Sgôr hylendid bwyty seren Michelin Ynyshir yn ôl i 5, o 1

Mae gan Ynyshir ddwy seren Michelin ers 2022
- Cyhoeddwyd
Mae'r unig fwyty yng Nghymru sydd â dwy seren Michelin wedi adfer eu sgôr hylendid bwyd o 5 - yr uchaf posib - ar ôl cael sgôr o 1 ddiwedd y llynedd.
Fe wnaeth arolygwyr ganfod pryfed, offer wedi torri a chyllell fudr yn ystod ymweliad â bwyty Ynyshir ger Machynlleth fis Tachwedd 2025.
O ganlyniad, fe gafodd y bwyty sgôr hylendid o 1 allan o 5, gydag adran diogelwch bwyd Cyngor Ceredigion yn dweud bod angen "gwelliant mawr".
Roedd y cogydd Gareth Ward wedi dweud nad oedd ganddo gywilydd o'r sgôr hylendid isel, gan ddweud bod gan arolygwyr "ddiffyg dealltwriaeth o'n prosesau arbenigol".
Dywedodd Cyngor Ceredigion bod ymweliad arall fis Chwefror eleni wedi dod i'r casgliad bod y "busnes wedi mynd i'r afael â'r holl faterion a gafodd eu codi yn ystod yr arolwg gwreiddiol".

Gareth Ward sydd wedi bod yn rhedeg y bwyty ers 2013
Roedd Gareth Ward wedi dweud yn flaenorol bod ei fwyty yn gweithio "i'r safonau uchaf yn y byd", a'u bod yn "gwneud rhywbeth gwahanol" gyda'r ffordd maen nhw'n trin cynhwysion amrwd.
Ychwanegodd eu bod "wedi wynebu heriau gydag adran iechyd yr amgylchedd Cyngor Ceredigion, yn ymwneud yn bennaf â gwaith papur a diffyg dealltwriaeth o'n prosesau arbenigol".
Ond fe wnaeth cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC ddatgelu bod y sgôr yn seiliedig ar sawl ffactor, gan gynnwys llawr budr, diffyg llefydd priodol i olchi dwylo mewn rhai mannau, offer wedi torri, a phryfed marw yno.
Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod "cefnogi barn broffesiynol a chanfyddiadau ein staff wrth weithredu safonau hylendid bwyd y DU", a bod 90% o safleoedd a gafodd eu harolygu rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025 wedi cael sgôr hylendid bwyd o 3-5 allan o 5.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr

- Cyhoeddwyd11 Chwefror

- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf
