Cyngor Gwynedd yn gwahardd aelod o staff wrth i'r heddlu ymchwilio i grŵmio

Cyngor Gwynedd
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod aelod o staff o ysgol yn y sir wedi cael ei wahardd.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd Heddlu'r Gogledd bod dyn o Borthmadog wedi ei arestio ar amheuaeth o gwrdd â phlentyn ar ôl meithrin perthynas rywiol ond pwysleisiodd y cyngor na allan nhw gadarnhau na gwadu'r wybodaeth honno.

Mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau Heddlu'r Gogledd yn parhau.

Dywedodd yr heddlu nad oes modd iddyn nhw wneud sylw pellach am fod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Ychwanegodd Cyngor Gwynedd mewn datganiad: "Ni fyddai'n briodol i'r Cyngor na'r ysgol dan sylw wneud sylwadau pellach nes bod yr holl ymchwiliadau perthnasol wedi'u cwblhau.

"Gallwn gadarnhau bod yr holl weithdrefnau amddiffyn plant perthnasol yn cael eu dilyn."

Mae'r BBC ar ddeall bod rhieni y disgyblion yn yr ysgol o dan sylw wedi cael gwybod bod aelod o staff wedi cael ei arestio.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.