Galw ar Gyngor Gwynedd i ymddiheuro dros 'smonach' mesurau Erthygl 4

Mae'r Cynghorydd Gruffydd Williams yn gefnogol o fesurau Erthygl 4 ac wedi ei siomi bod "papurau diffygiol" y cyngor wedi rhwystro'r broses
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau ar Gyngor Gwynedd i "ymddiheuro i drethdalwyr" wedi i uchel lys drechu mesurau oedd â'r bwriad o leihau nifer y tai haf ac unedau gwyliau yn y sir.
Mae adroddiad fydd yn cael ei drafod ddydd Iau, wedi datgelu bod ymgais Cyngor Gwynedd i gyflwyno ac amddiffyn mesurau Erthygl 4 wedi costio £465,000 i drethdalwyr.
Dywedodd Cyngor Gwynedd bod sicrhau cartrefi addas i bobl leol yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac y cyflwynwyd Erthygl 4 mewn ewyllys da.
Ychwanegon nhw bydd y profiad yn "helpu i lywio'r camau nesaf".
Gwynedd: Rheolau llymach ar ail gartrefi a llety gwyliau'n dod i rym
- Cyhoeddwyd1 Medi 2024
Pentrefwyr yn 'falch' o'u gwaith i ddiddymu polisi ail gartrefi Gwynedd
- Cyhoeddwyd24 Mawrth
Ym mis Medi 2024 Gwynedd oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyflwyno'r mesurau, sy'n gofyn am ganiatâd cynllunio er mwyn cael troi eiddo preswyl yn ail gartref neu'n uned wyliau.
Y gobaith gan rai oedd y byddai'r mesurau'n helpu pobl leol oedd yn cael eu prisio allan o'r farchnad, ond roedd eraill yn anghytuno gan ddadlau y byddai'n dibrisio tai a'u gwneud yn anoddach i'w gwerthu.
Ond yn sgil her gyfreithiol, daeth barnwr uchel lys i'r casgliad bod y cabinet wedi ei "gamarwain" gan wybodaeth ddiffygiol ac anghyflawn oedd wedi ei baratoi yn fewnol.
Ychwanegodd y barnwr, Mr Ustus Eyre, nad oedd Erthygl 4 yn "fesur cyffredinol ar gyfer pob cartref gwyliau newydd, dim ond ar gyfer y rhai lle mae newid defnydd yn 'berthnasol', neu'n arwyddocaol".
Roedd marciau cwestiwn felly, os oedd y cabinet yn wybodol o hyn pan gafodd y penderfyniad ei wneud.
'Da ni ddim isho'r 'run smonach eto'
Gydag adroddiad newydd yn dangos bod yr holl broses gan gynnwys costau cyfreithiol wedi costio £465,000 mae un cynghorydd - sy'n parhau i gefnogi'r mesurau - yn credu bod faint sydd wedi ei wario yn golygu bod yn "rhaid i'r cyngor ymddiheuro'n daer i drethdalwyr y sir".
Mae'r Cynghorydd Gruffydd Williams, sy'n cynrychioli ward Nefyn, hefyd eisiau gwybod os oes camau disgyblu wedi'u cymryd gan fod "papurau diffygiol" wedi eu cyflwyno i'r cabinet.
Mae hyn yn "siomedig" meddai, gan gyfeirio at waith ymgyrchwyr a chyrff, megis Cyngor Tref Nefyn, sydd wedi bod yn galw am rymoedd o'r fath yn y lle cyntaf.
"Holl bwrpas rhoi Erthygl 4 yn ei le oedd i reoli y niferoedd o dai haf ac unedau gwyliau, fel bod pobl leol yn cael rhyw fath o siawns i brynu tai yn yr ardal yma, yn hytrach na phawb yn llifo o'ma i Fangor, Caernarfon a Chaerdydd a thu hwnt," meddai'r Cynghorydd Williams.
"Mae'n hynod bwysig bod y cyngor yn ystyried ail gyflwyno [Erthygl 4]," meddai.
