Anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad,

Bryn Jones oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Wrecsam yn 2025

  • Cyhoeddwyd

Seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ddydd Mercher.

Bryn Jones oedd enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025.

Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Mur' neu 'Muriau'.

Medal Ryddiaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r enillydd yn derbyn medal a £750

Y beirniaid eleni yw Meleri Wyn James, Iwan Rhys ac Angharad Price.

Mae'r fedal eleni yn rhoddedig gan Hazel, Geralyn, ac Eirlys Non er cof am eu rhieni, Gwynfi a Megan Williams, Blaenmorw, Capel Newydd i ddiolch am fagwraeth hyfryd a'u trwytho yn y "pethe".

Mae'r wobr ariannol o £750 yn rhoddedig gan John a Bethan Davies, Cwmbetws - John Davies yw cadeirydd y pwyllgor gwaith.

Mae'r seremoni a'r gystadleuaeth yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Fe fydd yr orsedd yn bresennol yn y seremoni - yn wahanol i'r seremoni yn cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen ddydd Mawrth.

Blue Book
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llyfr Glas Nebo, enillydd y gystadleuaeth hon yn 2018, wedi ennyn cryn sylw ac wedi'i chyfieithu i sawl iaith

Cafodd y fedal hon ei chyflwyno am y tro cyntaf yn 1937 - a hynny i J O Williams am ei gyfrol 'Tua'r Gorllewin ac Ysgrifau Eraill'.

Mae'r wobr wedi cael ei hatal droeon - y tro diwethaf i hynny ddigwydd oedd yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012.

Mae nifer o gyfrolau'r gystadleuaeth hon wedi cael cryn sylw - yn 2023 fe enillodd cyfieithiad o Lyfr Glas Nebo fedal Yoto Carnegie.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.