Mair Wynn Hughes: Dathlu cyfraniad oes i lenyddiaeth Gymraeg

Mair Wynn Hughes yn derbyn doethuriaeth ym Mhrifysgol BangorFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mair Wynn Hughes yn derbyn doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor

GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Mair Wynn Hughes o Lanrug, sydd wedi cyhoeddi dros 100 o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc, wedi ei hanrhydeddu ym mis Gorffennaf 2026 drwy dderbyn Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llên gan Brifysgol Bangor.

Meddai am yr anrhydedd sy'n dathlu ei chyfraniad oes i ddiwylliant Cymru: "Mae o'n anrhydedd ac yn uchafbwynt i' ngyrfa i.

"Mae wedi bod yn yrfa hir iawn achos y llyfr cyntaf wnes i gyhoeddi oedd yn 1967. Mae dros 60 mlynedd o ysgrifennu a dwi dal i wneud.

"Mi wnes i fwynhau'r diwrnod a dwi'n teimlo bod o'n uchafbwynt perffaith i flynyddoedd o ysgrifennu."

Gyda'r llyfr nesaf ar y gweill, bu Mair, sy'n 94 oed, yn sôn am y ffaith ei bod hi heb glywed dim am y ddoethuriaeth nes 1 Ebrill eleni. A hithau'n Ddiwrnod Ffŵl Ebrill, bu rhaid i Mair a'i merch astudio'r e-bost yn ofalus i sicrhau ei ddilysrwydd.

Erbyn hyn mae'r ddoethuriaeth wedi ei chyflwyno iddi ac roedd hi'n arbennig iawn iddi i'w dderbyn gan Brifysgol Bangor gan fod Mair wedi graddio o'r hen Goleg Normal yno.

Mair Wynn Hughes Ffynhonnell y llun, Mair Wynn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mair Wynn Hughes

Gyrfa

Yn ôl Mair, hap a damwain oedd iddi ddechrau ysgrifennu llyfrau o gwbl, meddai: "O'n i'n athrawes ar ddosbarth o blant pump i saith ym Mhentraeth, ac ar ddiwedd bob p'nawn, fyddai 'na stori.

"Mae hyn yn y '50au, ac ychydig iawn o lyfrau Cymraeg ar gyfer plant yr oed yna oedd yna. O'n i wedi meddwl am y cymeriad Sioni Sbonc, ond do'n i ddim wedi ysgrifennu nhw i lawr; o'n i'n deud y stori a do'n i'm yn gwybod lle odd o'n mynd.

"O'dd y plant yn hoff iawn o Sioni Sbonc, ac oedden nhw'n gofyn weithiau 'newch chi ddeud y stori 'na am Sioni Sbonc yn mynd i'r dre?'. Wel, do'n i'm yn ei chofio hi'n iawn, nago'n!

"O'n i'n cychwyn ac ella'n deud fod gan Sioni drowsus melyn, a hogyn bach yn codi ei law a deud 'Plîs Miss, trowsus glas oedd ganddo fo tro dwytha!'.

"Ar gownt hynny, fuo rhaid i mi ysgrifennu'r storïau i lawr er mwyn eu cofio nhw. A dyna ddechrau ar y sgwennu."

Mae hi bellach wedi ennill gwobr Tir na n-Og bedair gwaith ac mae ei llyfrau, fel O'r Tywyllwch, Llinyn Arian a Ragi Racsan yn ffefrynnau ar silffoedd plant ledled Cymru.

Rhai o lyfrau Mair Wynn Hughes Ffynhonnell y llun, Mair Wynn Hughes

'Dilyn fy nhrwyn...'

Yn 2024 cyhoeddoedd nofel i oedolion am y tro cyntaf, sef Y Bocs Erstalwm.

A hithau yn ei 90au, mae cadw'r meddwl yn chwim mor bwysig ag erioed, a darllen, ynghyd â'r ysgrifennu, yn rhan enfawr o hynny, eglura:

"Mae 'myd i wedi bod erioed 'darllen a darllen a darllen'. O'dd pawb yn fy mhlentyndod i yn darllen gyda'r nos; fy nhad yn darllen llyfrau cowbois, a finnau yn ei sgil o!

"Byd darllen ydi o wedi bod i mi wrth fynd yn hŷn hefyd, yn fwy na byd y teledu. Os 'da chi'n darllen lot, 'da chi'n pigo syniadau i fyny wrth ddarllen yma ac acw, ac felly mae 'na ambell i beth yn aros yn eich meddwl chi."

Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl hon yn 2024.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.