Defnyddio darllenydd sensitifrwydd ym mhroses feirniadu'r Eisteddfod?

Cyfansoddiadau
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i aelodau llys yr Eisteddfod drafod brynhawn Iau argymhelliad y Brifwyl i gynnig gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i feirniaid sy'n dymuno hynny.

Mae'r mater wedi dod fwy i'r amlwg ers atal y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2024.

Mae'r union reswm dros ganslo'r fedal yn parhau yn ddirgelwch, ond ers y digwyddiad mae sawl trafodaeth wedi bod ar sicrhau sensitifrwydd mewn llenyddiaeth, a hawl pob awdur i ysgrifennu y tu hwnt i'w brofiad personol.

Yr argymhellion

Yn dilyn trafodaeth rhwng Dylan Iorwerth, Myrddin ap Dafydd a'r Pwyllgor Diwylliannol - ac Eifion Lloyd Jones gan ei fod wedi cynnig bod y pwyllgor yn trafod y mater - deallir bod y cyngor a bwrdd rheoli'r Brifwyl wedi argymell y dylid:

  • cynnig gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i feirniaid sy'n dymuno hynny;

  • os defnyddir darllenydd sensitifrwydd yn ystod y broses feirniadu, rhaid nodi hynny yn y feirniadaeth;

  • gan fod rheolau cystadlu'r Eisteddfod Genedlaethol eisoes yn nodi bod angen diarddel cystadleuwyr sy'n torri'r gyfraith, cytunwyd y dylid gofyn i gyfreithwyr yr Eisteddfod lunio canllaw i'r beirniaid gan restru pa gategorïau o waith creadigol sy'n anghyfreithlon - e.e. deunydd cam-drin plant yn rhywiol, cynnwys sy'n annog neu'n hyrwyddo terfysgaeth, trais neu gasineb hiliol/grefyddol, gwaith sy'n enllibus, a gwaith sy'n datgelu data personol;

  • byddai'r canllaw hefyd yn nodi sut y dylai beirniaid gyfeirio cynnwys sensitif a/neu ddadleuol at sylw cyfreithwyr yr Eisteddfod.

Yr argymhellion yn deillio o ddau gynnig

Mae'r argymhellion yn seiliedig ar ddau gynnig a gafodd eu cyflwyno ger bron cyfarfod Llys yr Eisteddfod ym mis Awst 2025 - y naill gan y Prifardd Dylan Iorwerth a'r llall gan Myrddin ap Dafydd, ac fe eiliodd y ddau eu cynigion ei gilydd.

Roedd Cynnig 1 yn nodi: Yng nghystadlaethau cartref yr Eisteddfod Genedlaethol, dylai dyfarniad beirniad fod ar sail gwerth y gwaith, heb wybod enw cystadleuwyr na dim am eu hunaniaeth.

Os oes angen, cyn cyhoeddi neu berfformio gwaith, gall yr Eisteddfod ddefnyddio gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i'w chynghori.

A Chynnig 2 yn nodi: Yn ystod y broses feirniadu yng nghystadlaethau cartref yr Eisteddfod Genedlaethol, lle mae cystadleuwyr yn ymgeisio dan ffugenw, mae angen gwarchod cyfrinachedd cystadleuwyr yn llwyr - ac eithrio cystadlaethau unigol lle nad yw hynny'n berthnasol.

Os oes defnydd o ddarllenydd sensitifrwydd yn ystod y broses feirniadu, mae angen nodi hynny yn y feirniadaeth, gan grybwyll y rheswm, y cyngor a'r casgliad.

Nodwyd fod pwynt cyntaf y ddau gynnig eisoes yn weithredol.

Mae'r awdur a'r dramodydd Dr Gareth Evans-Jones o Brifysgol Bangor yn cynghori gweisg ar sut i sicrhau cynrychiolaeth deg a chydraddoldeb mewn llenyddiaeth.

Yn y gorffennol mae wedi dweud bod angen ystyried cael pobl arbenigol yng Nghymru i sicrhau sensitifrwydd mewn llenyddiaeth er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg a chydraddoldeb.

Roedd un o benaethiaid y Cyngor Llyfrau yn cytuno ac yn dweud bod y cyngor wedi trefnu hyfforddiant i weisg, ond mai'r cyhoeddwyr sy'n penderfynu a oes angen darllenwyr sensitifrwydd.

Ond dywedodd Arwel Jones, pennaeth datblygu cyhoeddi y Cyngor Llyfrau, bod angen amddiffyn hawl pob awdur i ysgrifennu y tu hwnt i'w brofiad, ac ar yr un pryd sicrhau amrywiaeth o awduron.

'Dylai'r gystadleuaeth fod yn bur'

Mae'r newyddiadurwr a'r prifardd Dylan Iorwerth yn dadlau mai ar ôl y feirniadaeth y dylid galw ar unrhyw ddarllenydd sensitifrwydd, ac nid yn ystod y broses feirniadu.

"Mae'r Eisteddfod yn amlwg eisiau trio datrys y peth, ond maen nhw fel tasen nhw eisiau creu rhyw gyfundrefn eitha' haearnaidd rŵan lle bydd gan y beirniad yr hawl i fynd at ddarllenydd sensitifrwydd cyn dyfarnu.

"Yn ein barn ni a rhai sydd yn credu fel fi, mae hyn yn dod ar yr amser anghywir - maen nhw yn trio creu cyfundrefn rownd rhywbeth na allwch chi ddim o'i reoli, na ddylech chi ddim trio rheoli."

"Felly dylai'r gystadleuaeth fod yn weddol bur felly.

"Cystadleuydd dienw, beirniad 'da chi yn gwybod pwy ydyn nhw, ac wedyn mae'r dyfarniad yn cael ei wneud ar sail ydy'r gwaith o werth llenyddol, neu werth drama, neu beth bynnag.

"Ac wedyn mae angen i'r Steddfod benderfynu ydyn nhw yn cyhoeddi, ydyn nhw yn perfformio'r darn ai peidio, a dyna pryd mae sôn am ddarllenydd sensitifrwydd, dyna pryd mae sôn am gyngor cyfreithiol."

Greta Siôn a enillodd Fedal y Dramodydd y llynedd ac fe gafodd ei drama ei pherfformio ar y maes brynhawn Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Greta Siôn enillodd Fedal y Dramodydd y llynedd, ac fe gafodd ei drama ei pherfformio ar y maes brynhawn Mercher

Yn ymateb ar Dros Frecwast, dywedodd llywydd llys yr Eisteddfod, Nic Parry mai "y cyfan sydd wedi cael ei awgrymu ydy, yn yr oes sydd ohoni - mewn oes lle mae cymaint o feysydd newydd anghyfarwydd yn cael eu trafod yn ein llenyddiaeth ni - os ydy y beirniaid yn teimlo, 'mae hwn yn waith da ond ydy o yn gywir? Ydy o'n anghyfreithlon? Dwi ddim yn gyfarwydd gyda'r maes yma - 'ga i ofyn am gyngor arbenigwr?'

"Cewch! Dyna'r cyfan ydy o.

"Os ydyn nhw yn dewis peidio, does neb yn mynd i orfodi iddyn nhw 'neud.

"Ond mae unrhyw un sydd yn dweud bod hwn yn ymdrech i roi cyfundrefn ar y beirniaid yn camddeall y sefyllfa yn llwyr.

"Mae o yna i'w helpu os ydyn nhw angen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig