Arestio dyn 50 oed ar amheuaeth o lofruddio ar ôl canfod corff mewn tŷ

Bryn-y-Ffynnon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Bryn y Ffynnon fore Sul i gysylltu â nhw

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 50 oed o ardal Wrecsam wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 46 oed yn ardal Brymbo ar gyrion y ddinas.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ym Mryn-y-Ffynnon yn y pentref ddydd Iau wedi i bryder gael ei godi am berson oedd heb gael ei weld ers rhai dyddiau.

Fe gafodd y dyn ei ganfod yn farw yn yr eiddo.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Bryn-y-Ffynnon fore Sul, 21 Mehefin, ac a allai fod wedi gweld neu glywed unrhyw beth anarferol, i gysylltu â nhw.

Maen nhw hefyd yn "awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â deunydd teledu cylch cyfyng, camera cloch drws neu dashcam o'r ardal ar y diwrnod hwnnw."

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y bydd presenoldeb heddlu yn parhau yn yr ardal tra bod yr ymchwiliad yn parhau.