Atgofion Euro 2016 yn ysbrydoli Jac Thomas a Chymry ifanc

Jac Thomas yn chwarae i dîm dan-19 Cymru
- Cyhoeddwyd
Disgybl ysgol naw mlwydd oed oedd Jac Thomas yn ystod rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc.
Yn ddiweddarach byddai Jac a'i ffrindiau ysgol yn Y Rhondda yn ail-greu uchafbwyntiau Cymru yn y gystadleuaeth gofiadwy honno ar iard yr ysgol.
Ddegawd yn ddiweddarach, yn 19 oed, mae Jac ei hun yn rhan o garfan genedlaethol sydd yn paratoi ar gyfer twrnament.
Mae gogledd Cymru yn llwyfannu Pencampwriaeth dan-19 UEFA dros yr wythnosau nesaf gan ddechrau gyda'r tim cartref yn wynebu Sbaen yn Wrecsam ddydd Sul.
"Mae'n foment sbeshal i gael chwarae i fy ngwlad a moment prowd i fi a fy nheulu," meddai Thomas.
"Mae'r garfan i gyd yn gyffrous iawn hefyd a methu aros nawr tan y gêm."
Yn ogystal â Sbaen – pencampwyr dan-19 naw gwaith o'r blaen - bydd Cymru hefyd yn wynebu'r Almaen a Denmarc.
Mae Thomas yn cydnabod bod Cymru mewn grŵp anodd iawn ond ychwanegodd bod yna frwdfrydedd o fewn y garfan.
"Ni'n gwybod pa mor dda ydyn ni," ychwanegodd.
"Ni'n gwybod y bydd hi'n anodd ond byddwn yn gwneud ein gorau glas.
"Ni eisiau gwneud ein gorau ond mae'n bwysig cofio bod e'n brofiad ardderchog hefyd - ni mo'yn mwynhau y profiad a gwneud y wlad yn prowd."

Chris Gunter - hyfforddwr tîm dan-19 Cymru ac aelod o'r garfan yn cyrraedd rownd gyn-derfynol Euro 2016
Mae Jac, sydd yn chwarae i Gaerdydd ond a dreuliodd y tymor diwethaf ar fenthyg i Merthyr, yn teimlo y bydd chwarae gartref yn fantais i Gymru.
Aelod amlwg o garfan Cymru yn Euro 2016 oedd Chris Gunter - enillodd gyfanswm o 109 o gapiau dros ei wlad.
Cyn-amddiffynnwr Caerdydd, Spurs a Nottingham Forest yw prif hyffoddwr tîm dan-19 Cymru.
"Mae Chris Gunter yn role model i bawb," meddai Thomas, sydd yn chwarae yn safle'r cefnwr chwith.
"Roedd Chris Gunter yn chwarae yn yr un safle â fi hefyd so oes os unrhyw gwestiynau mae o yna i helpu.
"Ei neges yw edrych ymlaen i'r gêm a gwneud ein gorau."
Balchder, dagrau a golchi dillad! - atgofion gohebu ar Euro 2016
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
Yn ogystal â'r Cae Ras yn Wrecsam fe fydd gemau hefyd yn cael eu cynnal yn Ninbych, Bangor a Chaernarfon.
Croatia, Serbia, Yr Eidal ac Wcráin yw'r gwledydd fydd yn cystadlu yng Ngrŵp B.
Bydd y rowndiau cyn-derfynol yn cael eu cynnal ddydd Mercher, 8 Gorffennaf a'r rownd-derfynol ar y Cae Ras ddydd Sadwrn, 11 Gorffennaf.