'Angen mwy o gefnogaeth i ddiogelu dyfodol pysgota plu'

Ethan Thomas a Iestyn Maddocks yn pysgota ar Lyn Frongoch sy'n eiddo i Glwb Pysgota Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Ethan Thomas a Iestyn Maddocks yn pysgota ar Lyn Frongoch sy'n eiddo i Glwb Pysgota Aberystwyth

GanRhian Hutchings
Newyddion Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae rhai o aelodau o dîm pysgota plu ieuenctid Cymru yn galw am fwy o gydnabyddiaeth i bysgota fel camp wrth iddyn nhw ddychwelyd ar ôl cystadlu yn Iwerddon dros y dyddiau diwethaf.

Er bod ffigyrau gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos cynnydd cyson yn nifer y trwyddedau pysgota sydd wedi cael eu gwerthu dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r pysgotwyr ifanc hyn yn gobeithio y bydd mwy o gyllid yn sicrhau bod y gamp yn parhau i dyfu.

Dywed Chwaraeon Cymru, mai Angling Cymru yw'r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer pysgota yng Nghymru a bod nhw'n derbyn buddsoddiad blynyddol.

I'r tîm ifanc, yn ogystal â chynrychioli eu gwlad, mae pysgota yn ffordd o dreulio amser yn yr awyr agored.

Mae Iestyn Maddocks, 18, yn teimlo'n gryf bod angen i "bobl ifanc ddechrau pysgota oherwydd dyna yw dyfodol y gamp".

Mae Lewis John Thomas (chwith) yn falch iawn o lwyddiant y tîm ar ôl yr holl hyfforddi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lewis John Thomas (chwith) yn falch iawn o lwyddiant y tîm ar ôl yr holl hyfforddi

Mae Ethan Thomas yn 14 a fe yw aelod ifancaf y tîm.

"Dwi wedi tyfu lan yn pysgota gyda Dad a Dad-cu. Mae'n anrhydedd mawr i fod ar y tîm cenedlaethol."

I Ethan, yn ogystal â'r cyfle i hyfforddi gyda'i ffrindiau mae pysgota hefyd yn gyfle i fod tu allan.

"Mae gallu bod mas yn yr awyr agored ym myd natur yn gret a mae e wedi golygu fy mod i ar fy ffon i llai."

"Mae'n bwysig i bobl ifanc i fod allan yn yr awyr agored ar ddiwrnod fel hyn, sdim eisiau bod mewn tu fewn, bod mas yn pysgota yw'r peth gorau i 'neud dwi'n credu.

"Ma' fe'n anrhydedd i fod yn rhan o dim pysgota Cymru.

"Mae'r trip i Iwerddon wedi bod yn lot o arian i'r mamau a tadau sy'n rhoi lllawer i ni i gael popeth sydd angen arnon ni i fynd i Iwerddon," medd Gruffudd Williams.

O'r chwith, Iestyn Maddocks, Lewis John Thomas, Gruffudd Williams ac Ethan Thomas yn cystadlu yn IwerddonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith, Iestyn Maddocks, Lewis John Thomas, Gruffudd Williams ac Ethan Thomas yn cystadlu yn Iwerddon

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, cafodd 44,231 o drwyddedau pysgota eu gwerthu yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2025 a diwedd mis Mawrth 2026 - cynnydd o 4.4%.

Mae'r trwyddedau yn cyfrannu at gadwraeth y llynnoedd sy'n allweddol fel mannau hyfforddi.

Aelod ifanc arall o'r tîm yw Lewis John Thomas sydd wedi bod yn pysgota gyda'i Dad a'i Dad-cu ers yn ifanc.

"Does dim llawer o bobl yn gallu dweud eu bod nhw wedi cynrychioli Cymru a dwi'n prowd iawn o'r bois. Ma rhywbeth fel hyn yn codi ymwybyddiaeth y gamp ac yn helpu pobl i ddechre," meddai.

Tîm pysgota plu ifanc Cymru yn cystadlu yn IwerddonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Tîm pysgota plu ifanc Cymru yn cystadlu yn Iwerddon

Mae John Thomas, sy'n dad i Ethan, yn hynod o falch o'i lwyddiant ond yn cydnabod bod y cystadlu a'r hyfforddiant yn gallu bod yn ddrud.

"Mae digon o glybiau a chefnogaeth leol ond heb y rhieni bydde'r tîm methu cystadlu a theithio," meddai.

Mae pysgota hefyd yn rhoi'r cyfle i Ethan i dreulio amser gyda'i dad ac i ddianc am ychydig.

"Mae llawer o bwysau allanol ar blant a phobl ifanc gyda'r ysgol a chyfryngau cymdeithasol. Mae'n bwysig cael mwy o gydnabyddiaeth a chyllid fel bod rhieni ddim yn gyfrifol am y gost i gyd," ychwanegodd.

Yn ôl Cymdeithas Pysgota Eog a Brithyll Cymru sy'n gyfrifol am y tîm, "mae'r sefyllfa yn arbennig o anodd i'r tîm ieuenctid gan fod yn rhaid i riant deithio gyda'r pysgotwr ifanc gan gynyddu'r gost".

"Rydym yn bryderus iawn nad oes unrhyw gefnogaeth gan Chwaraeon Cymru yn mynd i mewn i bysgota plu yng Nghymru," medd llefarydd.

Mewn ymateb dywedodd sefydliad Chwaraeon Cymru, mai Angling Cymru yw'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer pysgota yng Nghymru a'u bod nhw'n derbyn buddsoddiad blynyddol gan Chwaraeon Cymru.

"Fel llawer o gampau eraill, mae pysgota yn wynebu heriau parhaus wrth gydbwyso'r cyllid sydd ar gael yn erbyn anghenion y gamp," meddai Angling Cymru.

"Heb os, byddai buddsoddiad ychwanegol a mwy o gydnabyddiaeth yn cael effaith gadarnhaol ar bysgota ac yn helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc - datblygu eu sgiliau a symud ymlaen o fewn y gamp."

Pynciau cysylltiedig