Carcharorion yn euog o ladd llofrudd o Aberystwyth

Cafodd Kyle Bevan ei ddedfrydu i o leiaf 28 mlynedd dan glo yn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae tri charcharor wedi eu cael yn euog o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth llofrudd o Aberystwyth yng ngharchar Wakefield.
Bu farw Kyle Bevan, 33, ar 5 Tachwedd y llynedd.
Roedd wedi cael ei ddedfrydu i o leiaf 28 mlynedd dan glo yn 2023 am lofruddio Lola James - merch ddwy oed ei gariad - yn ei chartref yn Hwlffordd.
Bu farw Lola yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020 o anaf "catastroffig" i'w phen, ac roedd ganddi 101 o anafiadau allanol.
Cafodd Bevan ei ganfod yn euog o ymosodiad "ciaidd" arni, ac fe gafodd mam Lola, Sinead James, hefyd ddedfryd o chwe blynedd o garchar am achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.
Cyhuddo tri o ladd llofrudd o Aberystwyth yn y carchar
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2025
Dyn o Aberystwyth a lofruddiodd ferch 2 oed wedi marw yn y carchar
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025
Carchar am 28 mlynedd am ladd merch ddwy oed
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023
Clywodd Llys y Goron Leeds ddydd Iau bod Bevan wedi cael ei drywanu 25 gwaith yn ystod ymosodiad gan Mark Fellows, 45, Lee Newell, 57, a David Taylor, 64.
Roedd Bevan wedi cael ei roi yn ei wely yn dilyn yr ymosodiad ac nad oedd ei gorff wedi cael ei ddarganfod tan y bore canlynol.
Yn yr wythnosau cyn marwolaeth Bevan, cafodd y pedoffeil a chanwr y band Lostprophets Ian Waktins ei ladd yng ngharchar Wakefield hefyd, ac fe gafodd David Minto, a lofruddiodd merch 16 oed, ei anafu'n ddifrifol.
Clywodd y rheithgor nad yw carcharorion sy'n agored i niwed yn cael eu cadw ar wahân i garcharorion eraill yn y carchar.
Dywedodd yr erlynydd Jason Pitter KC fod Newell wedi tagu carcharor a lofruddiodd blentyn a'i adael yn ei wely mewn digwyddiad arall yn y gorffennol, a bod "tebygrwydd brawychus i amgylchiadau marwolaeth Kyle Bevan".
Bydd Fellows, Newell a Taylor yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.