Pum aelod gang yn euog o fanteisio ar ferched ifanc yn rhywiol

Mustafa Iqbal, Mohamed Usman Arshad a Ziaullah BadshahFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Mustafa Iqbal, Mohamed Usman Arshad a Ziaullah Badshah yn euog o dreisio'r merched

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar dyn a dynes oedd yn rhan o gang a fanteisiodd yn rhywiol ar dair merch yn eu harddegau ar ôl rhoi cyffuriau iddyn nhw wedi eu cael yn euog o gyfres o droseddau.

Fe ddyfarnodd reithgor yn Llys y Goron Caernarfon fod y dynion yn rhan o gynllwyn i fasnachu'r merched, oedd yn 14, 15, ac 16 oed ar y pryd.

Dyfarnodd hefyd fod tri o'r dynion - Mustafa Iqbal, 43, Ziaullah Badshah, 25, ac Mohamed Usman Arshad, 36 - yn euog o'u treisio.

Daeth y cynllwyn i'r amlwg wedi i ffrind arall - Jaswinder Singh, 61 - fynd ag un o'r merched ar drip i Lundain, gan ysgogi pryder ynghylch ei lles.

Cafwyd y pumed diffynnydd - Sarah Gray, 53, o bentref Gronant - yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau i un o'r merched ac o gynorthwyo troseddwr trwy adael i Iqbal ddefnyddio ystafell wely yn ei chartref ble y treisiodd un o'r merched.

Bydd y pump yn cael eu dedfrydu ar 25 Medi.

Jaswinder Singh a Sarah GrayFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Jaswinder Singh ag un o'r merched ar drip i Lundain, tra bod Sarah Gray yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a chynorthwyo troseddwr

Mewn achos a barodd am dri mis, clywodd y llys fod Iqbal, deliwr cyffuriau lleol a phrif droseddwr yr achos, wedi cwrdd dau o'r dioddefwyr yn Y Rhyl, Plentyn B a Phlentyn C, a'u perswadio i fynd i'w gartref

Ymunodd Arshad, perchennog siop goffi leol, a'i ffrind yntau Badshah â nhw, ac aeth y tri ati i gam-drin y merched yr un diwrnod ac ar achlysuron eraill mewn mannau eraill yn y dref.

Cafwyd Iqbal hefyd yn euog o dreisio Plentyn A, oedd yn byw mewn cartref gofal, a rhoi cocên a chanabis iddi fel tâl am wasanaethau rhywiol.

Clywodd y llys fod Plentyn A wedi mynd at yr heddlu ar ôl cael ei rhoi mewn gefynnau (handcuffs) a'i threisio ganddo.

Dywedodd yr erlyniad fod y dynion wedi defnyddio'r merched fel "nwyddau rhywiol".

Mae'r dynion wedi eu cadw yn y ddalfa hyd nes eu gwrandawiad dedfrydu ac mae Gray wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig