadiwm] Sain Helen, ein carfan, ein twf masnachol ac - yn y pendraw - ein canlyniadau, yn cyflwyno ein hachos drosom ni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.