'Gobaith' y gallai profion newydd gyflymu diagnosis endometriosis

Molly
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Molly, mae cael diagnosis yn "golygu dechrau deall beth sy'n digwydd i dy gorff"

GanGwen Aeron
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd a'r DJ Molly Palmer yn un o'r rhai sy'n gobeithio y bydd profion endometriosis newydd yn helpu pobl i gael atebion yn gynt.

Mae'r profion yn cael eu hargymell yng nghanllawiau drafft NICE a'r gobaith yw y gallan nhw helpu i gyflymu diagnosis o'r cyflwr.

Dywed Molly Palmer ei bod wedi cael symptomau am flynyddoedd cyn cael diagnosis.

"Ro'n i'n teimlo fel petai neb yn fy nghredu. 'Nes i ddechrau cwestiynu fy hun ac o'n i wir yn meddwl mai fi oedd y broblem.

"Pan ti'n byw gyda phoen am gymaint o amser heb wybod pam, mae hynny'n cael effaith enfawr ar bob rhan o dy fywyd.

"Petawn i wedi gallu cael prawf fel hyn yn llawer cynharach, byddwn i wedi osgoi blynyddoedd o ansicrwydd. Mae cael diagnosis yn golygu dechrau deall beth sy'n digwydd i dy gorff," meddai.

Begw
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Begw y byddai prawf anfewnwthiol wedi gwneud "gwahaniaeth enfawr" iddi

Gallai pobl sy'n amau bod ganddyn nhw endometriosis gael mynediad posib at ddau brawf anfewnwthiol (non-invasive) drwy eu meddyg teulu yn y dyfodol.

Mae un yn brawf poer sy'n chwilio am ddeunydd genetig sy'n gysylltiedig â'r cyflwr, tra bod y llall yn mesur signalau trydanol yn y coluddyn drwy ddefnyddio synwyryddion ar y stumog.

Mae endometriosis yn effeithio ar tua un o bob 10 menyw, ond gall llawer wynebu blynyddoedd o aros cyn cael diagnosis.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried gweithredu'r profion yn dilyn argymhellion terfynol NICE.

Mae Begw Fussell, myfyrwraig 20 oed, yn dweud bod cael diagnosis wedi bod yn brofiad "poenus a blinedig".

Dechreuodd gael poenau pan oedd hi tua 12 oed, ond bu'n rhaid iddi aros tan y llynedd cyn cael laparosgopi, sef y prif ddull o wneud diagnosis o endometriosis ar hyn o bryd.

"Ma' fe'n llawdriniaeth lle mae meddygon yn gwneud tyllau bach yn y bol ac yn defnyddio camera i edrych y tu mewn."

"Ges i bedwar toriad. Roedd e'n broses poenus iawn," meddai Begw.

"Dwi'n cofio methu cerdded na symud yn iawn am dri neu bedwar diwrnod wedyn, ac roedd y nwy gafodd ei ddefnyddio yn ystod y llawdriniaeth yn achosi poen ofnadwy hefyd.

"Bu'n rhaid i mi gymryd bron mis i ffwrdd o'r brifysgol.

"Doeddwn i ddim yn gallu gwneud llawer mwy na gorwedd yn y gwely a cheisio gwella."

'Atal y daith hir cyn cael diagnosis'

Byddai prawf anfewnwthiol wedi gwneud "gwahaniaeth enfawr i fi", ychwanegodd Begw.

"Pe bawn i wedi gallu cael prawf gwaed neu brawf wrth ddefnyddio poer, fyddwn i ddim wedi gorfod mynd drwy lawdriniaeth na chymryd wythnosau i ffwrdd o fy mywyd.

"Byddai hynny wedi bod yn llawer haws, nid yn unig i mi fel claf, ond hefyd i'r GIG.

"Dwi'n gobeithio hefyd y bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael yr hyfforddiant cywir fel bod y profion yn gallu helpu cymaint o bobl â phosibl."

Mae Celyn Jones-Hughes, sy'n arbenigo ym maes iechyd menywod, yn dweud y gallai'r profion newydd atal llawer o bobl rhag wynebu'r un daith hir at ddiagnosis.

"Cefais ddiagnosis o endometriosis flwyddyn yn ôl, ond dim ond ar ôl dwy flynedd o fynd yn ôl ac ymlaen at y meddyg teulu a mynnu mai endometriosis oedd yn gyfrifol am fy symptomau."

CelynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ol Celyn mae'r profion yn "rhoi gobaith go iawn y bydd mwy o bobl yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw yn llawer cynt"

"Dwi'n ffodus. Ar ôl pum mlynedd yn yr ysgol feddygol a gradd mewn iechyd menywod, roedd gen i'r wybodaeth i adnabod y symptomau.

"Ond dydy'r rhan fwyaf o bobl ddim yn cael y fantais yna.

"Bu'n rhaid i mi aros blwyddyn am sgan mewnol, ac wedyn naw mis arall cyn gweld gynaecolegydd.

"Er bod fy nhaith i'n fyrrach na thaith llawer o bobl eraill, roedd hi'n dal yn llawer rhy hir."

Dywedodd y byddai prawf fel y rhai sy'n cael eu hargymell wedi newid ei phrofiad yn llwyr.

'Diagnosis cynnar yn hollbwysig'

"Wrth edrych yn ôl, dwi wedi bod yn cael symptomau ers oeddwn i'n 18 oed," meddai Celyn.

"Petai prawf fel hwn wedi bod ar gael bryd hynny, byddwn i wedi gwybod yn llawer cynt mai endometriosis oedd yn achosi'r symptomau, yn hytrach na threulio blynyddoedd yn cael profion gwahanol.

"Mae diagnosis cynnar yn hollbwysig. Mae endometriosis yn gallu gwaethygu dros amser, ac mae pobl yn parhau i fyw gyda phoen tra maen nhw'n aros am atebion.

"Os gall y profion newydd leihau'r amser mae pobl yn ei dreulio'n aros am ddiagnosis, mae hynny'n rhoi gobaith go iawn y bydd mwy o bobl yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw yn llawer cynt."

Celyn (dde) a'i ffrind Elin (chwith)Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Celyn (dde) a'i ffrind Elin (chwith) wedi sefydlu y podlediad 'Paid Ymddiheuro' sy'n trafod iechyd menywod

Ar hyn o bryd, laparosgopi yw'r prif ddull o wneud diagnosis o endometriosis, er bod sgan MRI yn gallu helpu mewn rhai achosion.

Nid yw'r profion newydd wedi'u cynllunio i gymryd lle'r dulliau presennol yn llwyr, ond mae disgwyl iddynt helpu meddygon i gyfeirio cleifion at driniaeth yn gynt ac osgoi llawdriniaeth ddiangen mewn rhai achosion.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Rydym yn croesawu canllawiau drafft gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

"Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau a'r cymorth sydd ar gael i fenywod ag endometriosis.

"Byddwn yn ystyried sut i weithredu'r profion hyn fel rhan o ddatblygiad llwybr gofal sylfaenol yn dilyn argymhellion terfynol NICE, sydd i'w cyhoeddi ym mis Hydref 2026."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.