Gŵyl gerddorol newydd Portmeirion yn cynnig rhywbeth 'hollol wahanol'

Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r pentref ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth gan y pensaer Clough Williams-Ellis yn 1925.
- Cyhoeddwyd
Rai blynyddoedd yn ôl roedd Gwynedd yn gartref i lu o wyliau cerddorol, gyda digwyddiadau blynyddol fel Gwyl y Faenol a Wakestock yn denu miloedd i'r ardal i fwynhau artistiaid amlwg.
Un arall wnaeth ddenu llu o wobrau oedd Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion, oedd yn cwmpasu comedi a llenyddiaeth yn ogystal â cherddoriaeth.
Ond er yn denu dros 11,000 o ymwelwyr, fel y gweddill fe daeth yr wŷl i ben yn 2018 yn sgil cyhoeddiad nad oedd bellach yn gynaladwy.
Serch hynny, yr haf yma bydd gŵyl newydd yn cael ei chynnal yng nghysgod y pentref Eidalaidd enwog, gyda'r cyntaf o bedwar penwythnos dynodedig yn digwydd nos Sadwrn.
Ac yn ôl trefnwyr Gŵyl Portmeirion, sy'n disgwyl hyd at 3,000 o bobl i bob un o'r nosweithiau amrywiol, mi allai ddod yn ddigwyddiad blynyddol.
'Nosweithiau hollol wahanol'
Yn ôl Meurig Jones, Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, y bwriad yw nodi canrif ers i Syr Clough Williams Ellis agor y gwesty yn 1926.
"Roedd Clough yn hoff iawn o gerddoriaeth, felly wnaethon ni feddwl cynnal cyngherddau yma, dros ddau ddydd Sadwrn ym mis Gorffennaf a dau ddydd Sadwrn ym mis Awst."

Mae'r Rheolwr Lleoliadau, Meurig Jones, yn gweithio ym Mhortmeirion ers dros 20 mlynedd
Ychwanegodd eu bod nhw'n "nosweithiau hollol wahanol", gyda Squeeze, Gwenno a Melin Melyn ymysg y perfformwyr y nos Sadwrn yma, a Syr Bryn Terfel, Brythoniaid a Pedair ymysg y rhai bydd ar y llwyfan ar gyfer yr ail noson ar Gorffennaf 11.
Bydd Hafwyl ar Awst 22 yn cynnwys Bwncath, Pys Melyn, 9 Bach a Bob Delyn a'r Ebillion, gan gloi gyda Jools Holland a Band Pres Llareggub ar y noson olaf ar Awst 29.

Mae'r gwaith paratoi yn mynd yn ei flaen
"Roedd Gŵyl Rhif 6 yn arbennig o dda a wnaethon ni wir fwynhau y saith mlynedd ddaru ddigwydd yma," ychwanegodd Meurig Jones.
"Ond tro 'ma roedden ni eisiau gwneud rhywbeth oedd yn llai.
"Doedd y pentref heb gael ei gynllunio i gael 15,000 o bobl yma ac oedd o'n gallu bod yn anodd i ni.
"Drwy gynnal yr wŷl yma ger y castell [Deudraeth], 'da ni ddim yn trafferthu busnes y pentref."

Roedd nifer o geir wedi'u dal ar safle maes parcio Gŵyl Rhif 6 yn 2016 yn dilyn glâw ac yna mwd sylweddol ar y cae ym Mhorthmadog
Yn 2016 fe wnaeth llifogydd achosi trafferthion mawr i bobl wrth adael maes parcio Gŵyl Rhif 6 ym Mhorthmadog.
Ond ychwanegodd gan fod niferoedd llai yn mynychu Gŵyl Portmeirion, bod modd i'r holl ymwelwyr barcio yn eu meysydd parcio pwrpasol.
"'Da ni'n gwybod bod ni'n gallu cynnal 3,000 o geir a ddim yn gorfod meddwl am barcio i ffwrdd o'r safle, na bysiau i gael pobl yma.
"Roedd hynny'n bwysig i ni, sef cadw'r niferoedd yn llai."
Gwaddol economaidd
Ond tra na fydd dyddiau unigol yr ŵyl newydd yn debyg i'r 11,000 oedd yn arfer mynychu Gŵyl Rhif 6, mae disgwyl gwaddol economaidd i'r ardal leol.
"Ddaru ni werthu llofftydd y pentre' allan yn sydyn iawn, felly mae'r rhai sydd wedi archebu wedyn yn aros yn lleol, ac mae'r busnesau bwyd yn rai lleol hefyd.
O'r archif: Portmeirion yn dathlu canrif
"Felly gobeithio bydd hwn yn hwb bach i'r economi lleol.
"[Mae pobl yr ardal] wedi bod yn bositif iawn... mae'r gefnogaeth wedi bod yn arbennig o dda.
"Mae gwerthiant y tocynnau'n dda, pobl yn disgwyl i weld sut bydd y tywydd wrth gwrs.
"'Da ni yn barod yn edrych at wneud yr un peth flwyddyn nesa, o bosib ddim pedwar penwythnos gwahanol, ond wnawn ni benderfyniad yn syth ar ol yr wŷl eleni at flwyddyn nesa."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill

- Cyhoeddwyd11 Medi 2018

- Cyhoeddwyd11 Chwefror
