'Cwrdd am y tro cyntaf ar ôl canfod ein bod yn rhannu'r un tad'

tair chwaerFfynhonnell y llun, Sperm Sisters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natasha, Gemma a Helen wedi dysgu eu bod nhw'n chwiorydd

  • Cyhoeddwyd

Roedd Natasha, Gemma a Helen yn credu eu bod yn gwybod pwy oedd eu tad yn ystod eu magwraeth.

Ond ddegawdau yn hwyrach, ar ôl profion DNA, daeth y merched i wybod eu bod wedi'u cenhedlu wedi triniaeth rhoi sberm.

Roedd y tair wedi'u cenhedlu cyn i reolau newydd gael eu cyflwyno yn 1991 ac yn rhan o gyfnod sy'n cael ei alw'n y "gorllewin gwyllt" pan roedd rhoi sberm yn fwy cyffredin.

Mae'r tair yn disgrifio eu hunain fel "chwiorydd sberm" a bellach yn dod i adnabod eu perthnasau newydd.

Maent yn falch bod ganddyn nhw gysylltiad â Chymru.

Helen a GemmaFfynhonnell y llun, Gemma Hicks
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Helen a Gemma yn eu 20au pan naethon nhw ddod i wybod am sut y cafon nhw eu cenhedlu

Cafodd Gemma a Helen Hicks eu magu gyda'i gilydd yn Berkshire - roedden nhw'n credu taw'r dyn a wnaeth eu magu oedd eu tad biolegol.

Yn eu hugeiniau hwyr daeth y ddwy i wybod eu bod wedi'u creu drwy ddefnyddio rhoddwr sberm, ond yn sgil prinder gwybodaeth doedden nhw ddim yn gwybod ai yr un oedd y rhoddwr ar gyfer y ddwy.

"Bryd hynny roedd rhieni yn cael eu hannog i fagu'r plentyn fel eu plentyn eu hunain, roeddent wedi'u cyflyru i beidio â dweud," meddai Gemma, 36, sy'n byw yn Surrey.

Yn Awst 1991 daeth rheoleiddiwr ffrwythlondeb y Deyrnas Unedig, HFEA, i fodolaeth a chafodd canllawiau eu cyflwyno.

'Tawelwch llethol'

Cadarnhaodd prawf DNA fod gan y ddwy yr un tad biolegol ond cafodd y ddwy wybod hefyd bod ganddyn nhw chwiorydd eraill.

"Roeddwn i'n teimlo'n wahanol yn gorfforol, roeddwn i'n teimlo nad oeddwn i'n gwybod pwy oeddwn i a dechreuais gwestiynu pob peth bach yr oeddwn i wedi'i wneud, gan feddwl tybed oedd hynny wedi digwydd oherwydd fy ngeneteg," meddai Gemma.

I Helen, 35 oed, sy'n byw yn Hampshire, ar ôl y sioc gychwynnol, rhoddodd y newyddion deimlad o eglurder iddi.

"Fe wnaeth rhyw dawelwch llethol lifo drostai. Dwi'n edrych yn ôl ar rai adegau yn fy mywyd ac yn sydyn roedd pethau'n gwneud llawer o synnwyr i mi," meddai.

NatashaFfynhonnell y llun, Natasha Goldstein-Opasiak
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei 20au, daeth Natasha i wybod ei bod wedi ei chenhedlu gan roddwr sberm

Ers hynny maen nhw wedi cysylltu â dwy chwaer arall o'r un rhoddwr - un ohonyn nhw yw Natasha Goldstein-Opasiak 36, sy'n byw yn Essex.

Yn 21 daeth Natasha i wybod ei bod wedi'i chenhedlu drwy driniaeth rhoi sberm, ond ni chymerodd brawf DNA nes ei bod hi'n 31 oed.

"Fe wnes i hynny oherwydd fy mod i am ddarganfod mwy am fy hanner arall, ni feddyliais erioed y byddwn i'n dod o hyd i frodyr a chwiorydd," meddai.

"Rydych chi'n cael hysbysiad e-bost yn dweud bod gennych chi berthnasau, yn y bôn.

"Mae'n llythrennol fel Tinder, mae'n dweud eich bod chi wedi paru - dyma'ch hanner chwiorydd."

Cysylltodd Helen a Gemma â Natasha ac o fewn mis roedden nhw wedi cytuno i gyfarfod.

'Rhyfedd, ond hudolus'

"Rydyn ni bob amser yn dweud ein bod ni wedi ein tynnu at ein gilydd fel magnetau," meddai Gemma.

"Rwy'n credu o fewn munud o eistedd i lawr wrth y bwrdd gyda Nat, sylweddolon ni ein bod ni'n siarad yr un ffordd, bod gennym ni'r un safbwyntiau ar bethau, mae'n eithaf rhyfedd, ond yn hudolus."

Fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod eu bod nhw bron wedi cwrdd o'r blaen.

Roedd Gemma a Natasha yn yr un neuaddau preswyl ar yr un pryd ym Mhrifysgol Leeds 15 mlynedd ynghynt.

"Mae mor drist na chawsom weld ein gilydd wrth dyfu i fyny, gallem fod wedi treulio amser gyda'n gilydd a rhannu partïon pen-blwydd - mae mor drist meddwl bod cymaint wedi'i golli," meddai Gemma.

Mae gan y tair nodweddion tebyg. Mae Gemma yn ymddiddori mewn celf, mae Helen yn gerddorol ac mae Natasha yn dawnsio. Maen nhw i gyd wedi bod yn athrawon neu'n ddarlithwyr ar un adeg.

Gemma a HelenFfynhonnell y llun, Gemma Hicks
Disgrifiad o’r llun,

Mi oedd gemau rygbi Cymru yn rhan mawr o blentyndod Gemma a Helen

Mae'r tair chwaer yn dweud bod eich cefndir yn effeithio ar eich hunaniaeth.

Mae'r tad a fagodd Gemma a Helen yn Gymro a thyfodd y ddwy i fyny yn ymweld â'r wlad ac yn cefnogi tîm rygbi Cymru.

"Rwy'n credu bod bod yn Gymry yn rhan mor bwysig o'n magwraeth, fe wnaethon ni dyfu i fyny gyda balchder," meddai Gemma.

Trwy gyd-ddigwyddiad, dangosodd y prawf DNA fod eu tad biolegol yn rhannol Gymreig.

"Yn ffodus i ni nid oes llawer wedi newid. Dydw i ddim yn gwybod sut fyddai wedi teimlo darganfod ein bod ni'n Ffrengig neu rywbeth, byddwn i'n drist iawn yn teimlo nad oedd Cymru yn rhan o'n cyfansoddiad," ychwanegodd Gemma.

'Rhoi ymdeimlad o heddwch'

Roedd gan Natasha gysylltiad â Chymru hefyd yn ystod ei phlentyndod.

"Treuliais lawer o amser yng ngogledd Cymru yn ystod fy mhlentyndod mewn mannau yng Ngwynedd, felly'n rhyfedd iawn, dwi eisoes yn teimlo'n gysylltiedig iawn â Chymru.

"Roedd darganfod bod Mr Rhoddwr o'r fan honno yn gwneud i mi deimlo'n hapus iawn mewn gwirionedd."

Ychwanegodd Helen: "Unwaith y byddwch chi'n darganfod pwy ydych chi - ac rydym ni mor ffodus ein bod ni wedi gallu gwneud hynny - mae'n rhoi cymaint o ymdeimlad o heddwch i chi."

Mae'r chwiorydd wedi gallu darganfod pwy yw eu tad biolegol ac wedi cysylltu ag ef - neges a gafodd ei chroesawu â "charedigrwydd a phositifrwydd".

Y tair chwaerFfynhonnell y llun, Sperm Sisters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tair wedi cychwyn podlediad ym mis Mawrth eleni

Mae'r tair yn disgrifio eu hun fel "chwiorydd sberm" ac wedi dechrau podlediad o'r un enw.

"Rwy'n credu bod y tair ohonom yn teimlo'n eithaf unig ac roedden ni'n teimlo, trwy allu siarad amdano, y bydden ni'n gallu dod o hyd i atebion a dod i adnabod ein gilydd," meddai Natasha.

"Rydym wedi meithrin ein perthynas fel chwiorydd drwy greu'r podlediad hwn.

"Mae gennym ni gymaint i ddal i fyny - 30 mlynedd," ychwanegodd Gemma, gan ddweud bod y podlediad wedi gwneud iddi deimlo hyd yn oed yn agosach at Helen.

Mae'r tair hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ynghylch cenhedlu gan roddwr, rhywbeth a ddisgrifiodd Natasha fel "pwnc tawel".

Dywedodd nad yw pobl yn deall yn iawn pan mae'n dweud ei bod wedi'i chenhedlu gan driniaeth rhoi sberm.

'Ysbrydoli rhieni i feddwl ddwywaith'

Er bod rheoleiddio gwell bellach, mae'r tair yn dweud nad oes llawer o gefnogaeth i rai sydd wedi'u cenhedlu gan driniaeth rhoi sberm.

Nid yw'r chwiorydd yn gwybod faint o frodyr neu chwiorydd eraill sydd ganddyn nhw - nid oedd y terfyn presennol o 10 teulu fesul rhoddwr yn bodoli pan gafon nhw eu cenhedlu.

"Mae'r HFEA wedi gwneud cymaint o waith i sicrhau bod pobl wedi'u rheoleiddio yn dod i adnabod pwy yw eu rhoddwyr," meddai Gemma.

"Mae'r cyfreithiau wedi gwella cymaint, ond yn anffodus mae'n teimlo fel bod yr holl waith caled hwnnw'n cael ei ddad-wneud gyda chynnydd cynigion sberm ar Facebook...

"Fe'n ganwyd mewn oes lle nad oedd unrhyw reolau, nid yw mor wahanol nawr.

"Gobeithio y gallwn ysbrydoli rhai rhieni i feddwl ddwywaith am gadw'r cyfan yn gyfrinachol."

Pynciau cysylltiedig