"Ond mae'n rhaid edrych arno yn realistig, a chyflwyno'r papurau cywir oherwydd 'da ni ddim isho'r 'run smonach eto."

Yn ôl data Llywodraeth Cymru yn 2023-2024, Gwynedd oedd â'r gyfran uchaf o ail gartrefi yng Nghymru, sef 8.3%.
Mae Gwynedd eisoes yn un o sawl cyngor sy'n codi premiwm treth gyngor ar ail gartrefi, gyda'r ffigwr yn 150% ers 2023.
Mae'r rhannau o Wynedd a Sir Conwy sy'n eistedd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri yn dod o dan awdurdod cynllunio'r parc.
Mae Erthygl 4 yn parhau i fod mewn grym oddi fewn ffiniau'r parc gan fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi dilyn proses ei hun ac ddim yn destun yr un her gyfreithiol.
Er bod Cyngor Gwynedd wedi ymgeisio i apelio penderfyniad yr Uchel Lys, fe gafodd ei wrthod, sy'n golygu nad ydy mesurau Erthygl 4 bellach yn eu lle.
Mae'n aneglur ar hyn o bryd a ydy'r awdurdod yn bwriadu ailgychwyn y broses.
'Rheolaeth yn y maes yn parhau'n flaenoriaeth'
Ond mae adroddiad bydd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Cymunedau'r cyngor fore Iau, yn amlinellu bod y broses o geisio gweithredu'r polisi aflwyddiannus wedi costio £465,654.
Roedd y Cyngor wedi rhoi £400,000 i un ochr er mwyn gweithredu Erthygl 4, gan hefyd ddenu £402,330 gan Lywodraeth Cymru.
Mae £311,683 o arian Llywodraeth Cymru a £153,971o goffrau'r cyngor eisoes wedi ei wario, gan gynnwys £325,618 ar gostau staffio, £59,961 ar weinyddu'r broses, ac wedyn £80,074 ar gostau cyfreithiol.
Yn ymateb i'r ffigyrau, mae'n cael ei nodi yn yr adroddiad bod y buddsoddiad yma "wedi cyfrannu at ddatblygu dealltwriaeth y Cyngor o'r camau yn gysylltiedig â gweithredu'r broses" ac "wedi arwain at greu fframwaith ymarferol y gellir ei addasu a'i ailddefnyddio yn y dyfodol".
Ychwanegir "bydd angen rhoi ystyriaeth gofalus i'r opsiynau gweithredu posib ar gyfer y dyfodol" ond tra fod "sicrhau rheolaeth yn y maes hwn yn parhau'n flaenoriaeth i'r cyngor", ei fod yn "gynamserol cadarnhau unrhyw amserlen ar gyfer y camau nesaf ar hyn o bryd".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas ac i reoli'r nifer sylweddol o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn ein cymunedau yn flaenoriaeth i'r cyngor.
"Dyna pam y cyflwynodd y cyngor Gyfarwyddyd Erthygl 4 - fel rhan o becyn o gamau i reoli effaith sylweddol ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr ar y farchnad dai.
Roedd hyn wedi ei seilio ar ymdrech sylweddol dros amser, gan gynnwys ymchwil fanwl ac eang ynghyd ac ymgynghori helaeth.
"Er y siom gyda phenderfyniad y llys rydym hefyd o'r farn fod y cyfiawnhad a'r rhesymau sylfaenol ar gyfer cyflwyno Erthygl 4 yn parhau yn berthnasol.
"Fe weithredodd y cyngor yn gyfrifol a didwyll wrth fynd i'r afael â materion sy'n hynod bwysig i ddyfodol ein cymunedau.
"Fel mae'r adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Cymunedau'r cyngor yn ei nodi, bydd y profiad yma, yn cynnwys y cyfnod 12 mis y bu Erthygl 4 yn weithredol yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, yn allweddol wrth i ni benderfynu ar y camau nesaf."
Bydd canfyddiadau'r adroddiad yn cael eu trafod gan gynghorwyr fore Iau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.