Carcharorion wnaeth ladd llofrudd o Aberystwyth i dreulio oes yn y carchar

Kyle BevanFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kyle Bevan ei ddedfrydu i o leiaf 28 mlynedd dan glo yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Bydd tri charcharor wnaeth ladd llofrudd o Aberystwyth yng ngharchar Wakefield yn treulio gweddill eu hoes o dan glo.

Bu farw Kyle Bevan, 33, ar 5 Tachwedd y llynedd.

Roedd wedi cael ei ddedfrydu i o leiaf 28 mlynedd o dan glo yn 2023 am lofruddio Lola James - merch ddwy oed ei gariad - yn ei chartref yn Hwlffordd.

Bu farw Lola yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020 o anaf "catastroffig" i'w phen, ac roedd ganddi 101 o anafiadau allanol.

Cafodd Bevan ei ganfod yn euog o ymosodiad "ciaidd" arni, ac fe gafodd mam Lola, Sinead James, hefyd ddedfryd o chwe blynedd o garchar am achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.

Cafodd Bevan ei drywanu 25 gwaith yn ystod ymosodiad gan Mark Fellows, 45, Lee Newell, 57, a David Taylor, 64.

Roedd Bevan wedi cael ei roi yn ei wely yn dilyn yr ymosodiad a ni chafodd ei gorff ei ddarganfod tan y bore canlynol.

Roedd Fellows a Newell eisoes wedi cael gorchmynion oes pan laddon nhw Bevan, sy'n golygu na fyddan nhw yn cael eu rhyddhau o'r carchar.

Ddydd Gwener fe wnaeth y barnwr, Mrs Ustus McGowan, osod gorchmynion oes "newydd ac ar wahân" ar y ddau ohonyn nhw am lofruddio Bevan.

Cafodd Taylor orchymyn carchar am oes hefyd, ar ben ei ddedfryd flaenorol am lofruddio.

Yn ystod yr wythnosau cyn marwolaeth Bevan, cafodd y pedoffeil a chanwr y band Lostprophets Ian Watkins ei ladd yng ngharchar Wakefield hefyd, ac fe gafodd David Minto, a lofruddiodd ferch 16 oed, ei anafu'n ddifrifol.

Clywodd y rheithgor ddydd Iau nad yw carcharorion sy'n agored i niwed yn cael eu cadw ar wahân i garcharorion eraill yn y carchar.

Dywedodd y barnwr: "Dydw i erioed wedi gorfod dedfrydu rhywun am dair llofruddiaeth, ac yn achos dau o'r diffynyddion dyna sydd wedi digwydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.