Cadeirydd newydd YesCymru am 'dorri tir newydd' wedi cyfnod heriol

Rob HughesFfynhonnell y llun, YesCymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rob Hughes fod cael ei ethol yn gadeirydd yn "anrhydedd mawr" iddo

  • Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd newydd YesCymru yn dweud bod rhaid i'r mudiad "fod yn wahanol ar sawl lefel" os am gryfhau'r achos dros annibyniaeth.

Cafodd Rob Hughes ei ethol yn gadeirydd yn dilyn cyfarfod o fwrdd y mudiad ar 27 Gorffennaf, gan olynu Phyl Griffiths yn y rôl.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Mr Hughes fod cynlluniau mawr ar y gweill i "geisio torri tir newydd" wedi cyfnod heriol i'r mudiad.

"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn, yn enwedig o ystyried y sefyllfa pan roedd Phyl yn cymryd yr awenau, roedd lot mwy o faterion i ddelio â nhw a phethau yn gyffredinol yn fwy heriol, ond dwi'n teimlo fy mod gen i lechen lan," meddai.

Wrth drafod y gwahanol heriau y mae YesCymru wedi eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf, dywedodd ei fod yn hyderus fod systemau mwy proffesiynol mewn lle i osgoi problemau tebyg yn y dyfodol.

Tair blynedd yn ôl daeth i'r amlwg fod "data gwallus" yn golygu bod ffigwr o 18,000 o aelodau a gyhoeddwyd ar gyfrif cymdeithasol YesCymru yn anghywir, ac mai rhwng 6,500 a 7,000 oedd y nifer cywir.

Esboniodd Mr Hughes fod nifer yr aelodaeth wedi gostwng o dan 6,000 yn y blynyddoedd wedi hynny, ond eu bod wedi "ailadeiladu nawr i'r un man ag oedden ni dwy flynedd yn ôl".

"Mae hanes YesCymru wedi gweld nifer o gyfnodau gwahanol - lot o lan a lawr - ond mae'r tair blynedd diwethaf wedi bod yn gyson.

"Ni 'di ceisio sefydlogi pethau a ni yn dechrau gweld cynnydd nawr yn y mannau pwysig - sef aelodaeth, pa mor berthnasol y'n ni fel mudiad, a'r ffordd ry'n ni'n ymgyrchu."

Ychwanegodd mai targed y mudiad yw sicrhau 7,000 o aelodau cyn gynted â phosib, gyda'r nod o gyrraedd 10,000 o fewn y 18 mis nesaf.

Bwrdd y mudiad 'ddim yn cynrychioli Cymru'

Er yn canmol gwaith ei ragflaenydd, mynnodd Mr Hughes bod yn rhaid i'r mudiad newid ac addasu os am dyfu.

"Mae angen i ni drefnu cyfres o ymgyrchoedd, casglu data, siarad efo cymunedau dros Gymru a mudiadau eraill - a dim y rhai 'saff' - mae'n rhaid ceisio torri tir newydd."

Nododd y byddai'n hoffi gweld y mudiad yn gwneud cynnydd hefyd o ran nifer y menywod a nifer y bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ar y bwrdd rheoli.

"Dyw'r bwrdd fel y mae ddim yn cynrychioli Cymru," meddai.

"Mae 80% yn ddynion, nifer tua'r un oedran, yn wyn - felly mae gwaith i'w wneud i ddenu pobl o gefndiroedd gwahanol."

Gorymdaith Y Rhyl
Disgrifiad o’r llun,

Mae YesCymru yn trefnu gorymdeithiau cyson mewn gwahanol rannau o'r wlad

Fe gadarnhaodd Mr Hughes fod YesCymru bellach wedi cael cyfarfod gydag aelodau llywodraeth newydd Plaid Cymru - y cyfarfod swyddogol cyntaf i'r mudiad ei gael gydag unrhyw lywodraeth ym Mae Caerdydd.

Er yn disgrifio'r trafodaethau hynny fel rhai "positif iawn" dywedodd eu bod nhw'n benderfynol o ddenu pobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

"Does dim ots pwy sydd mewn llywodraeth," meddai, "y peth pwysig i ni yw dadlau'r achos dros annibyniaeth a dyfodol gwell i Gymru".

'Angen bod mor dryloyw â phosib'

Ychwanegodd Mr Hughes y byddai'n hoffi gweld newid i'r system bleidleisio a gafodd ei ddefnyddio i'w ethol ef i'w swydd newydd.

Mae'r system bresennol yn golygu mai aelodau bwrdd YesCymru sydd â hawl i ddewis cadeirydd, ac nad oedd gan aelodau llawr gwlad yr hawl i bleidleisio.

"Dwi'n berson sy'n credu, os ydych chi'n ymuno â mudiad llawr gwlad, yna mae llais pawb mor bwysig â'i gilydd.

"Does dim wedi newid o ran y system ers sefydlu YesCymru, ond hoffwn i weld y penderfyniadau mawr i gyd yn nwylo ein haelodaeth ni.

"Mae angen i ni drio bod mor dryloyw â phosib, achos weithiau dwi'n credu ei bod hi'n hawdd i fudiadau anghofio pwy y'n nhw - mudiad llawr gwlad ydyn ni, a dyna sy'n bwysig."

Gobeithio am refferendwm erbyn 2032

Ddydd Sul ar faes yr Eisteddfod, fe gyhoeddodd Rob Hughes mai dyhead y mudiad oedd gweld refferendwm ar annibyniaeth erbyn 2032.

Er iddo gydnabod fod llawer o aelodau YesCymru yn falch o weld llywodraeth Blaid Cymru wedi ei hethol yn ddiweddar yn y Senedd, mae gwahaniaeth barn rhwng y blaid a'r mudiad ar y pwnc, meddai.

"Dydy Llywodraeth Cymru ddim cweit ar yr un dudalen â ni ar hyn o bryd [ar annibyniaeth]," meddai.

"Dechrau mae'r gwaith i ni nawr bod Plaid Cymru mewn llywodraeth, nid y diwedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig